Neidio i'r cynnwys

Ani Glass

Oddi ar Wicipedia
Ani Glass
FfugenwAni Glass Edit this on Wikidata
GanwydAnna Eiluned Saunders
1984 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://aniglass.bandcamp.com/

Cantores o dras Gymreig a Chernywaidd yw Anna Eiluned Saunders (ganwyd 20 Hydref 1984 yng Nghaerdydd)[angen ffynhonnell] sy'n fwy adnabyddus o dan ei henw llwyfan Ani Glass. Mae hi hefyd yn arlunydd ac yn ffotograffydd[1] ac mae hi wedi astudio am PhD mewn Datblygiad Economaidd a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd[2].

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Mae ei chwaer Gwenno hefyd yn canu yn Gymraeg ac yn Gernyweg. Ei thad yw Tim Saunders, sy'n fardd ac yn ieithydd Cernyweg. Ganwyd Ani yng Nghaerdydd a chafodd hi ei magu yn siarad Cernyweg a Chymraeg.[3]

Gyrfa gerddorol

[golygu | golygu cod]

Gyrfa gynnar (2004–2011)

[golygu | golygu cod]

Cyn ymuno â'i chwaer yn y Pipettes yn 2008, roedd hi'n aelod o'r grŵp ‘Genie Queen’, a reolwyd gan Andy McCluskey o'r grŵp Orchestral Manoeuvres in the Dark. Fel aelod o'r Pipettes, hi ysgrifennodd a recordiodd ail albwm y grŵp, Earth vs The Pipettes yn 2010.

Wedi'r Pipettes (2011–2020)

[golygu | golygu cod]

Ar ôl i'r Pipettes chwalu yn 2011 daeth yn ôl i Gaerdydd. Hi oedd un o aelodau'r band The Lovely Wars[4] cyn rhyddhau Ffôl, ei sengl unigol gyntaf hi yn 2015. [5] Dewiswyd Ffôl fel cân yr wythnos ar BBC Radio Cymru a chafodd ei chwarae hefyd ar BBC 6 music.[6] Ar ôl cyhoeddi tair cân fel lawrlwythiad digidol yn ystod 2015-6, daeth ei EP cyntaf, Ffrwydrad Tawel yn 2017. Cafodd yr EP, Ffrwydrad Tawel , ei hysbrydoli gan arddangosfa gelf o'r un enw gan yr arlunydd Ivor Davies.[7]

Dilynodd ei halbwm gyntaf yn 2020, sef Mirores (Observer)[8], gyda chaneuon yn y Gernyweg, Saesneg a Chymraeg. Enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020[9][10] yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020.

Dylanwad diwylliannol

[golygu | golygu cod]

Urddwyd hi'n fardd yng Ngorsedh Kernow yn 2013 gyda'r enw barddol 'Mirores'.

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gan The Pipettes

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Albwm Yn y Siart
DU
2010 Earth vs. The Pipettes

Cyhoeddiadau albwm fel cantores unigol

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Enw Label Ffurf Iaith
2020 Mirores[11] Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol, crynoddisg, feinyl Cymraeg, Cernyweg, Saesneg

Cyhoeddiadau EP Unigol

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Enw Label Ffurf Iaith
2015 "Ffôl" / "Little Things" Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg, Saesneg
2016 Y Ddawns Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg
2017 Ffrwydrad Tawel Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg
2018 Peirianwaith Perffaith Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg
2020 Ynys Araul Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Selar, Y. (2018-09-26). "Peirianwaith Perffaith Ani Glass". Y Selar. Cyrchwyd 2025-08-21.
  2. Wright, Ellyn (2020-03-06). "Reflections: Ani Glass releases album inspired by Cardiff". The Cardiffian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-21.
  3. Wright, Ellyn (2020-03-06). "Reflections: Ani Glass releases album inspired by Cardiff". The Cardiffian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-21.
  4. "INTERVIEW: The Lovely Wars - Archive Of God Is In The TV" (yn Saesneg). 2013-07-01. Cyrchwyd 2025-08-21.
  5. electricityclub (2016-06-29). "Introducing ANI GLASS". ELECTRICITYCLUB.CO.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-21.
  6. "Ani Glass's new single 'Y Ddawns' (The Dance) out 27th June 2016?!?!". americymru.net. Cyrchwyd 2025-08-21.
  7. Rockshot (2016-08-17). "Interview: Ani Glass, Heart of Ani. | Rockshot Magazine" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-21.
  8. "Ani Glass". FOCUS Wales 2026 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-21.
  9. "Welsh Language Album of the Year shortlist announced | Eisteddfod". eisteddfod.wales. Cyrchwyd 2025-08-21.
  10. "NEWS: Ani Glass Wins Welsh Language Album Of The Year 2020 - God Is In The TV" (yn Saesneg). 2020-08-01. Cyrchwyd 2025-08-21.
  11. Gareth Kent (10 Mawrth 2020). "Album: Mirores by Ani Glass". Wales Arts Review (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Tachwedd 2020.