Tim Saunders
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Tim Saunders | |
---|---|
Ganwyd | 7 Chwefror 1952 ![]() Northumberland ![]() |
Man preswyl | Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd ![]() |
Plant | Gwenno Saunders, Ani Glass ![]() |
Bardd yn yr iaith Gernyweg yw Tim Saunders, sy'n cyfansoddi cerddi ac yn ysgrifennu erthyglau newyddiadurol yn Gymraeg, Gwyddeleg a Llydaweg hefyd. O dras Gernywaidd, mae o'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n cefnogi hunanlywodraeth i Gernyw.
Mae'n aelod o Orsedd Cernyw, yn hanesydd llên ac yn olygydd The Wheel – blodeugerdd o gerddi Cernyweg diweddar, o 1850–1980.[1] Mae wedi cyhoeddi High tide, casgliad o'i gerddi Cernyweg ei hun o'r cyfnod 1974-1999.
Roedd merched Tim: Ani a Gwenno Saunders, yn gantorion yn y band "indie" The Pipettes, gyda Gwenno yn chwarae'r allweddau hefyd. Mae Gwenno bellach yn canu ar ei liwt ei hun ac wedi teithio'r byd yn perfformio.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Tim Saunders". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-08. Cyrchwyd 2008-12-17.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Cernyweg) Cerdd Gernyweg gan Tim Saunders