Daniel Lloyd a Mr Pinc

Oddi ar Wicipedia
Daniel Lloyd a Mr Pinc
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDaniel Lloyd Edit this on Wikidata

Grwp roc ysgafn ydy Daniel Lloyd a Mr Pinc sy'n canu caneuon melodig a phoblogaidd. Y prif leisydd a'r cyfansoddwr yw Daniel Lloyd sy'n wreiddiol o Rosllannerchrugog. Recordwyd eu cryno ddisg cyntaf, Goleuadau Llundain yn 2004; ers hynny maent wedi perfformio ar lwyfannu led-led Cymru a thu-hwnt.[1]

Gwybodlen Cerddorion[golygu | golygu cod]

Aelodau: Daniel Lloyd (llais a gitâr), Elis Roberts (drums), Aled 'Cae Defaid' Morgan (gitâr), Dai (allweddellau) a Robin Owain Jones (bass).

Ymysg y cyn-aelodau mae Mei Roberts (bâs), Betsan Haf Evans (congas a lleisiau cefndir), Rich 'Doc' Roberts (gitâr), Gareth Coleman (allweddellau), Jeni Lyn (cornet), a Sara Mair Bowen (ffidl) - gyda Phyl Harries (Sax), Elain Llwyd (lleisiau cefndir), a Ffion Llwyd (lleisiau cefndir) yn ymuno yn achlysurol.

Cafodd y band seibiant yn 2011 cyn ail-ffurfio yn 2017 gan ryddhau'r sengl Mesur y Dyn

Discograffi[golygu | golygu cod]

  • Goleuadau Llundain (rasal)
  • Rhagfyr o Hyd (rasal)
  • Mesur y Dyn (rasal)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Oxjam hopes to raise cash with Wenglish". Wrexhammusic.co.uk. Cyrchwyd 20 July 2020.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato