Yws Gwynedd
Gwedd
Yws Gwynedd | |
---|---|
Arddull | roc indie |
Band roc Cymraeg yw Yws Gwynedd. Prif leisydd y band yw Ywain Gwynedd. Aelodau eraill y band yw Ifan Davies, Emyr Prys Davies a Rich Roberts. Enillodd Ywain Gwynedd y wobr am Artist unigol am y drydedd flwyddyn yn olynol (2015-17) yng ngwobrau’r Selar.[1]
Enillodd y band clod efo eu halbwm cyntaf Codi / \ Cysgu yn 2014.[2]
Poblogrwydd Sebona Fi
[golygu | golygu cod]Heb os cân fwyaf adnabyddus Yws Gwynedd yw Sebona Fi, cân a ddaeth i'w chysylltu â rhediad syfrdannol o llwyddiannus Cymru yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth UEFA Euro 2016. Ar 23 Gorffennaf 2023 croesodd y gân dros filiwn o ffrydiau lawr-lwytho ar lwyfan gerddoriaeth Spotify, yr 8fed gân Gymraeg i groesi'r trothwy eiconig. Nododd Yws Gwynedd fod y gân yn cael tua 800 ffrwd lawrlwytho y dydd.[3][4]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Senglau
[golygu | golygu cod]Teitl | Ochr 2 | Blwyddyn | Albwm | Mwy |
---|---|---|---|---|
Fy Nghariad Gwyn | n/a | 2014 | n/a | Sengl Nadolig |
Dy Anadl di | Pan Ddaw Yfory | 2015 | n/a | |
Hogia Ni | All the Way | 2016 | n/a | gyda Gwerinos |
Sgrîn | n/a | 2016 | Anrheoli | |
Anrheoli | n/a | 2016 | Anrheoli | |
Deryn Du | n/a | 2020 | n/a | |
Ni Fydd y Wal | n/a | 2021 | n/a | |
Dau Fyd | n/a | 2022 | n/a |
Albymau
[golygu | golygu cod]Teitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Blwyddyn |
---|---|---|---|---|
Codi / \ Cysgu | Albwm | Recordiau Côsh Records | 2014 | |
Anrheoli | Albwm | Recordiau Côsh Records | 2017 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan Tafwyl". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-04. Cyrchwyd 2017-03-25.
- ↑ Wales Online - Yws Gwynedd, Candelas and Sŵnami triumphant at Welsh music awards 2015
- ↑ "Sebona Fi: Cân Yws Gwynedd yn cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau". Newyddion S4C. 24 Gorffennaf 2023.
- ↑ "Hon di cael ei ffrydio 1m o weithia ar Spotify. 8fed cân Gymraeg i neud". Twitter bersonol Yws Gwynedd. 23 Gorffennaf 2023.