Brigyn

Oddi ar Wicipedia
Clawr Brigyn 2

Deuawd cerddoriaeth acwstig Cymraeg o bentref Llanrug ger Caernarfon yw Brigyn, a sefydlwyd yn 2004 ac sy'n cynnwys dau frawd: Ynyr ac Eurig. Daeth enw'r band o chwarae ar lythrennau eu henwau (Brodyr Eurig Ynyr). Buont ill dau, hefyd yn aelodau o'r band Epitaff.[1] Lansiwyd eu hail albwm mewn coeden yn Llanymddyfri.[2]

Cymysgedd o gerddoriaeth werin fodern, samplau cerddorol a churiadau electronig sydd i'w glywed gan y brodyr. Mae amrywiaeth eu dylanwadau cerddoroal yn helaeth - o sŵn electronig Bjork, i sŵn gwerinol Simon & Garfunkel ac i gyfansoddwyr clasurol yr 20g. Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf yn 2004 a'r ail yn 2005, bu'r ddau frawd yn teithio o amgylch San Fransisco ac Iwerddon. Yn ystod 2006 fe ryddhaodd y brodyr gasgliad o ganeuon prin ar finyl ac ar iTunes. Yna yn 2007 rhyddhawyd eu halbwm Ailgylchu. Yn ogystal â chyfnodau o deithio a pherfformio'n fyw (gan gynnwys llwyfan Gŵyl y Dyn Gwyrdd) bu'r ddau hefyd yn y stiwdio'n recordio eu trydydd albwm llawn. Yna, ar ddiwedd 2008, wedi iddynt lwyddo i dderbyn caniatâd Leonard Cohen, rhyddhawyd fersiwn Cymraeg arbennig o'r gân fyd-enwog 'Hallelujah'. Lansiwyd eu cynnyrch Saesneg cyntaf yn 2010 a hynny ar Fawrth y 1af gyda'i sengl 'One Way Streets', a'r sengl 'Home/ I Need All The Friends I Can Get' ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn. Rhyddhawyd Brigyn 4 yn Nhachwedd 2014, a Dulog yn Rhagfyr 2015.

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

EP/Sengl[golygu | golygu cod]

  • Brigyn Bach - 11 Tachwedd 2006 (Gwynfryn Cymunedol)
  • Haleliwia - 24 Tachwedd 2008 (Gwynfryn Cymunedol)
  • Yr Arth a'r Lloer - 30 Tachwedd 2009 (Gwynfryn Cymunedol)
  • One Way Streets - 1 Mawrth 2010 (Gwynfryn Cymunedol)
  • Home/I need all the friends I can get (Sengl) - 1 Rhagfyr 2010 (Gwynfryn Cymunedol)

Casgliadau[golygu | golygu cod]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]