San Francisco
| Arwyddair | Gold in Peace, Iron in War |
|---|---|
| Math | charter city and county, dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas fawr, sanctuary city |
| Enwyd ar ôl | Ffransis o Assisi |
| Poblogaeth | 873,965 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Daniel Lurie |
| Cylchfa amser | UTC−08:00, UTC−07:00, Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel |
| Gefeilldref/i | Zürich, Abidjan, Burgas, Caracas, Sydney, Thessaloníci, Taipei, Corc, Haifa, Dinas Ho Chi Minh, Manila, Osaka, Seoul, Shanghai, Vladivostok, Addis Ababa, Assisi, Bangalore, Bwcarést, Caltagirone, Valparaíso, Napoli, Alassio, Belém, Lisbon, Amman, Tref y Penrhyn, Kraków, Ischia, Paris, Kiel, Barcelona, Callao, Guiyang |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ardal Bae San Francisco, San Francisco–San Mateo–Redwood City metropolitan division |
| Sir | Califfornia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 600.592202 km², 600.59028 km² |
| Uwch y môr | 30 metr |
| Gerllaw | Bae San Francisco, Y Cefnfor Tawel, Golden Gate |
| Yn ffinio gyda | Sausalito, Richmond, Alameda, Brisbane, Daly City |
| Cyfesurynnau | 37.775°N 122.4194°W |
| Cod post | 94102, 94103, 94104, 94105, 94107, 94108, 94109, 94110, 94111, 94112, 94114, 94115, 94116, 94117, 94118, 94119, 94120, 94121, 94122, 94123, 94124, 94125, 94126, 94127, 94128, 94129, 94130, 94131, 94132, 94133, 94134, 94137, 94139, 94140, 94141, 94142, 94143, 94144, 94145, 94146, 94147, 94151, 94158, 94159, 94160, 94161, 94163, 94164, 94172, 94177, 94188 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | San Francisco Board of Supervisors |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer San Francisco |
| Pennaeth y Llywodraeth | Daniel Lurie |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | José Joaquín Moraga, Francisco Palóu |
Dinas a sir yng Nghaliffornia yn Unol Daleithiau America yw San Francisco (Dinas a Sir San Francisco). Dyma yw'r bedweredd ddinas mwyaf poblog yng Nghaliffornia a'r drydedd ddinas ar ddeg mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau, gyda 744,230 o bobl yn byw yn y ddinas a 7,533,384 o bobl yn byw yn Ardal Bae San Francisco. San Francisco yw'r ddinas gyda'r dwysedd poblogaeth fwyaf yn y dalaith a'r ddinas gyda dwysedd ail fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Lleolir y ddinas ar ben pellaf penrhyn San Francisco, gyda'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin iddi a Bae San Francisco i'r gogledd a'r dwyrain.
Ym 1776, sefydlodd y Sbaenwyr amddiffynfa wrth y Golden Gate a chenhadaeth a enwyd ar gyfer Ffransis o Assisi. Yn sgîl y Rhuthr am Aur ym 1849, aeth y ddinas trwy gyfnod o dŵf cyflym, a drawsnewidiodd y ddinas nes ei bod y ddinas fwyaf ar yr Arfordir Orllewinol ar y pryd. Ym 1906, cafodd San Francisco ei tharo gan ddaeargryn a thân a chafodd mwy na 3,000 o bobl eu lladd a rhan helaeth o'r ddinas ei dinistrio. Ail-adeiladwyd y ddinas yn gyflym, gan gynnal Arddangosfa Ryngwladol Panama-Pasiffig naw mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, San Francisco oedd y man ffarwelio ar gyfer nifer o filwyr. Pan ddaeth y rhyfel i ben, arweiniodd y don o filwyr yn dychwelyd, mewnfudiad enfawr, agweddau rhyddfrydol, a ffactorau eraill at yr Haf o Gariad a'r mudiad hawliau hoyw, gan gadarnhau statws San Francisco fel canolfan rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau.
Erbyn heddiw, mae San Francisco yn ganolfan ryngwladol o ran y byd ariannol, cludiant a diwylliant. Mae'r ddinas hefyd yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i dwristiaid sy'n enwog am ei niwl hafaidd, ei bryniau serth niferus, ei chymysgedd o bensaernïaeth Fictoraidd a modern, ei thirnodau bydenwog fel Pont Golden Gate, ei cherbydau ceblau a Thref Tsieina.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Lleolir San Francisco ar arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau, ar ddiwedd Penrhyn San Francisco, ac mae'n cynnwys rhannau helaeth o'r Cefnfor Tawel a Bae San Francisco o fewn ei ffiniau. Mae sawl ynys, Ynys Alcatraz, Treasure Island, a'r Ynys Yerba Buena gyferbyn, a rhannau bychain o ynys Alameda, Ynys y Garreg Goch, ac Ynys yr Angylion i gyd yn rhan o'r ddinas. Yn fras, mae'r prif dir o fewn ffiniau'r ddinas yn cynnwys "sgwâr saith milltir gyda saith milltir," yn ôl y trigolion lleol, er mewn gwirioedd mae arwynebedd y ddinas, gan gynnwys y dŵr yn 232 milltir sgwâr (600 km2).
Mae San Francisco yn enwog am ei bryniau. Ceir yno dros 50 o fryniau o fewn ffiniau'r ddinas. Enwyd rhai cymdogaethau ar ôl y bryn lle maent wedi eu lleoli, gan gynnwys Nob Hill, Pacific Heights, a Russian Hill. Yn agos i ganolbwynt ddaearyddol y ddinas, i'r de-orllewin o ardal "downtown", ceir nifer o fryniau llai poblog. Mae Twin Peaks, sy'n bâr o fryniau yn un o fannau uchaf y ddinas, yn fan poblogaidd i weld y ddinas. Mae bryn mwyaf San Francisco, Mount Davidson, yn 925 troedfedd (282 m) o uchder ac ar ei ben mae yna groes 103 troedfedd (31 m) o uchder, a adeiladwyd ym 1934. Dominyddir yr ardal hon hefyd gan Dŵr Sutro, tŵr darlledu radio a theledu coch a gwyn.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Pobl o San Francisco
[golygu | golygu cod]- Levi Strauss (1829-1902), dyn busnes
- Robert Frost (1874-1963), bardd
- Alice B. Toklas (1877-1967), awdures a ffrind Gertrude Stein
- Mel Blanc (1908-1989), actor a chomediwr
- Clint Eastwood (g. 1930), actor, cyfarwyddwr a gwleidydd
- Jerry Garcia (1942-1995), cerddor
- Courtney Love (g. 1964), cerddores
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Dinas a Sir San Francisco
- (Saesneg) Amgueddfa rhithiol o Ddinas San Francisco
- (Saesneg) Canolfan Hanes Llyfrgell Gyhoeddus San Francisco Archifwyd 2009-08-29 yn y Peiriant Wayback
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Pont Golden Gate
-
Car cablen San Francisco
-
Maes awyr y ddinas
-
Palas y Celfyddydau Meinion
-
Y Presidio
-
Y Merched Peintiedig
