Bandit (rhaglen deledu)

Oddi ar Wicipedia
Bandit

Logo'r rhaglen
Genre Rhaglen gerddorol
Serennu Huw Evans, Huw Stephens, Sarra Elgan
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 8
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c. 30 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Rhediad cyntaf yn 2004-2011
Cronoleg
Olynydd Ochr 1
Cysylltiadau allanol
(archif) Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu oedd Bandit a ddarlledwyd ar S4C, cynhyrchwyd y rhaglen gan Boomerang. Bwriad y rhaglen oedd hybu cerddoriaeth newydd yng Nghymru, yn bennaf yn y Gymraeg, ond mae hefyd yn cynnwys cerddoriaeth o Gymru gyda telynegion mewn ieithoedd eraill (Saesneg yn bennaf).

Yn 1998 cychwynodd rhaglen adloniant i bobl ifanc o dan yr enw "Bandit", a ddarlledwyd ddwywaith yr wythnos ar S4C Digidol yn unig. Roedd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau, cyfweliadau a cherddoriaeth byw. Datblygodd hyn yn sioe gerddoriaeth Bandit yn 2004 a ddarlledwyd ar S4C analog a digidol hyd cau'r sianel analog yn 2010.

Roedd yna nifer o gyflwynwyr yn cynnwys Huw Evans, Huw Stephens a Sarra Elgan. Roedd Bandit hefyd yn trefnu nifer o gigiau pob blwyddyn ac ystyrir y rhaglen i fod yn brif raglen cerddoriaeth S4C. Dengys yr enwebiadau niferus ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru boblogrwydd y rhaglen.[1] Enillont BAFTA ar gyfer 'Y Graffeg/Teitlau Gorau', mae'r sylw at fanylion hefyd wedi ei gario drosodd i'w gwefan.

Yn 2011 fe newidiwyd y fformat gyda enw newydd "Bandit yn Gigio" - yn dangos cerddoriaeth fyw o amryw leoliadau o gwmpas Cymru,[2] yn cynnwys rhifyn arbennig o gigs Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn Awst 2011.[3] Darlledwyd rhaglen olaf Bandit ar 28 Rhagfyr 2011 gyda rhifyn arbennig. Am gyfnod yn dilyn hyn nid oedd rhaglen gerddoriaeth gyfoes ar S4C nes lansio Ochr 1 yn 2013.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. '38 enwebiad BAFTA Cymru i S4C', datganiad i'r wasg gan S4C 17 Ebrill 2007
  2. Bandit yn Gigio , Daily Post, 5 Mawrth 2011. Cyrchwyd ar 22 Mawrth 2016.
  3.  Bandit yn Gigio. S4C. Adalwyd ar 22 Mawrth 2016.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]