C2

Oddi ar Wicipedia
C2
Logo C2
Ardal DdarlleduCymru
Dyddiad Cychwyn2001
PencadlysCaerdydd, Bangor
Perchennog BBC
BBC Cymru
Gwefanwww.bbc.co.uk/c2

Gwasanaeth bum awr o hyd ydy C2 a ddarlledir ar BBC Radio Cymru rhwng 8 yr hwyr ac 1 y bore bob nos Lun i nos Wener ers y'i sefydlwyd yn 2001.

Bwriad C2 yw apelio at gynulleidfa iau na gweddill Radio Cymru trwy roi'r Flaenoriaeth i Gerddoriaeth. Mae C2 hefyd yn darlledu Brwydr y Bandiau pob blwyddyn gyda chefnogaeth Mentrau Iaith Cymru.[1] Mae C2 hefyd yn cynnwys bwletinau newyddion, adroddiadau adloniant, adolygiadau rhyngrwyd, golwg wythnosol am chwaraeon a siartiau'r senglau.[2]

Daeth y gwasanaeth i ben mewn enw gyda newidiadau i arlwy Radio Cymru yn Ebrill 2016, er fod rhaglenni wedi eu anelu at gynulleidfa iau yn parhau i'w darlledu rhwng 7 a 10pm bob nos yn ystod yr wythnos.[3]

Ail-lawnsiad Hydref 2007[golygu | golygu cod]

Ar ddydd Llun 8 Hydref 2007, cafodd C2 ei drawsnewid gyda Magi Dodd yn cymryd drosodd y sioe 8 tan 10. Ymunodd cyn-gystadleuwr Big Brother, Glyn Wise a Magi fel cyd-gyflwynydd ar nos Fercher. Symudodd rhagflaenydd Magi, Dafydd Du i raglen newydd hwyr yn darlledu rhwng 11 y nos tan 1 y bore bob noson o'r wythnos gyda sioe newydd amser cinio ar ddydd Sadwrn, (12:30 - 2:00 y prynhawn). Fe ddaeth y ddwy raglen yma i ben yn Medi 2008, mae Dafydd Du nawr yn cyflwyno rhaglen hefo Caryl Parry Jones pob bore wythnos.[4]

Mae Huw Stephens dal ar yr awyr ar dydd Llun a dydd Mawrth am 10 y nos ond mae ei sioe nos Iau wedi dod i ben. Lisa Gwilym sy'n cyflwyno'r rhaglenni un awr ar ddydd Iau a dydd Gwener am 10 y nos, gyda sioe hirach prynhawun Sul (ond nid fel rhan o C2). Mae slot 10 y nos pob dydd Mercher wedi ei neilltuo ar gyfer cyfres nodwedd (gydag ailddarllediad ar nos Sul am 12y.b.).

Cyd-darodd yr ail-lawnsiad gyda ymadewiad Stephen Edwards, Terwyn Davies a Kevin Davies. Mae Jeni Lyn yn parahu i fod yn aelod o dîm C2 fel gohebydd cerddoriaeth ar rhaglen Magi Dodd. Mae hi hefyd yn cyflwyno sioe Magi Dodd ambell i waith pan tydi Magi Dodd ddim ar gael.

Ail-lanswyd y wefan yn ogystal gyda blog newydd cyson gan y cyflwynwyr a'r tim cynhyrchydd.

Newidiadau Medi 2008[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymadawiad Dafydd Du, fe ymunodd tri cyflwynydd newydd â C2 i gyflwyno'r slot hwyr (11y.h - 1.y.b): Brychan Llyr ar nos Lun a nos Fawrth, Daniel Glyn ar nos Fercher a Ffion Dafis ar nos Iau a nos Wener.

Ar ddechrau 2009, fe gafodd rhaglen Brychan Llyr (Nos Lun a Nos Fawrth) ei amnewid am raglen Hefin Thomas a fe gafodd Ffion Dafis (Nos Iau a Nos Wener) ei disodli gan Nia Medi.

Newidiadau Medi 2010[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd haf 2010, ymunodd y delynores, Georgia Ruth a chriw c2.

Newidiadau Ebrill 2016[golygu | golygu cod]

Ni ddefnyddiwyd brand C2 bellach ond cyflwynwyd amserlen newydd rhwng 7 a 10 yr hwyr, gyda sioe newydd gan Rhys Mwyn ar nos Lun, sioeau gan Georgia Ruth ar nos Fawrth, Lisa Gwilym ar nos Fercher, Huw Stephens ar nos Iau a Penwythnos Geth a Ger (gyda Gethin Evans a Geraint Iwan) ar nos Wener.

Cyflwynwyr[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyr eraill[golygu | golygu cod]

  • Dylan Ebenezer - Gohebydd chwaraeon (Nos Fawrth gyda Hefin Thomas)
  • Elain Edwards - Gohebydd Los Angeles (Nos Lun gyda Magi Dodd)
  • Aled Haydn-Jones (BB Aled) - Gohebydd Adloniant (Nos Wener gyda Magi Dodd)
  • Jeni Lyn - Gohebydd Cerddoriaeth (Nos Fawrth gyda Magi Dodd)
  • Robin Owain Jones - Arbennigwr Gwyliwch y Gofod (Nos Fawrth gyda Magi Dodd)
  • Marc Real - Gohebydd ar-lein (Bob mis gyda Daniel Glyn ar Nos Fercher)
  • Griff Lynch (Yr Ods) (Nos Lun a Nos Fawrth gyda Magi Dodd)

Tîm Cynhyrchu[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyr

  • Huw Meredydd (Caerdydd)
  • Sian Alaw Jones (Caerdydd)
  • Gareth Iwan Jones (Bangor)
  • Dyl Mei (Bangor)

Ymchwilwyr

  • Robin Owain Jones (Caerdydd)
  • Owain Llyr (Caerdydd)
  • Angharad Jones (Bangor)
  • Mari Williams (Caerdydd)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Radio Cymru; adalwyd 4 Medi 2013.
  2. Gwefan Radio Cymru: y Siartiau. Archifwyd 2013-01-30 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 4 Medi 2013.
  3.  Arlwy newydd Radio Cymru. Golwg360 (17 Mawrth 2016).
  4. Gwefan Radio Cymru: Dafydd Du; adalwyd 4 Medi 2013

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]