Huw Stephens

Oddi ar Wicipedia
Huw Stephens
Huw (prif lun) ar glawr cylchgrawn Golwg, 18 Hydref 2007
Ganwyd (1981-05-25) 25 Mai 1981 (42 oed)
Cardiff, Wales
SioeSioe Frecwast
Gorsaf(oedd)BBC Radio Cymru 2
Amser7-9am, Dydd Gwener
SioeByd Huw Stephens
Gorsaf(oedd)BBC Radio Cymru
Amser7-10pm, Nos Iau
GwladCymru
GwefanBBC minisite

Cyflwynwr radio a theledu o Gymro ydy Huw Stephens (ganwyd 25 Mai 1981), sy'n gweithio yn bennaf ym myd cerddoriaeth. Mae Huw yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar BBC Radio Cymru a sioe frecwast ar Radio Cymru 2. Roedd yn cyflwyno'r rhaglen deledu Bandit ar S4C.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Huw yng Nghaerdydd yn 1981, yn fab i Ruth a Meic Stephens. Mae ganddo dair chwaer.[1] Mynychodd Ysgol Glantaf.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Radio[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Stephens ddarlledu ar Radio 1 yn 1999, pan oedd yn 17 mlwydd oed, fel rhan o'u darllediadau rhanbarthol newydd yng Nghymru. Cyflwynodd ar y cyd gyda Bethan Elfyn, ac ef oedd y cyflwynydd ieuengaf erioed i weithio ar Radio 1.

Yn 2005, dechreuodd Stephens ddarlledu ar Radio 1 drwy wledydd Prydain, wedi marwolaeth John Peel, fel un o'i olynyddion yn elfen One Music Radio 1. Bwriad hwn oedd i gadw ysbryd rhaglen John Peel yn fyw. Wedi i One Music ddod ben parhaodd Huw yn i ddarlledu yn hwyr yn y nos gan ddarlledu ar raglenni Steve Lamacq a Zane Lowe pan oedden nhw ar eu gwyliau. Mae hefyd yn cyflwyno 'podcast' wythnosol Radio 1, sef "Huw Stephens Introducing...' (A.K.A. Best Of Unsigned)".

Cyhoeddwyd yn Nhachwedd 2020 y byddai'n gadael Radio 1 ar ddiwedd y flwyddyn, ar ôl 21 mlynedd. Bydd yn parhau i gyflwyno yn Saesneg ar BBC Radio 6 Music.[2]

Teledu[golygu | golygu cod]

Cyflwynodd y rhaglen deledu gerddoriaeth i bobl ifanc Bandit rhwng 2004 a 2011. Yn 2018 cyflwynodd ffilm nodwedd Anorac am gerddoriaeth Cymraeg. Roedd y ffilm yn bererindod cerddorol o gwmpas Cymru, i ddathlu hanner can mlynedd o gerddoriaeth pop Cymraeg. Cafodd ei ddangos gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ac ar deledu am y tro cyntaf ar S4C, 4 Ebrill 2019[3]

Gweithgareddau eraill[golygu | golygu cod]

Sefydlodd ŵyl gerddoriaeth newydd ar gyfer Caerdydd yn 2007. Cynhaliwyd Sŵn am y tro cyntaf ar 911 Tachwedd 2007 mewn 13 lleoliad ar draws y ddinas. Mae'r ŵyl yn dod a bandiau, DJs a pherfformwyr cyffrous, o Gymru a ledled Prydain, at eu gilydd i ganol Caerdydd ynghyd â chelf a ffilm.

Mae gan Stephens golofn wythnosol ym mhapur newydd y Western Mail. Yn ôl ei dad, "Pan oedd e'n ifanc iawn, ac yn dechrau ysgrifennu, roeddd e'n dueddol o ysgrifennu ar ddarnau o bapur o gwmpas y tŷ. Dw i'n cofio gweld nodyn un tro yn dweud, 'Ai opynd ddy dôr and ai dropt on ddy fflôr'!"[4] Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer Kruger Magazine, The Independent, The Mirror, NME ac mae wedi bod yn olygydd gwadd ar gyfer blog cerddoriaeth The Guardian.

Sefydlodd Stephens label recordio Boobytrap Records yn 2000 ynghyd â ffrind, ond daeth y label i ben yn 2007. Bu hefyd yn rhedeg y label Am.[5]

Yn Mai 2018, cyhoeddwyd mai Stephens fyddai Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y newyddiadurwr ac ysgolhaig Meic Stephens wedi marw , BBC Cymru Fyw, 3 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 8 Tachwedd 2020.
  2. Huw Stephens yn gadael BBC Radio 1 , Golwg360, 6 Tachwedd 2020. Cyrchwyd ar 8 Tachwedd 2020.
  3. Cyfle i wylio ffilm Anorac ar deledu am y tro cyntaf , S4C, 25 Mawrth 2019. Cyrchwyd ar 7 Tachwedd 2020.
  4. O'r sioeau hud i gerddoriaeth byd: Portread o Huw Stephens, Golwg, 18 Hydref 2007
  5. (Saesneg) Safle MySpace Huw Stephens
  6. Huw Stephens yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd , BBC Cymru Fyw, 25 Mai 2018. Cyrchwyd ar 3 Awst 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]