Meic Stephens

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Erthygl am y llenor a'r golygydd Meic Stephens yw hon. Mae erthygl am y canwr ag enw tebyg yn Meic Stevens.
Meic Stephens
Ganwyd 23 Gorffennaf 1938 Edit this on Wikidata
Trefforest Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Gorffennaf 2018 Edit this on Wikidata (79 oed)
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Hanesydd, Bardd, Athro, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plant Huw Stephens Edit this on Wikidata

Bardd, academydd, newyddiadurwr a golygydd llenyddol o Gymro oedd Meic Stephens (23 Gorffennaf 19382 Gorffennaf 2018).[1] Roedd yn awdur ac yn olygydd toreithiog, ac fe ysgrifennodd, golygodd a chyfieithiodd dros 170 o lyfrau.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn Nhrefforest ger Pontypridd yn yr hen Sir Forgannwg, a’i fagu ar aelwyd uniaith Saesneg. Ei dad oedd Arthur Stephens, gweithiwr mewn pwerdy, a'i fam oedd Alma (nee Symes).[2] Aeth i Ysgol Ramadeg Pontypridd ac aeth i astudio Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Parhaodd ei astudiaethau ym Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac ym Mhrifysgol Roazhon yn Llydaw.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n dysgu Ffrangeg yng Nglynebwy, Sir Fynwy rhwng 1962 a 1966. Yn byw yn Merthyr Tudful sefydlodd y cylchgrawn Poetry Wales yn 1965 a'r wasgnod Triskel yn 1963. O 1966 tan Fedi 1967 bu'n ohebydd gyda'r Western Mail. Roedd yn Gyfarwyddwr Adran Lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1967 a 1990 a cefnogodd sefydlu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Roedd hefyd yn Gymrawd Yr Academi Gymreig, ac roedd ganddo rôl allweddol wrth sefydlu Adran Saesneg yr Academi Gymreig yn 1968. [4]

Bu'n ddarlithydd gwadd yn adran Saesneg Prifysgol Ieuenctid Brigham yn Utah. Ymunodd a Mhrifysgol Morgannwg, Pontypridd yn 1994 gan ddysgu Newyddiaduriaeth ac Ysgrifennu Creadigol cyn dod yn athro ysgrifennu Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg.

Yn ogystal a'i waith academaidd roedd yn ysgrifennu erthyglau am lenyddiaeth ar gyfer papur newydd y Western Mail, ac ysgrifau coffa i Gymry amlwg ym mhapur yr Independent. Cyhoeddodd ddwy nofel wreiddiol a chyfieithiadau i'r Saesneg o nofelau Islwyn Ffowc Elis a Saunders Lewis, storïau John Gwilym Jones ac atgofion Gwynfor Evans. a golygodd casgliadau o gerddi Harri Webb, Glyn Jones, Rhys Davies a Leslie Norris, a nifer o flodeugerddi. Bu hefyd yn agos at ennill coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru fwy nag unwaith.

Gwleidyddiaeth ac ymgyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywedodd fod ei brofiad yn y brifysgol yn Aberystwyth wedi ei droi'n genedlaetholwr. Yn ei seremoni raddio, arhosodd yn ei sedd gyda rhai o'i gyd-fyfyrwyr wrth i'r anthem Seisnig chwarae, a penderfynodd fynd ati i ddysgu'r iaith o ddifri. Dysgodd Meic Gymraeg yn fuan wedi priodi a bu'n frwd dros atgyfodi tafodiaith y Wenhwyseg. Tra'n byw yn Merthyr Tudful daeth yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru. Roedd ymhlith y rhai a eisteddodd ar Bont Trefechan ym mis Chwefror 1963 ym mhrotest cyntaf y Cymdeithas. Tua 1963 paentiodd yr arwydd enwog 'Cofiwch Dryweryn' ar wal ger Llanrhystud.[5] Roedd yn un o'r ddau a gariodd Gwynfor Evans ar eu hysgwyddau drwy sgwâr Caerfyrddin wedi cyhoeddi canlyniad yr is-etholiad yn 1966.[6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfarnodd Prifysgol Cymru iddo radd M.A. er anrhydedd yn 2000 a DLitt am ei gyhoeddiadau yn yr un flwyddyn. Ar 3 Mai 2018 fe'i urddwyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth, a cyflwynwyd yr anrhydedd iddo gan Ddirprwy Ganghellor y Brifysgol, Gwerfyl Pierce Jones.[7]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Ruth Meredith yn 1965, a cawsant 4 o blant - Lowri, Heledd, Brengain a Huw (y cyflwynydd radio).

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref ar nos Lun 2 Gorffennaf 2018. Cynhaliwyd wasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Crwys ar brynhawn Gwener, 20 Gorffennaf ac yna yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa Thornhill.[8]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y newyddiadurwr ac ysgolhaig Meic Stephens wedi marw , BBC Cymru, 3 Gorffennaf 2018.
  2. Meic Stephens obituary , theguardian.co.uk, 5 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 6 Gorffennaf 2018.
  3.  Gwales - Cofnodion - Hunangofiant Meic Stephens. Gwales. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2018.
  4.  Meic Stephens (1938 – 2018). Llenyddiaeth Cymru (3 Gorffennaf 2018).
  5. Cofiwch Tryweryn? , BBC Cymru, 25 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 3 Gorffennaf 2018.
  6. Cofio diwrnod hanesyddol Gwynfor , Golwg360, 15 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd ar 3 Gorffennaf 2018.
  7.  Urddo’r awdur Meic Stephens yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth. Prifysgol Aberystwyth (16 Mai 2018). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2018.
  8.  Meic STEPHENS : Obituary. Western Mail (12 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2018.