Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018
 ← Blaenorol Nesaf →
Lleoliad Bae Caerdydd
Cynhaliwyd 3-11 Awst 2018
Archdderwydd Geraint Llifon
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Ashok Ahir
Llywydd Huw Stephens
Nifer yr ymwelwyr tua 500,000[1]
Enillydd y Goron Catrin Dafydd
Enillydd y Gadair Gruffudd Eifion Owen
Gwobr Daniel Owen Mari Williams
Gwobr Goffa David Ellis Andrew Peter Jenkins
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Karen Owen
Gwobr Goffa Osborne Roberts Ryan Vaughan Davies
Gwobr Richard Burton Eilir Gwyn
Y Fedal Ryddiaith Manon Steffan Ros
Medal T.H. Parry-Williams Meinir Lloyd
Medal/Tlws y Ddrama Rhydian Gwyn Lewis
Dysgwr y Flwyddyn Matt Spry
Tlws y Cerddor Tim Heeley
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Steffan Lloyd Owen
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Nerea Martinez de Lecea
Medal Aur am Grefft a Dylunio Zoe Preece
Gwobr Ifor Davies Rhannwyd rhwng Carnifal Butetown, Jennifer Taylor a Sara Rhoslyn Moore
Gwobr Dewis y Bobl Zoe Preece
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Gweni Llwyd
Medal Aur mewn Pensaernïaeth KKE Architects
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Bethan Scorey
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Hefin Jones
Gwefan Gwefan 2018 (archif)

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018 ym Mae Caerdydd ar 3-11 Awst 2018.

Hwn oedd Eisteddfod olaf y trefnydd Elfed Roberts cyn iddo ymddeol o'r swydd ar ôl 25 mlynedd. Dywedodd y trefnydd fod Caerdydd yn "brifddinas hyderus a bywiog, a bod y Bae yn un o ganolfannau cymdeithasol y ddinas, a bod mynd Eisteddfod i'r Bae yn arbrawf hynod gyffrous". Hwn hefyd oedd Eisteddfod olaf Geraint Llifon fel Archdderwydd cyn trosglwyddo'r awenau i Myrddin ap Dafydd.[2] Beirniadwyd Geraint Llifon yn llym ar y cyfryngau am sylw negyddol am ferched yn seremoni y Coroni.

Ar y dydd Iau ymwelodd Geraint Thomas, enillydd Tour de France 2018 a'r Senedd a'r Eisteddfod.

Y Maes

[golygu | golygu cod]
Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Caerdydd, ddiwedd Mehefin 2017
Golwg o'r Eisteddfod o Fae Caerdydd

Yn hytrach na Maes traddodiadol, lleolwyd yr Eisteddfod yn yr ardal o gwmpas y Senedd a Chanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, gyda'r Ganolfan yn cymryd lle'r Pafiliwn arferol. Adeilad y Senedd oedd cartref Y Lle Celf. Gosodwyd yr amryw stondinau ar y parciau o gwmpas yr Eglwys Norwyaidd ac ar waelod Rhodfa Lloyd George. Gosodwyd llwyfan y maes a'r pentref bwyd ym Mhlas Roald Dahl. Defnyddiwyd hen adeilad Profiad Doctor Who ar gyfer Maes B gyda Chaffi Maes B ar dir cyfagos.

Profodd yr Eisteddfod yn llwyddiant gyda nifer yn canmol natur agored a chynhwysol y Maes. Dywedodd nifer o stondinwyr eu bod wedi yn brysur a fod busnes wedi bod yn dda. Yn dilyn yr "arbrawf" cododd rhai y syniad o barhau gyda'r un patrwm yn y dyfodol gyda Maes agored ac am ddim. Dywedodd yr Eisteddfod y byddai rhaid edrych ar sut y gellir ariannu y fath ŵyl mewn lleoliadau eraill, lle efallai nad oes yr adnoddau ac adeiladau fel oedd ar gael ym Mae Caerdydd.[3]

Yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ar 24 Tachwedd 2018 datgelwyd fod fwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen wedi ymweld a'r Eisteddfod yng Nghaerdydd gyda rhai amcangyfrifon yn dweud fod hanner miliwn o ymwelwyr wedi dod i'r Maes. Oherwydd nad oedd tâl mynediad i'r Maes a'r gost ychwanegol, roedd diffyg ariannol gweithredol o £290,139.

Prif gystadlaethau

[golygu | golygu cod]

Y Gadair

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Gadair oedd Gruffudd Eifion Owen (ffugenw "Hal Robson-Kanu"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Ceri Wyn Jones, ar ran ei gyd-feirniaid Emyr Davies a Rhys Iorwerth. Cystadlodd un ar ddeg, a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, o dan y teitl Porth. Dywedodd y beirniaid fod hi'n gystadleuaeth eithriadol o agos, a bod "y gŵr dienw" hefyd yn deilwng o'r Gadair, ond roedd awdl Gruffudd wedi rhoi mwy o wefr i'r tri beirniad.[4] Datgelwyd mai Eurig Salisbury (ffugenw "y gŵr dienw") oedd yn ail am y Gadair.[5]

Noddwyd y Gadair gan Amgueddfa Cymru i ddathlu pen-blwydd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yn 70 oed yn 2018, a phenodwyd Chris Williams o Oriel y Gweithwyr, Ynyshir i'w chreu. Bu Sain Ffagan yn gartref i arddangosfeydd am grefftau traddodiadol yng Nghymru ers ei sefydlu ym 1948. Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, yn rhoddedig gan Gaynor a John Walter Jones er cof am eu merch Beca.

Y Goron

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Goron oedd Catrin Dafydd (ffugenw "Yma"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Christine James ar ran ei chyd-feirniaid Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies. Cystadlodd 42 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Olion. Testun y casgliad oedd Cymreictod "cymysg" Trelluest (Grangetown), Caerdydd ac yn y feirniadaeth dywedodd Christine James "Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy’n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas".[6]

Gemydd o Gastell-nedd, Laura Thomas, 34 oed, a ddewisiwyd i gynllunio'r goron, a dywedir ei bod wedi creu dyluniad "modern ac unigryw ond sydd hefyd yn parchu traddodiadau’r Eisteddfod".[2] Noddir y goron gan Brifysgol Caerdydd. Astudiodd Laura gemwaith yn Central Saint Martins yn Llundain, ac mae hi'n gweithio i gwmni Gemwaith Mari Thomas yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, rhoddedig gan Manon Rhys a Jim Parc Nest.

Gwobr Goffa Daniel Owen

[golygu | golygu cod]

Yr enillydd oedd Mari Williams o Gaerdydd. Traddodwyd y feirniadaeth gan Meinir Pierce Jones ar ran ei chyd-feirniaid Bet Jones a Gareth Miles. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, yn rhoddedig gan CBAC. Daeth 10 cynnig ar y gystadleuaeth eleni. Doe a Heddiw oedd enw y darn buddugol pan gafodd ei gyflwyno, ac "Ysbryd yr Oes" oedd y ffugenw. Bellach, ailenwyd y nofel yn Ysbryd yr Oes.

Y Fedal Ryddiaith

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Fedal oedd Manon Steffan Ros o Dywyn gyda'i chyfrol Llyfr Glas Nebo dan y ffugenw "Aleloia". Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Ynni" gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Derbyniwyd 14 o gyfrolau eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan Sonia Edwards ar ran ei chyd-feirniaid Menna Baines a Manon Rhys.[7]

Tlws y Cerddor

[golygu | golygu cod]

Enillydd y tlws oedd Tim Heeley, sydd o Scarborough yn wreiddiol ac sy'n gweithio yn Sir y Fflint. Y dasg oedd cyfansoddi darn i gerddorfa lawn fyddai'n gweddu i ddrama dditectif ar y teledu, heb fod yn fwy na saith munud. Traddodwyd y feirniadaeth gan John Rea ar ran ei gyd-feirniaid John Hardy ac Owain Llwyd.[8]

Y Fedal Ddrama

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Fedal Ddrama oedd Rhydian Gwyn Lewis, yn wreiddiol o Gaernarfon sydd nawr yn byw yn Grangetown, Caerdydd, am ei ddrama Maes Gwyddno (ffugenw "Elffin"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Betsan Llwyd ar ran ei chyd-feirniaid Sarah Bickerton ac Alun Saunders. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Cyflwynwyd y Fedal er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).[9]

Canlyniadau Cystadlaethau

[golygu | golygu cod]

Alawon Gwerin

[golygu | golygu cod]

1. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer 1. Côr Merched Canna 2. Ger y Lli 3. Côr Godre'r Garth

2. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer 1. Eryrod Meirion 2. Hogie'r Berfeddwlad 3. Lodesi Dyfi

3. Parti Alaw Werin dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Amôr 2. Aelwyd Yr Ynys 3. Aelwyd Porthcawl

4. Cystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis 21 oed a throsodd 1. Emyr Lloyd Jones 2. Rhydian Jenkins 3. Enlli Lloyd Pugh

5. Unawd Alaw Werin 16-21 oed 1. Cai Fôn Davies 2. Llinos Haf Jones 3. Lewys Meredydd

6. Unawd Alaw Werin 12-16 oed 1. Cadi Gwen Williams 2. Owain John 3. Nansi Rhys Adams

7. Unawd Alaw Werin dan 12 oed 1. Ioan Joshua Mabbutt 2. Efan Arthur Williams 3. Ela Mablen Griffiths-Jones

8. Cyflwyniad ar lafar, dawns a chân 1. Glanaethwy 2. Ysgol Treganna 3. Bro Taf

9. Grŵp Offerynnol neu Offerynnol a Lleisiol 1. Tawerin Bach 2. Sesiwn Caerdydd 3. Tawerin

10. Unawd ar unrhyw offeryn gwerin 1. Gareth Swindail-Parry 2. Osian Gruffydd 3. Mared Lloyd

Bandiau Pres

[golygu | golygu cod]

12. Bandiau Pres Pencampwriaeth/Dosbarth 1 1. Band Tylorstown 2. Band BTM 3. Seindorf Arian Deiniolen

13. Bandiau Pres Dosbarth 2 1. Band Pres Bwrdeistref Casnewydd 2. Band Melingriffith 2 3. Band Tref Blaenafon

14. Bandiau Pres Dosbarth 3 1. Band Pres Dyffryn Taf 2. Band Arian Llansawel 3. Band Pres RAF Sain Tathan

15. Bandiau Pres Dosbarth 4 1. Band Pres Rhondda Uchaf 2. Band Gwaun Cae Gurwen 3. Seindorf Arian Dyffryn Nantlle

16. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer 1. Côr Merched y Ddinas

17. Parti Cerdd Dant hyd at 20 mewn nifer 1. Criw Caerdydd 2. Meibion y Gorad Goch 3. Parti'r Gromlech

18. Parti Cerdd Dant dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Amôr 2. Aelwyd Porthcawl

Celfyddydau Gweledol

[golygu | golygu cod]

Cerdd Dant

[golygu | golygu cod]

19. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant Agored 1. Pedwarawd Glantaf 2. Pedwarawd Cennin 3. Triawd Marchan

20. Deuawd Cerdd Dant dros 21 oed 1. Alaw ac Enlli 2. Siôn Eilir ac Elis Jones 3. Trefor ac Andrew

21. Deuawd Cerdd Dant dan 21 oed 1. Celyn Cartwright a Siriol Jones 2. Annest ac Elain 3. Fflur Davies a Leisa Gwenllian

22. Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd 1. Rhydian Jenkins 2. Enlli Lloyd Pugh 3= Trefor Pugh 3= Teleri Mair Jones

23. Unawd Cerdd Dant 16-21 oed 1. Llio Meirion Rogers 2. Cai Fôn Davies 3. Celyn Cartwright

24. Unawd Cerdd Dant 12-16 oed 1. Owain John 2. Gwenan Mars Lloyd 3. Nansi Rhys Adams

25. Unawd Cerdd Dant dan 12 oed 1. Lowri Anes Jarman 2. Ela Mablen Griffiths-Jones 3. Ela Mai Williams

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

27. Cyfeilio i rai o dan 25 oed 1. Elain Rhys Jones

28. Cyflwyno Rhaglen o Adloniant - Côr heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr CF1 2. Côr Dyffryn Dyfi 3. CôRwst

29. Côr Cymysg heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côrdydd 2. Côr CF1 3. Côr Capel Cymreig y Boro, Llundain

30. Côr Meibion heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Meibion Pontarddulais 2. Côr Meibion Machynlleth 3. Côr Meibion Taf

31. Côr Merched heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Merched Canna 2. Lodesi Dyfi 3. Cantonwm

32. Côr i rai 60 oed a throsodd heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Hen Nodiant 2. Encôr 3. Henffych

33. Côr Ieuenctid dan 25 oed heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr y Cwm 2. Côr Heol y March 3. Côr Hŷn Ieuenctid Môn

38. Ensemble lleisiol 10-26 oed rhwng 3 a 6 mewn nifer 1. Ensemble Glantaf 2. Criw Aber 3=. Swynol 3=. Lleisiau'r Ynys

34. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Caerdydd 2. Côr Bro Meirion 3. Côr Seingar

35. Cân Gymraeg Orau Gwahoddiad - Côr CF1

36. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl er cof am Sioned James Eleri Roberts - Côr Heol y March

37. Côr yr Ŵyl Côrdydd

39. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts ac Ysgoloriaeth William Park-Jones 1. Steffan Lloyd Owen 2. Ffion Edwards 3. Huw Ynyr 4. Elen Lloyd Roberts

40. Unawd Soprano 25 oed a throsodd 1. Aneira Evans 2. Joy Cornock 3. Angharad Watkeys

41. Unawd Mezzo-Soprano/Contralto/Gwrth-denor 25 oed a throsodd 1. Nia Eleri Hughes Edwards 2. Carys Griffiths-Jones 3. Iona Stephen Williams

42. Unawd Tenor 25 oed a throsodd 1. Efan Williams 2. Arfon Rhys Griffiths 3. Aled Wyn Thomas

43. Unawd Bariton/Bas 25 oed a throsodd 1. Andrew Peter Jenkins 2. Steffan Jones 3. Treflyn Jones

44. Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas Andrew Peter Jenkins

45. Canu Emyn 60 oed a throsodd 1. Gwynne Jones 2. Glyn Morris 3. Vernon Maher

46. Unawd Lieder/Cân Gelf 25 oed a throsodd 1. Peter Totterdale 2. Aled Wyn Thomas 3. Trefor Williams

47. Unawd Lieder/Cân Gelf o dan 25 oed 1. Dafydd Wyn Jones 2. Ryan Vaughan Davies 3. Sioned Llewelyn

48. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd 1. Robert Lewis 2. Dafydd Allen 3. Erfyl Tomos Jones

49. Unawd Soprano 19-25 oed 1. Ffion Edwards 2. Tesni Jones 3. Sioned Llewelyn

50. Unawd Mezzo-Soprano/Contralto/Gwrth-denor 19-25 oed 1. Ceri Haf Roberts 2. Erin Fflur 3. Kieron-Connor Valentine

51. Unawd Tenor 19-25 oed 1. Ryan Vaughan Davies 2. Dafydd Wyn Jones

52. Unawd Bariton/Bas 19-25 oed 1. Emyr Lloyd Jones 2. Dafydd Allen 3. Rhodri Wyn Williams

53. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas Ryan Vaughan Davies

54. Perfformiad unigol 19 oed a throsodd o gân o Sioe Gerdd 1. Gwion Morris Jones 2. Celyn Llwyd 3. Huw Blainey 4. Gwion Wyn Jones

55. Perfformiad unigol dan 19 oed o gân o Sioe Gerdd 1. Owain John 2. Gabriel Tranmer 3. Lili Mohammad

56. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts Huw Blainey

57. Unawd i Ferched 16-19 oed 1. Glesni Rhys Jones 2. Manon Ogwen Parry 3. Llinos Haf Jones

58. Unawd i Fechgyn 16-19 oed 1. Cai Fôn Davies 2. Owain Rowlands 3= Lewys Meredydd 3= Elwyn Siôn Williams

59. Unawd i Ferched 12-16 oed 1. Gwenan Mars Lloyd 2. Lili Mohammad 3. Erin Swyn Williams

60. Unawd i Fechgyn 12-16 oed 1. Owain John 2. Ynyr Lewis Rogers 3. Osian Trefor Hughes

61. Unawd dan 12 oed 1. Alwena Mair Owen 2. Ioan Joshua Mabbutt 3. Nia Menna Compton

62. Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano - Cystadleuaeth Goffa Eleri Evans 1. Anne Collard

63. Grŵp Offerynnol Agored 1. Pumawd Pres A5 2. Band Pres y Waen Ddyfal 3. Band Cymunedol Melingriffith

64. Deuawd Offerynnol Agored 1. Nia ac Anwen 2. Heledd a Merin 3. Cerys ac Erin

65. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd Carys Gittins

66. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd 1. Carys Gittins 2. Carwyn Thomas 3. Epsie Thompson

67. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd 1. Ben Tarlton 2. Saran Davies 3. Mabon Jones

68. Unawd Piano 19 oed a throsodd 1. Iwan Owen 2. Endaf Morgan 3=. Dominic Ciccotti 3=. Rachel Starritt

69. Unawd Offerynnau Pres 19 oed a throsodd 1. Peter Cowlishaw 2. Pete Greenwood 3. Merin Rhyd

70. Unawd Telyn 19 oed a throsodd 1. Manon Browning 2. Alis Huws 3. Anwen Mai Thomas

71. Unawd Offeryn/nau Taro 19 oed a throsodd 1. Heledd Gwynant

72. Rhuban Glas Offerynnol 16-19 oed 1. Tomos Wynn Boyles

73. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed 1. Katie Bartels 2. Daniel O'Callaghan 3. Mali Gerallt Lewis

74. Unawd Llinynnau 16 ac o dan 19 oed 1. Elliot Kempton 2. Aisha Palmer 3=. Eirlys Lovell-Jones 3=. Osian Gruffydd

75. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed 1. Tomos Wynn Boyles 2. Bill Atkins 3=. Glesni Rhys Jones 3=. Medi Morgan

76. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed 1. Gabriel Tranmer

77. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed 1. Aisha Palmer

79. Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed 1. Charlotte Kwok

80. Unawd Chwythbrennau dan 16 oed 1. Catrin Roberts 2. Georgina Belcher 3. Millie Jones

81. Unawd Llinynnau dan 16 oed 1. Eddie Mead 2. Felix Llywelyn Linden 3=. Mea Verallo 3=. Elen Morse-Gale

82. Unawd Piano dan 16 oed 1. Charlotte Kwok 2. Beca Lois Keen

83. Unawd Offerynnau Pres dan 16 oed 1. Rhydian Tiddy 2. Glyn Porter 3=. Lisa Morgan 3=. Alice Newbold

84. Unawd Telyn dan 16 oed 1. Cerys Angharad 2. Heledd Wynn Newton 3=. Megan Thomas 3=. Erin Fflur Jardine

85. Unawd Offeryn/nau Taro dan 16 oed 1. Owain Siôn

86. Tlws y Cerddor Tim Heeley

87. Emyn-dôn Ann Hopcyn

89. Darn i ensemble jazz Gareth Rhys Roberts

90. Trefnu alaw werin Gymreig ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau Geraint Ifan Davies

91. Darn gwreiddiol i ensemble lleisiol tri llais fyddai'n addas ar gyfer disgyblion oedran cynradd Morfudd Sinclair

92. Cystadleuaeth i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed Twm Herd

93. Cystadleuaeth Tlws Sbardun Gwilym Bowen Rhys

94. Cystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake 1. Dawnswyr Nantgarw 2. Dawnswyr Tawerin 3. Cwmni Dawns Werin Caerdydd

95. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1. Dawnswyr Tawerin 2. Dawnswyr Môn 3. Dawnswyr Caerdydd 2

96. Parti Dawnsio Gwerin dan 25 oed 1. Bro Taf 2. Dawnswyr Penrhyd 3. Disgyblion a chyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron

97. Dawns Stepio i Grŵp 1. Bro Taf 1 2. Bro Taf 2

98. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio 1. Daniel ac Osian 2. Elen Morlais ac Ioan Wyn Williams 3. Deuawd Trewen

99. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 16 oed a throsodd 1. Osian Gruffydd 2. Daniel Calan Jones 3. Trystan Gruffydd

100. Dawns Stepio Unigol i Ferched 16 oed throsodd 1. Nia Rees 2. Lois Glain Postle 3. Lleucu Parri

101. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 1. Morus Caradog Jones 2. Iestyn Gwyn Jones 3. Ioan Wyn Williams

102. Dawns Stepio Unigol i Ferched dan 16 oed 1. Elen Morlais Williams 2. Mared Lloyd 3. Celyn James

103. Props ar y Pryd (103) / Improv 1. Ioan, Elen a Mali 2. Trystan ac Osian 3. Elwyn, Ella a Cadi 4. Iestyn a Morus

105. Dawns Greadigol/Gyfoes Unigol 1. Lowri Angharad Williams 2. Branwen Marie Owen 3. Nel Meirion

106. Dawns Greadigol/Gyfoes i Grŵp dros 4 mewn nifer 1. Adran Amlwch 2. Adran Rhosllanerchrugog 3. E.K Wood Dance

107. Dawns Greadigol/Cyfoes i Bâr 1. Lowrie a Jodie 2. Caitlin ac Elin 3. Cari Owen a Ffion Bulkeley

108. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai 12 oed a throsodd 1. Charlie Lindsay 2. Kai Easter 3. Catrin Jones

109. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai dan 12 oed 1. Lydia Grace Madoc 2. Jodie Garlick 3. Lowri Angharad Williams

110. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr 1. Charlie Lindsay a Megan Burgess 2. Lowri a Jodie 3. Caitlin ac Elin

111. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Grŵp 1. Hudoliaeth 2. Heintys 3. Jukebox Collective

112. Actio Drama neu waith dyfeisiedig 1. Cwmni Criw Maes 2. Cwmni Drama'r Gwter Fawr 3. Cwmni Doli Micstiyrs

115. Deialog 1. Anni a Begw 2. Leisa Gwenllian a Lois Glain Postle 3. Iestyn a Nye

116. Gwobr Richard Burton i rai rhwng 16 a 25 oed Eilir Gwyn

117. Monolog i rai 12-16 oed 1. Morgan Sion Owen 2. Manon Fflur 3. Zara Evans

120. Trosi i'r Gymraeg Jim Parc Nest

121. Cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol John Gruffydd Jones

122. Cyfansoddi drama radio mewn unrhyw genre Gareth William Jones

123. Ffilm fer ar unrhyw ffurf ddigidol Iolo Edwards

124. Tlws Dysgwr y Flwyddyn Matt Spry

Dysgwyr

[golygu | golygu cod]

125. Côr Dysgwyr rhwng 10 a 40 mewn nifer 1. Côr Daw 2. Côr Dysgwyr Sir Benfro 3. Côr Dysgwyr Porthcawl

126. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd (dysgwyr) 1. Helen Evans

127. Parti Canu (dysgwyr) 1. Parti Daw Naw 2. Hen Adar Y Fenni 3. Parti Canu'r Fro

128. Unawd (dysgwyr) 1. Stephanie Greer 2. Paula Denby 3. Kathy Kettle

129. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd: lefel Mynediad/Canolradd (dysgwyr) 1. Lyn Bateman 2. Helen Kennedy 3. Alan Kettle

130. Sgets (dysgwyr) 1. Dosbarth Hwyliog Caron

131. Cystadleuaeth Y Gadair Rosa Hunt

132. Cystadleuaeth Y Tlws Rhyddiaith Rosa Hunt

133. Llythyr i'w roi mewn capsiwl amser Sue Hyland

134. Fy hoff ap / My favourite app Angela Taylor

135. Sgwrs rhwng dau berson dros y ffens Kathy Sleigh

136. Darn i bapur bro yn hysbysebu digwyddiad Tracy Evans

137. Gwaith grŵp neu unigol Rebecca Edwards

138. Gwaith unigol Sarah Williams

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

[golygu | golygu cod]

139. Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg er Anrhydedd Hefin Jones

140. Erthygl Gymraeg Gwydion Jones

142. Gwobr Dyfeisio / Arloesedd Cadi Nicholas

Llefaru

[golygu | golygu cod]

145. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer 1. Côr Sarn Helen 2. Merched Eglwys Minny Street

146. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer 1. Parti Man a Man 2. Merched Ryc a Rôl Clwb Rygbi Cymry Caerdydd 3. Ail Wynt

147. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsodd Karen Owen

148. Llefaru Unigol Agored 1. Megan Llŷn 2. Elliw Dafydd 3. Siôn Jenkins

149. Cystadleuaeth Dweud Stori 1. Eiry Palfrey 2. Fiona Collins 3. Ifan Wyn

150. Llefaru Unigol 16-21 oed 1. Cai Fôn Davies 2. Efa Prydderch 3. Mali Elwy Williams

151. Llefaru Unigol 12-16 oed 1. Non Fôn Davies 2. Sophie Jones 3. Nansi Rhys Adams

152. Llefaru Unigol dan 12 oed 1. Betrys Llwyd Dafydd 2. Beca Marged Hogg 3. Elin Williams

153. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd 1. Meleri Morgan 2. Caryl Fay Jones 3. Cai Fôn Davies

154. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur dan 16 oed 1. Sophie Jones 2. Morgan Sion Owen 3. Owain John

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

157. Englyn unodl union: Llwybr Arfordir Cymru R John Roberts

158. Englyn ysgafn: Cawdel/Llanast Dai Rees Davies

160. Cywydd heb fod dros 14 o linellau: Bae Dafydd Mansel Job

161. Soned: Esgidiau Elin Meek

162. Filanél: Breuddwyd Huw Evans

163. Pum triban i'r synhwyrau Rhiain Bebb

164. Chwe limrig Idris Reynolds

165. Cyfansoddi cerdd i'w llefaru ar lwyfan gan bobl ifanc 12-16 oed John Gruffydd Jones

166. Deg cyfarchiad mewn cardiau ar gyfer amrywiaeth o achlysuron John Eric Hughes

168. Ysgoloriaeth Mentora Emyr Feddyg Gwynne Wheldon Evans

169. Gwobr Goffa Daniel Owen Mari Williams

173. Stori fer: Gofod Dyfan Maredydd Lewis

174. Llên micro: Gwesty Menna Machreth

175. Ysgrif: Trobwynt Dyfan Maredydd Lewis

176. Dyddiadur dychmygol beirniad Eisteddfod John Meurig Edwards

177. Casgliad o erthyglau i bapur bro Meurig Rees

178. Casgliad o lythyron dychmygol mewn cyfnos o ryfel Vivian Parry Williams

179. Taith dywys i gyflwyno ardal John Parry

180. Darn ffeithiol creadigol Kate Woodward

181. Adolygiad o waith creadigol Ciron Gruffydd

182. Casgliad o hyd at 30 o enwau lleoedd unrhyw ardal, pentref neu dref yng Nghymru Gerwyn James

183. Dwy erthygl, o leiaf 1000 o eiriau yr un, ar gyfer Y Casglwr Heather Williams

184. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin Nantlais Evans

Eraill

[golygu | golygu cod]

Seremoni Cyflwyno Medal Syr T H Parry-Williams - er clod Meinir Lloyd, Caerfyrddin

Cyhoeddi enwau buddugwyr Tlysau Sefydliad y Merched Stondin ar Faes yr Eisteddfod: 1. Cymorth Cristnogol 2. British Heart Foundation Cymru

Anrhydeddau'r Orsedd

[golygu | golygu cod]

Cafodd y canlynol eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ar fore dydd Gwener, 11 Awst.[10]

Gwisg werdd

[golygu | golygu cod]
  • Marie-Thérèse Castay, Larressingle, Ffrainc sydd wedi cyfieithu’r mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg gyfoes i iaith ac eithrio’r Saesneg, a’i llafur cariad dros flynyddoedd lawer fu sicrhau bod gweithiau Cymraeg yn cael eu trosi i’r Ffrangeg a’u cyhoeddi dramor.
  • Terry Dyddgen-Jones, Caerdydd - Yn wreiddiol o Sir Gâr mae'n fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama blaenaf teledu rhwydwaith, ac wedi cynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Mae wedi cyfarwyddo dros 200 o benodau o’r opera sebon Coronation Street, ac mae hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â’i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm.
  • Manon Eames, Abertawe - Yn wreiddiol o Fangor, mae'n adnabyddus fel dramodydd, sgriptwraig ac actores. Mae ei gwaith sgriptio’n cynnwys cyfieithu Shirley Valentine, ysgrifennu’r ffilm Eldra, y gyfres deledu epig, Treflan, a nifer o addasiadau ar gyfer y llwyfan. Mae’n parhau i storïo ac ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm a Gwaith Cartref, ac mae newydd gyhoeddi’i nofel gyntaf, Porth y Byddar.
  • Dylan Foster Evans, Caerdydd - Pennaeth Ysgol y Gymraeg ac yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, chwaraeodd rôl flaenllaw yn nifer o ddatblygiadau’r sefydliad, gan gynnwys y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg. Mae’n arbenigwr ar hanes yr iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant yng Nghaerdydd, ac fe gydnabyddir ei rôl amlwg wrth ffurfio hunaniaeth gymysg ac amlhiliol y brifddinas.
  • Gwyn Griffiths, Pontypridd - Hanesydd, newyddiadurwr ac un o‘r dolenni pwysicaf yn y berthynas rhwng Cymru a Llydaw. Mae hefyd yn adnabyddus fel awdur, golygydd, cyd-olygydd neu gyfieithydd o leiaf 25 o gyfrolau. Un o’i nodweddion amlwg yw ei barodrwydd i gynorthwyo myrdd o unigolion a mudiadau, a hynny’n gwbl wirfoddol ar hyd y blynyddoedd. Bu farw Gwyn Griffiths ddiwedd Ebrill eleni.
  • Ifan Gruffydd, Tregaron - Un o ddiddanwyr enwocaf Cymru, mae'n adnabyddus am ei waith ar gyfresi teledu fel Ma’ Ifan ‘Ma!, Noson Lawen a Nyth Cacwn, ynghyd â’i waith ar raglenni radio fel Dros Ben Llestri. Mae hefyd wedi ysgrifennu deg drama fer ynghyd â dwy gyfrol. Yn ogystal â’i waith cyhoeddus, mae hefyd wedi gwasanaethu bro ei febyd, yn dawel, wirfoddol, heb chwennych unrhyw glod ar hyd y blynyddoedd.
  • Eiddwen Jones, Abergele Mae ganddi ddiddordeb ac arbenigedd ym maes dysgu Cymraeg, a chyflwynodd y Gymraeg fel ail iaith ar batrwm Cynllun Canada, cyn mynd ati i hyfforddi athrawon yn y maes. Bu galw mawr ar ei harbenigedd yn rhyngwladol, ac fe gyflwynodd bapurau ar dechnegau dysgu ail iaith mewn amryw o gynadleddau. Mae hefyd yn awdur pum nofel hanesyddol wedi’u gosod yn Sir y Fflint a Threfaldwyn.
  • Michael Lloyd Jones, Pwllheli - Mae'n llawer mwy adnabyddus fel Mici Plwm neu Plwmsan – sef un hanner y ddeuawd gomedi eiconig, Syr Wynff a Plwmsan. Ef oedd un o’r troellwyr disgiau proffesiynol cynharaf yng Nghymru gyda Disgo Teithiol Mici Plwm, ac mae hefyd wedi gweithio fel cyflwynydd ac fel actor ar lwyfan, radio, teledu a ffilm. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio yng Nghanolfan Heneiddio’n Dda Gwynedd a Môn.
  • Cynfael Lake, Aberaeron - Un o brif ysgolheigion llenyddiaeth Gymraeg, gan weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Abertawe. Cyhoeddodd lu o astudiaethau pwysig ym maes y Cywyddwyr, ac fe gyfrannodd yn sylweddol i’r golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Bu’n gweithredu’n wirfoddol fel Ysgrifennydd Adran Diwylliant y 18fed a’r 19eg Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gan drefnu cynhadledd flynyddol yn y maes.
  • Don Llewellyn, Pentyrch, Caerdydd - Bu'n gweithio i gwmni HTV am flynyddoedd, gan ennill mwy nag un BAFTA am ei waith. Ond, fe’i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad i’w gymuned. Mae’n lladmerydd pwysig dros y Gymraeg yn lleol, ac yn arbenigwr ar dafodiaith Y Wenhwyseg ac ar hanes ei ardal. Fe’i gwahoddir yn gyson i siarad gyda chymdeithasau lu am ei wybodaeth drylwyr. Bu hefyd yn gapten a llywydd y clwb rygbi lleol ym Mhentyrch.
  • Dafydd Parri, Caerdydd - Yn wreiddiol o Benrhyn Llŷn mae'n gynhyrchydd teledu ac yn gwneud gwaith gwirfoddol ym maes cerddoriaeth a bandiau pres am flynyddoedd lawer. Bu hefyd yn gwirfoddoli’n gyson gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Technegol yr Eisteddfod eleni.
  • Ifan Alun Puw, Llanuwchllyn - Bu'n weithgar yn ei fro am gyfnod maith, gan roi blynyddoedd o wasanaeth diflino i’r Urdd. Ers ei ymddeoliad, bu hefyd yn un o gefnogwyr mwyaf brwd Mudiad y Ffermwyr Ifanc. Bu’n Brif Stiward pan ddaeth y Brifwyl i Feirion yn 2009, a rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol fel un o gydlynwyr y Babell Lên, gan ymddeol yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd.
  • Ned Thomas, Aberystwyth - Fe’i cydnabyddir fel un o brif ddeallusion Cymru a’r Gymraeg ac yn un sydd bob amser yn barod i dorchi llewys ac i weithredu’n ymarferol. Yn amlieithog, mae Ned yn rhugl ei Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Rwsieg, ac mae ei waith gyda chyfryngau ieithoedd llai yn Ewrop a thu hwnt yn hynod bwysig.
  • Dennis Williams, Llanfairpwll - Bu’n arwain Band Pres Porthaethwy am flynyddoedd, a bu’n arweinydd Seindorf Arian Deiniolen am gyfnod. Ond mae Dennis hefyd yn rhan bwysig o’i gymuned, a’i gyfraniad fel cyn-Gadeirydd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll a Chadeirydd y Cyngor Bro lleol ymysg pethau eraill yn dangos ei ymroddiad i’w ardal.
  • Geraint Jarman, Caerdydd (derbyniwyd llynedd ond mae'n ymuno'r flwyddyn hon) - Mae ei gyfraniad fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru. Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016. Yn ddi-os, mae’n un sydd wedi cyfrannu cymaint i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, gyda chenedlaethau o unigolion a bandiau wedi’u dylanwadu ganddo ac wedi mwynhau’i gerddoriaeth drwy’r blynyddoedd.

Gwisg las

[golygu | golygu cod]
  • John Davies, Crymych - Yn ffermwr wrth ei alwedigaeth, mae’n gyn-Arweinydd Cyngor Sir Benfro, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’n Gadeirydd Bwrdd Rheoli Sioe Frenhinol Cymru ac yn aelod o Awdurdod S4C. Bu’n gefn mawr i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, gan hyfforddi ac ysbrydoli’r aelodau mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus, ac yn dysgu aelodau lleol.
  • Elaine Edwards, Caerfyrddin - Mae'n ymddeol o’i gwaith fel Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC ar ôl deng mlynedd o waith blaengar ac arloesol. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel athrawes, cafodd flas ar waith undebol fel ysgrifennydd sir i UCAC, cyn ei hethol yn Llywydd Cenedlaethol. Erbyn hyn, mae’n trafod materion addysg a chyflogaeth ar y lefelau uchaf gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a llu o gyrff eraill.
  • Haydn Edwards, Llangefni - Cyn ymddeol bu'n bennaeth Coleg Menai am flynyddoedd. Mae hefyd wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i nifer o sefydliadau yng Nghymru, ac ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Ynys Môn y llynedd, a’i weledigaeth a’i arweiniad ef fu’n gyfrifol am sicrhau Cronfa Leol mor llewyrchus.
  • Huw Edwards, Llundain - Yn wreiddiol o Langennech, newyddiadurwr a chyflwynydd teledu amlwg. Mae’n gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen pwysig sy’n ymwneud â hanes Cymru. Mae’n parhau i gefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar ôl ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi. Mae hefyd yn brif gyflwynydd rhaglen News at Ten i’r BBC ac yn rheolaidd yn llywio’r darlledu o nifer o ddigwyddiadau mawr.
  • Gwyn Ellis Griffiths, Bangor - Y parafeddyg gweithredol cyntaf yng Ngwynedd, a chyda Heddlu Gogledd Cymru bu’n gyfrifol am ddatblygu’r gwasanaeth parafeddygon i wasanaeth yr Ambiwlans Awyr. Mae wedi rhoi oes o wasanaeth i’r gwasanaeth ambiwlans, ac mae’n parhau i gefnogi a mentora parafeddygon sy’n awyddus i symud ymlaen i lefel uwch. Bu’n aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis am flynyddoedd lawer, ac mae’n weithgar iawn gydag amryw o elusennau.
  • John Hardy, Caerdydd - Yn wreiddiol o Fangor, llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau yng Nghymru. Bu’n darlledu am bron i ddeugain mlynedd, ac ar hyn o bryd mae’n gwmni i fore-godwyr y genedl ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos. Mae’n adnabyddus iawn am ei waith yn y byd chwaraeon, gan sylwebu ar dros ddau gant o gemau rhyngwladol ar Radio Cymru, ond mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o feysydd eraill gan gynnwys pob math o adloniant.
  • Paul Hopkins, Llanilltud Fawr - Bargyfreithiwr sy'n Arweinydd Cylchdaith Cymru, swydd etholedig a di-dâl, mae ei gyfrifoldebau a’i gyfraniad i fyd y gyfraith yng Nghymru yn enfawr. Mae’n cynrychioli’r proffesiwn mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Prif Ustus, yr Arglwydd Ganghellor, Cwnsleriaid Cyffredinol Cymru a Lloegr a Gwasanaeth yr Erlyniaeth Cymru. Mae hefyd yn cynrychioli bargyfreithwyr Cymru ar Gyngor y Bar.
  • Margarette Hughes, Hendy-gwyn ar Daf - Bu’n gweithio’n ddiwyd dros addysg feithrin yn lleol, a phan ddaeth yr Eisteddfod i’r ardal yn 1974 trefnodd bod meithrinfa ar y Maes, gan weithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Ar ôl gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Cymraeg i oedolion, dechreuodd fel tiwtor Cymraeg gyda’r nos. Bu Merched y Wawr yn rhan annatod o’i bywyd am flynyddoedd, a bu’n Llywydd Cenedlaethol y mudiad rhwng 1988 a 1990.
  • Anne Innes, Caerdydd - Llwyddodd i godi dros £100,000 tuag at Ymchwil y Galon, ac fe’i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaeth gwirfoddol cwbl nodedig dros achosion da. Yn dilyn salwch ei gŵr yn 1982, pan dderbyniodd galon newydd yn Ysbyty Harefield, penderfynodd fynd ati o ddifri i godi arian a chefnogi achosion da. Mae achosion da yng Nghymru a thu hwnt wedi elwa’n sylweddol iawn o’i chymorth a’i chefnogaeth dros y blynyddoedd.
  • Elin Jones AC, Aberaeron - Mae'n Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru er Mai 2016. Mae wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn fwy atebol i bobl Cymru a bod urddas a pharch yn perthyn i weithdrefnau a thrafodaethau’r Cynulliad. Bu’n cynrychioli Ceredigion yn y Cynulliad er 1999, pan agorwyd y sefydliad, ac heb unrhyw amheuaeth, mae’r fraint o gynrychioli’r ardal honno wedi bod yn flaenoriaeth iddi ers dechrau ei gyrfa fel AC.
  • Eric Jones, Pencader - Mae wedi rhoi oes o waith yn lleol ac yn genedlaethol. Bu’n stiward ac arolygydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd yn ddi-dor er 1984, gan weithio’n dawel yn y cefndir gyda gwên ar ei wyneb bob amser. Mae ei gyfraniad i’w filltir sgwâr hefyd yn helaeth: mae’n ddiacon yn y capel ac yn aelod brwd o bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Llanfihangel-ar-Arth.
  • Gwyneth Briwnant Jones, Caerdydd - Yn wreiddiol o Ddyffryn Aman mae wedi cyfrannu yn y byd addysg drwy’i gyrfa broffesiynol, a’r byd iechyd drwy’i gwaith gyda Chyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro, ynghyd â llu o gyrff iechyd eraill. Bu’n ymwneud gyda datblygu safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ailwampio’r gwasanaethau i famau a babanod ac ailwampio’r gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Alaw Le Bon, Y Barri - Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae wedi gweithio fel athrawes gynradd mewn ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd. Bu’n gweithio fel arweinydd Cylchoedd Chwarae’r Haf dros Fenter Caerdydd, ac mae hefyd yn groesawydd cyfrwng Cymraeg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod â Chaerdydd.
  • Helen Middleton, Y Fenni - Aelod blaenllaw o’r tîm a sicrhaodd Eisteddfod lwyddiannus yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016. Yn wir, mae’n anodd meddwl am unrhyw un sydd wedi cyfrannu mwy i ardal Y Fenni o ran Cymreictod ar hyd y blynyddoedd. Yn enedigol o Aberangell, mae Helen yn rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn ei hardal.
  • Eleri Rees, Caerdydd - Yn wreiddiol o Landre, mae'n Uwch Farnwr Cylchdaith ac yn Farnwr Preswyl Llys y Goron, Caerdydd. Bu’n Farnwr Cylchdaith er 2002, a hi hefyd yw’r Barnwr Cyswllt dros yr Iaith Gymraeg, gan gadeirio’r gweithgor a sefydlodd y drefn sy’n adlewyrchu’n ymarferol yr egwyddor o gydraddoldeb ar gyfer y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn unol â Deddf Iaith 1993. Mae’n Gofiadur Caerdydd er 2012, a hi yw’r ferch gyntaf i’w phenodi i’r swydd ddylanwadol hon.
  • Jamie Huw Roberts, Caerdydd - Un o sêr mwyaf y byd rygbi yng Nghymru ers degawd a mwy. Enillodd 94 o gapiau dros Gymru ac mae wedi chwarae ar ddwy daith gyda’r Llewod. Mae’n arddel ei Gymreictod yn llawn ble bynnag y bo, a gwnaeth gyfraniad helaeth at godi proffil yr iaith ymysg y to ifanc yn y byd rygbi.
  • Vaughan Roderick, Caerdydd - Un o leisiau ac wynebau amlycaf y cyfryngau yng Nghymru yn sgîl ei waith fel Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru. Gyda diddordeb amlwg mewn gwleidyddiaeth a gwleidydda, mae wedi treulio’i yrfa’n dilyn y byd democratiaeth yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Mae’n cyflwyno rhaglenni rheolaidd ar Radio Cymru a Radio Wales, ac mae hefyd yn un o hoelion wyth rhaglenni canlyniadau etholiadau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
  • Jonathan Simcock, Derby - Mae wedi gwneud gwaith gwerthfawr i hybu’r iaith yn yr ardal hon o Loegr. Mae’n trefnu gweithgareddau lu ar gyfer dysgwyr Cymraeg o ardal eang o ganolbarth Lloegr, gan gyfuno gweithgareddau addysgu ffurfiol a digwyddiadau cymdeithasol a hwyliog, er mwyn i ddysgwyr yr ardal gael blas ar holl gwmpas y Gymraeg.
  • Linda Tomos, Dolgellau - Hi yw’r ferch gyntaf i arwain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda’i hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau difreintiedig ar draws Cymru’n arwydd pendant o’i hawydd personol i sicrhau bod pobl ym mhob rhan o’r wlad yn ymwybodol a gwerthfawrogol o’n diwylliant. Bu’n gweithio i Lywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, cyn ymuno â’r Llyfrgell.
  • Dr Rhys Owen Thomas, New Inn, Llandeilo - Ar ôl graddio mewn Meddygaeth, ymunodd â Chatrawd y Parasiwt a bu’n gweithio yn Sierra Leone, Irac ac Afghanistan cyn dychwelyd i Gymru. Defnyddiodd y sgiliau a ddysgodd ar faes y gad i ddatblygu’r system gofal argyfwng cyn-ysbyty mwyaf datblygedig yn y byd ar y cyd gyda’i gydweithiwr Dr Dindi Gill. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
  • 'Andrew White, Llanharan - Cyfarwyddwr elusen Stonewall Cymru er bron i ddegawd, gan arwain y gwaith i gael cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yma yng Nghymru. Wedi dysgu Cymraeg yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol uwchradd, bu’n gweithio am gyfnod gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bennaeth y Tîm Iechyd a Sector Gwirfoddol. Mae’n arweinydd naturiol, a’i waith lobïo wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi diwygio Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru i fod yn fwy cynhwysol o gyfeiriadedd rhywiol.
  • Rosemary Williams, Crug Hywel - Anrhydeddir am ei chyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yn ardal Y Fenni, Crug Hywel ac ardal Pen y Cymoedd. Yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Brynmawr, Blaenau Gwent, bu’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth am yr iaith a hyrwyddo buddiannau addysg Gymraeg i genedlaethau o drigolion lleol. Mae’n un o hoelion wyth y gymuned Gymraeg, a’i chyfraniad i Eisteddfod y Fenni a’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 yn un helaeth.
  • Carole Willis, Y Groesfaen, Pontyclun - Ar ôl dysgu Cymraeg a graddio yn yr iaith, treuliodd ddegawdau’n gweithio gydag eraill i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r iaith yn lleol gydag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau – yn eu plith, Côr Godre’r Garth, Cyngor Cymuned Pontyclun ac fel Cadeirydd cyfredol Bwrdd Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. Mae hi hefyd wedi gweithio’n agos gyda’r Urdd, y Mudiad Meithrin a’r capel lleol dros y blynyddoedd.
Derbyniwyd yr unigolion isod y llynedd, ond mae nhw'n ymuno â’r Orsedd eleni
  • Ronald Dennis - Er ei fod yn dod o ddinas Provo yn Utah, daeth cyndeidiau Ronald Dennis o ardal Helygain, Sir y Fflint. Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu darllen gwaith ei hen hen daid, Capten Dan Jones, prif genhadwr y Mormoniaid yng Nghymru, a dysgu mwy am gyfraniad y Cymry i dwf y ffydd unigryw. Bu ei gyngor a’i gymorth parod ar gael am ddegawdau i bawb sy’n ymddiddori yn y maes, yn arbennig y wefan a ddatblygwyd ganddo yn olrhain hanes y Mormoniaid.
  • Robert Evans, Rhydychen - Bu’n Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, ac mae’n dal i groesawu a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’n awdurdod rhyngwladol ar hanes ac wedi llenwi Cadair Hanes fwyaf blaenllaw’r brifysgol, sef y Gadair Frenhinol (Regiws). Erbyn hyn mae’n Gymrawd Emeritws yng Ngholeg Oriel, a chyn hynny bu’n Gymrawd yng Ngholeg y Trwyn Pres (Brasenose College). Roedd yn un o Gymrodyr Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac mae’n parhau i gefnogi gwaith y Gymdeithas.
  • Jeremy Randles, Y Fenni - Bu'n allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016. Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos a bu'n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod. Bu’n Gadeirydd yr Is-bwyllgor Technegol, ac yn Brif Stiward yn ystod yr wythnos. Yn wreiddiol o Wrecsam ac yn fab i deulu di-gymraeg, mae wedi dysgu’r iaith yn rhugl ac mae ef a’i deulu’n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Cymraeg y Fenni.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ‘Mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen’ yn Eisteddfod Caerdydd , Golwg360, 24 Tachwedd 2018.
  2. 2.0 2.1 https://eisteddfod.cymru/eisteddfod-2018/eisteddfod-2018[dolen farw] Gwefan swyddogol yr Eisteddfod; adalwyd 14 Awst 2017.
  3. Ble nesaf i'r Eisteddfod arbrofol wedi Caerdydd? , BBC Cymru Fyw, 10 Awst 2018. Cyrchwyd ar 14 Awst 2018.
  4.  Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Eisteddfod Genedlaethol Cymru (10 Awst 2018).
  5. Eurig Salisbury yn ail am y Gadair… eto , Golwg360, 11 Awst 2018. Cyrchwyd ar 14 Awst 2018.
  6. Catrin Dafydd yn ennill y goron , Golwg360, 6 Awst 2018.
  7. Manon Steffan Ros yn ennill y Fedal Ryddiaith , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2018.
  8. Tim Heeley yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2018. Cyrchwyd ar 8 Awst 2017.
  9. Rhydian Gwyn Lewis yn ennill y Fedal Ddrama , Golwg360, 9 Awst 2018.
  10. "Cyhoeddi Urddau'r Orsedd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2025-08-03.