Myrddin ap Dafydd
Myrddin ap Dafydd | |
---|---|
![]() Myrddin ap Dafydd yn 2007 | |
Ganwyd | 25 Gorffennaf 1956 ![]() Llanrwst ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Tad | Dafydd Parri ![]() |
Prifardd, golygydd a chyhoeddwr Cymreig yw Myrddin ap Dafydd (ganwyd 25 Gorffennaf 1956). Mae'n Archdderwydd Cymru ers 2019.
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Magwyd Myrddin yn Llanrwst. Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fab i'r awdur llyfrau plant Dafydd Parri ac i'r werthwraig llyfrau Arianwen Parri.
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.[1] Mae'n bellach wedi ymgartrefu yn Llwyndyrys ger Pwllheli, Pen llyn Gwynedd.[2] Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000.
Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2018 mai ef fydd Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2022 gan ddilyn Geraint Lloyd Owen.[3]
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Myrddin yn briod i Llio Meirion, ac yn dad i Carwyn ap Myrddin, Llywarch ap Myrddin, Lleucu Myrddin, Owain ap Myrddin ac i Cynwal ap Myrddin. Mae hefyd yn daid ers i'w fab Carwyn a'i briod Mari gael mab, Deio ap Carwyn yn haf 2018.
Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Cerddi a Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llyfr Caneuon Tecwyn y Tractor (Rhys Parry, Myrddin ap Dafydd, Trefn. Guto Pryderi Puw), Mehefin 1998, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Pen Draw'r Tir, Tachwedd 1998, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Denu Plant at Farddoniaeth - Pedwar Pŵdl Pinc a'r Tei yn yr Inc, Chwefror 1999, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Denu Plant at Farddoniaeth - Cerddi ac Ymarferion: Cyfrol 1 - Armadilo ar ..., Medi 2000, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Jam Coch Mewn Pwdin Reis, Tachwedd 2000, (Hughes a'i Fab)
- Syched am Sycharth - Cerddi a Chwedlau Taith Glyndŵr, Gorffennaf 2001, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Llyfrau Lloerig: Y Llew Go Lew, Ionawr 2002, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Clawdd Cam, Hydref 2003, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Clywed Cynghanedd: Cwrs Cerdd Dafod, 1994, Ail-argraffiad Gorffennaf 2003, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cerddi Cyntaf, Medi 2006, (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfrau Plant Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cyfres y Llwyfan: Ar y Gêm, Ionawr 1982, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres y Llwyfan: Ail Godi'r To, Ionawr 1986, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Gweld Cymru - Hwyl wrth Ddod i Adnabod Gwlad, Mai 1998, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Golau ar y Goeden - Arferion, Straeon a Cherddi Nadolig, Medi 2000, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Syniad Da Iawn! (Sioned Wyn Huws, Myrddin ap Dafydd, Haf Llywelyn, Martin Morgan, Eleri Llewelyn Morris), Tachwedd 2000, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres Mewnwr a Maswr: 1. Brwydr y Brodyr, Mehefin 2004, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 1: Straeon y Tylwyth Teg, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 2: Ogof y Brenin Arthur, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 3: Gelert, Y Ci Ffyddlon, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 4: Barti Ddu Môr-leidr o Gymru, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Odl-Dodl Dolig, Medi 2006, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 5: Meini Mawr Cymru, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cyfres Straeon Plant Cymru 6: Draig Goch Cymru, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfrau Plant Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]
- Tales from Wales 1: Fairy Tales from Wales, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Tales from Wales 2: King Arthur's Cave, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Tales from Wales 3: The Faithful Dog Gelert, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Tales from Wales 4: Black Bart, Mai 2005, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Tales from Wales 5: Stories of the Stones, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Tales from Wales 6: The Red Dragon of Wales, Ebrill 2007, (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfrau Oedolion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llyfrau Llafar Gwlad: 37. Enwau Cymraeg ar Dai, Gorffennaf 1997, (Gwasg Carreg Gwalch)[4]
- Circular Walks e.e. "Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks" [5]
- Cyfres "Welcome to..." e.e. "Welcome to Bermo (Barmouth)"[6]
Crynoddisgiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Caneuon Tecwyn y Tractor, Gorffennaf 2004, (Cwmni Recordiau Sain)
Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bardd cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1974
- Y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990
- Bardd Plant Cymru 2000
- Gwobr Tir na n-Og 2001 Gyda'r Llyfr Jam Coch Mewn Pwdin Reis, (Hughes a'i Fab)
- Y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002
- Archdderwydd Cymru 2019-2021
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Llanrwst's Welsh language publishing company celebrates 20 years (en) , dailypost.co.uk, Trinity Mirror, 18 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ "Academi.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-11. Cyrchwyd 2010-09-26.
- ↑ Myrddin ap Dafydd ydi Archdderwydd nesaf Cymru , Golwg360, 7 Gorffennaf 2018.
- ↑ Llafar Gwlad[dolen marw]
- ↑ "Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-11. Cyrchwyd 2010-09-26.
- ↑ "Welcome to Bermo (Barmouth)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-12. Cyrchwyd 2010-09-26.