Dafydd Parri
Dafydd Parri | |
---|---|
Ganwyd | 29 Gorffennaf 1926 ![]() Rowen ![]() |
Bu farw | 29 Tachwedd 2001 ![]() Llanrwst ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd ![]() |
Plant | Myrddin ap Dafydd, Iolo ap Dafydd ![]() |
Awdur Cymraeg oedd Dafydd Parri (29 Gorffennaf 1926 – 29 Tachwedd 2001)[1] a ddaeth yn fwyaf adnabyddus am ei gyfresi poblogaidd o lyfrau ffuglen i blant yn cynnwys Cyfres y Llewod a Chyfres Cailo. Bu farw yn 75 oed yng Nghartref y Bont, Llanrwst wedi gwaeledd hir.[2]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Rowen, Sir Conwy a fe'i hyfforddwyd fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dysgu
[golygu | golygu cod]Aeth i ddysgu mewn amryw ysgolion yn Sir y Fflint cyn cymryd swydd athro Hanes a Daearyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Roedd yn un o'r criw dedwydd o addysgwyr a weithiodd yn galed i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i ogledd-orllewin Cymru. Cynhyrchodd ddeunydd ar gyfer gwerslyfrau daearyddiaeth yn Gymraeg ar gyfer yr ysgolion newydd dwyieithog.[1]
Gwerthu llyfrau
[golygu | golygu cod]Gyda'i wraig bu'n gwerthu llyfrau drwy ymweld â chymdeithasau Cymraeg yn Sir y Fflint, Sir Gaer ac ardal Wrecsam, cyn sefydlu siop lyfrau a recordiau Cymraeg yn Llanrwst yn 1955. Roedd ei wraig yn rhedeg y siop tra oedd Dafydd yn gweithio fel athro. Symudodd eu merch Gwawr Dafydd yn ôl i'r ardal ar ddechrau'r 1980au i sefydlu busnes gwasanaeth swyddfa 'Bys a Bawd' a phan ymddeolodd ei mam o'i gwaith llawn amser yn 1986 fe unwyd y siop lyfrau gyda'r busnes.[3] Fe aeth y siop ar werth yn 2007 a fe'i prynwyd gan Dwynwen Berry.[4]
Awdur
[golygu | golygu cod]Daeth yn awdur cynhyrchiol yn y 1970au.[2] Rhwng 1975 a 1980 ysgrifennodd dros 30 o lyfrau yn cynnwys 23 stori antur i blant yng Nghyfres y Llewod a chyfres am gi defaid o'r enw Cailo. Ysgrifennodd dwy gyfrol o storïau byr ar gyfer oedolion hefyd, Nos Lun a Storïau Eraill (1976) a Bwrw Hiraeth (1981).[5] Ail-gyhoeddwyd pump o gyfres y Llewod ar ddiwedd y 1990au.[6]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Arianwen Walters yn 1953 ac roedd ganddynt un ferch, Gwawr Dafydd a phedwar mab: yn cynnwys y prifardd ac awdur Myrddin ap Dafydd[7], y dyn busnes Deiniol ap Dafydd a'r darlledwr Iolo ap Dafydd.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Meic Stephens (4 Rhagfyr 2001). Obituaries - Dafydd Parri. independent.co.uk. Adalwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Marw'r awdur Dafydd Parri , BBC Cymru, 30 Tachwedd 2001. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ Dathlu 50 mlynedd o werthu llyfrau , BBC Cymru, 17 Medi 2005. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ Bys a Bawd bookshop owner returns to TV for advert (en) , dailypost.co.uk, Trinity Mirror, 23 Awst 2012. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ Y Lolfa - Dafydd Parri. Y Lolfa. Adalwyd ar 25 Ebrill 2016.
- ↑ Gwales - Dafydd Parri. Gwales. Adalwyd ar 25 Ebrill 2016.
- ↑ Llanrwst's Welsh language publishing company celebrates 20 years (en) , dailypost.co.uk, Trinity Mirror, 18 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ Eisteddfod Genedlaethol 2013. BBC Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.