Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
COVID-19 yng Nghymru
Wales Principal Areas Map Cases per 100K of COVID-19 ONGOING; starting at 17 April 2020.svg
Afiechyd COVID-19
Straen firws SARS-CoV-2
Lleoliad Cymru
Achos gwreiddiol cyntaf Wuhan, China
Dyddiad cyrraedd 28 Chwefror 2020
Achosion wedi cadarnhau 47,834 (ar 29 Hydref 2020)[1]
Marwolaethau
1,848 (ar 29 Hydref 2020)[2]
Gwefan swyddogol
Coronavirus yng Nghymru
Am ystadegau o achosion gweler: Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Yn Rhagfyr 2019 ymddangosodd y clefyd COVID-19, neu'r Gofid Mawr yn Wuhan, Tsieina. Ar 24 Ionawr 2020 dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynlluniau yn eu lle yng Nghymru ar gyfer ymlediad epidemig o'r firws.[3] Ar y diwrnod hwn, hefyd, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi profi un claf am yr haint, ond ei fod yn glir; yn Wuhan, roedd 26 wedi marw a Llywodraeth Tsieina wedi cyhoeddi cyfnod clo (neu "lockdown" yn Saesneg) llwyr. Ar 1 Chwefror canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.[4]

Drwy wanwyn 2020, lledaenodd y clefyd yn fyd-eang, gyda WHO yn ei alw'n "bryder rhyngwladol" ar 30 Ionawr ac yn bandemig" ar 11 Mawrth 2020.[5][5][6]

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ar y dydd olaf o Fawrth nododd Llywodraeth Cymru fod 1,300 o weithwyr iechyd a gofal wedi ymddeol wedi cytuno i ddychwelyd i'w gwaith er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd, gyda'r ffigwr hwn yn cynnwys 670 o ddoctoriaid, a dros 400 o nyrsys a bydwragedd. Ar 17 Mawrth, neilltuodd Llywodraeth Cymru £200 miliwn ar gyfer y byd busnes ac ar 30 Mawrth, rhyddhawyd pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.[7]

Nodyn:Data pandemig coronafirws 2019–20/Siart achosion meddygol Cymru

Arwydd ar giât lwybr sy'n mynd trwy fferm yn Rhuthun yn dynodi ei fod ar gau o ganlyniad bod gweithiwr yn dioddef o ffibrosis cystig.


Diffyg offer personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae iechyd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac efallai mai un o'r pryderon pennaf oedd y diffyg offer a chyfarpar diogelu personol (PPE) yng Nghymru, a gweddill gwledydd Prydain hefyd. Ar 14 Ebrill, cyhoeddodd The National fod Llywodraeth y DU a PHE (Public Health England) wedi gofyn i gwmnïau offer PPE yn Lloegr i beidio danfon offer i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban.[8][9][10]

Profion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 24 Mawrth datgelodd Gweinidog Iechyd Cymru fod cytundeb wedi'i arwyddo gyda chwmni o'r Swistir i ddarparu 5,000 brofion y dydd a 9,000 erbyn diwedd mis Ebrill. Yn ddiweddarach, deallwyd mai'r cwmni Roche ydoedd.[11] Yn ddiweddarach daeth yn wybyddus fod pwysau wedi'i roi ar gwmni Roche a nifer o gwmnïau yn Lloegr i ddarparu'r profion (a dillad amddiffynol) i Loegr yn unig. Er i nifer o bobl, gan gynnwys Adam Price ofyn i'r manylion gael eu rhyddhau, mynnod Gething na fydd hyn yn digwydd, tan wedi i'r pandemig gilio.

Llinell amser[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Amserlen y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Dyma grynodeb byr o'r digwyddiadau a cerrig milltir y firws yng Nghymru.

Rhagfyr 2019[golygu | golygu cod y dudalen]

Cwsmer yn ciwio yn saff a derbyn gwasanaeth drwy ffenest siop "Treehouse", Stryd y Popty, Aberystwyth
Arwydd cefnogaeth i Weithwyr Hanfodol ac i gwsmeriaid ar ffenest Banc Barclays, Aberystwyth
Arwydd rhybudd COVID-19 ar bil-fwrdd drydanol ger Gorsaf reilffordd Aberystwyth
Marciau yn cymell pellter sefyll wrth giwio, bwyty Shilam, Gorsaf reilffordd Aberystwyth
dechrau Rhagfyr
  • Connor Reed, bachgen 25 oed o Lanrwst, a weithiai mewn coleg yn Wuhan yn dal y firws COVID-19. Dyma'r cyntaf o wledydd Prydain i ddal y firws.[12]

Ionawr 2020[golygu | golygu cod y dudalen]

1 Chwefror
  • canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.[13]
24 Ionawr

Chwefror[golygu | golygu cod y dudalen]

2 Chwefror
  • y person cyntaf y tu allan i Tsieina yn marw o'r clefyd; roedd y dyn 44-oed yn byw yn Y Philipinau, ond newydd ddychwelyd o Wuhan, Tsieina.
28 Chwefror
  • Coronafeirws: Achos cyntaf Cymru wedi'i ganfod yn Abertawe.[15]

Mawrth[golygu | golygu cod y dudalen]

Datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn stopio cerbydau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan geisio atal ymlediad y firws. 27 Mawrth 2020.
5 Mawrth
  • Golwg 360 yn nodi fod 2 wedi eu profi'n bositif.[16][17]
7 Mawrth
10 Mawrth
13 Mawrth
  • Gem y chwe gwlad Cymru yn erbyn Yr Alban yn cael ei gohirio.[19]
16 Mawrth
  • Y person cyntaf yng Nghymru yn marw o COVID-19.[20]
17 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi eu bod yn neilltuo £200 miliwn ar gyfer y byd busnes, i'w digolledu oherwydd effaith y Gofid Mawr.[21]
20 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru ar yr 18fed o Fawrth yn gorchymyn cau ysgolion o'r 20fed o Fawrth (dydd Gwener). Dywedodd y llywodraeth y byddai arholiadau TGAU a Lefel A yr haf hwn hefyd yn cael eu canslo.[22]
21 Mawrth
  • twristiaid yn tyrru i fewn i Gymru i'w tai haf a'u carafannau; posteri a cheir yn cael eu gosod i geisio atal hyn a galw mawr ar Lywodraeth Cymru i ymateb.
23 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru yn gorchymyn cau safleoedd gwersylla a chyrchfannau twristiaeth poblogaidd yng Nghymru.[23]
25 Mawrth
27 Mawrth
  • cyhoeddodd Stadiwm y Mileniwm eu bod am gydweithio i droi'r stadiwm yn ysbyty dros dro i 2,000 o gleifion
Llythyr Boris Johnson (Prif Weinidog) a thaflen gwybodaeth gyhoeddus amdano'r Coronafeirws yn y Gymraeg. Danfonwyd gan Lywodraeth y DU i bob tŷ yng Nghymru yn ystod yr pandemig.


28 Mawrth
  • Cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni fferyllol Roche i gynyddu'r profion COVID-19 i 5,000 y dydd yn methu.[25]
30 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru yn rhyddhau pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.[26]

Ebrill[golygu | golygu cod y dudalen]

1 Ebrill
Ciplun o wefan un o brif gyflenwr offer meddygol PPE, Gompels. Disgrifia'r mygydau roedd yn ei gynhyrchu, a nodwyd yn glir mai dim ond cartrefi gofal yn Lloegr a allai brynu'r cynnyrch hyn, o dan orchmynion gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
7 Ebrill
  • Llywodraeth Cymru yn dod a chyfraith i rym sy'n rhoi cyfrifoldeb ar gyflogwyr gweithwyr allweddol (heblaw am GIG) i gadw eu staff 2 fetr ar wahân.[28]
8 Ebrill
  • Llywodraeth Cymru'n cadarnhau y bydd y cyfyngiadau yn aros mewn lle ar ol y 3 wythnos wreiddiol. [29]
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn gofyn am gymorth brys ar ôl i ffermwyr llaeth.[30][31]
9 Ebrill
  • Perchennog cartrefi gofal yn dweud bod cwmnïau yn Lloegr yn gwrthod gwerthu offer gwarchod personol (PPE) i Gymru[32]
11 Ebrill
13 Ebrill
  • Pobl Cymru yn cyd-gannu'r anthem genedlaethol am 8 o’r gloch yr hwyr er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad i weithwyr allweddol GIG.
  • Canolfan profi yn Stadiwm Dinas Caerdydd rhaid cau oherwydd 'resymau gweithredol'.[34][35]
Tystiolaeth gan The National fod cyfarwyddyd wedi ei roi gan Lywodraeth Lloegr y dylai offer PPE gael ei roi i Loegr, ac nid i'r Alban na Chymru.
Murlun sialc adeg COVID-19 & cofio diwrnod VE, tŷ ar A44 mynedfa i Llanbadarn Fawr, Aberystwyth
Arwydd pellter cymdeithasol COVID-19, siop yn Aberystwyth
14 Ebrill
  • Papur newyddion The National yn dweud bod Llywodraeth y DU a PHE (Public Health England) yn gofyn i gwmnïau offer PPE yn Lloegr i beidio danfon offer i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban.[36][37]
  • Ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 82 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19 nag a adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru erbyn dechrau mis Ebrill. [38]
17 Ebrill
  • Marwolaethau yn pasio hanner mil: 506.
  • Mark Drakeford yn dweud yn y briff dyddiol efallai bydd rhaid i Gymru gymryd camau gwahanol 'os oes angen'[39].
  • Plaid Cymru ac Y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau "cydraddoldeb o ran tâl ac amodau" rhwng gweithwyr iechyd a gofal.[40]

18 Ebrill

  • Arolwg gan y Coleg Brenhinol y Nyrsys yn dweud bod 54% o'r rhai a holwyd yn "teimlo dan bwysau" i ofalu heb yr offer digonol. [41][42]

19 Ebrill

20 Ebrill

21 Ebrill

  • Yr Athro Syr Martin Evans yn cyhuddo llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau". [48]

22 Ebrill

  • Dominic Raab yn beirniadu Llywodraeth Cymru am ollwng targedau profi.[49]
  • 15 uwch ddoctoriaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud defnyddio ail gartrefi yn anghyfreithlon.[50][51]

23 Ebrill

  • Tarian Cymru (mudiad codi arian) yn darparu eu cyflenwad PPE cyntaf i weithwyr iechyd yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Chaerdydd.[52]
Trigolion Glanaman, Sir Gar, yn clapio yn y gymeradwyaeth wythnosol ar gyfer gofalwyr.
  • Adroddiad yn dweud gall prifysgolion Cymru gweld gostyngiad o bron i £100m.[53]

24 Ebrill

26 Ebrill

27 Ebrill

  • Prif Weinidog Cymru yn galw ar Lywodraeth DU i roi cymorth ariannol i'r diwydiant dur yng Nghymru.[58]
  • Heddluoedd De a Gogledd Cymru 'yn anobeithio' o ganlyniad i rai torri'r cyfyngiadau drwy deithio o Loegr i Gymru.[59]

28 Ebrill

29 Ebrill

30 Ebrill

  • Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd yn rhithiol i drafod materion yn ymwneud gydag effaith COVID-19 a'r bobl ifanc gyda'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Addysg.[64][65]
  • Ysgrifennydd undeb Unite Cymru, Peter Hughes, yn rhybuddio bod Cymru “mewn perygl mawr” o golli ei ffatrïoedd a’r holl swyddi yn y sectorau cynhyrchu.[66]

Mai[golygu | golygu cod y dudalen]

1 Mai

3 Mai

  • Bydd y rhai sy'n trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd a'r ysgolion Cymraeg yn cael ei blaenoriaethu.[70]

4 Mai

5 Mai

  • Mynegodd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, bod y cyngor "wedi colli hyd at £9m" o ganlyniad i'r pandemig.[71]

6 Mai

  • Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dweud bod coronafeirws wedi costio'r cyngor £20m mewn costau ychwanegol rhwng misoedd Mawrth a Mehefin yn unig.[72]


7 Mai

8 Mai

  • Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ymestyn cyfnod cyfyngiadau am dair wythnos ychwanegol ond llacio rhai rheolau. [74]

9 Mai

  • Lesley Griffiths, Gweinidog Amaeth Cymru, yn cyhoeddi cymorth i'r ffermwyr llaeth sydd wedi dioddef fwyaf.[75]

10 Mai

  • Gwledydd datganoledig yn gadarn bod cyngor 'Aros Gartref' dim wedi newid[76], gyda nifer yn dweud bod cyngor newydd Johnson ar gyfer Lloegr yn "ddryslyd".[77]
Arwydd ar y A55 bwys Y Fferi Isaf ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, 2 Mehefin 2020.

11 Mai

  • Prif Weinidog Cymru'n dweud yn y briff dyddiol mae 'cyfraith Cymru sydd mewn grym', gan dynnu sylw at y tensiwn gwleidyddol.[78]
  • Pedwar Prif Gwnstabl Cymru'n dweud bod llif y traffig o Loegr i Gymru wedi cynyddu o ganlyniad i'r cyhoeddiad gan Boris Johnson ar 10 Mai.[79]

12 Mai

  • Arolygiaeth Gofal Cymru'n dweud bod yna cynyddiad o 98% yn y niferoedd o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru i gymharu â blwyddyn ddiwethaf.[80]

13 Mai

  • Vaughan Gething yn dweud y bydd yn cynyddu'r cynllun profi i 20,000 a bod 5,000 gallu cael ei brofi ar hyn o bryd.[81]

15 Mai

Arwydd yng Nghenarth, yn dweud bod rheoliadau COVID Cymreig mewn grym. Codwyd nifer o arwyddion ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol oedd yn rhybuddio pobl Lloegr oedd yn dod i Gymru yn ystod y Cyfnod clo am yr gwahaniaeth mewn rheoliadau.
  • Mark Drakeford yn cyhoeddi cynllun goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau coronafeirws. Nid oes amserlen benodol.[82]

16 Mai

  • Vaughan Gething yn dweud bydd profi i bawb mewn cartrefi gofal ar ol iddo dderbyn cyngor gwyddonol newydd.[83]

17 Mai

  • Syr Keir Starmer, arweinydd Plaid Llafur, yn dweud ei fod yn destun "siom" bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gwahanol.[84]

18 Mai

19 Mai

  • Ffigyrau diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi bron dyblu.[86]

Mehefin[golygu | golygu cod y dudalen]

5 Mehefin

Enfys o obaith mewn ffenest yn Nyffryn Clwyd; Ebrill 2020.
  • Gwagiwyd Ysbyty Calon y Ddraig a symudwyd y cleifion a staff i ysbytai eraill. 34 claf oedd yr uchaf oedd yn cael ei thrin. Mi fydd y safle yn aros fel ag y mae tra bod perygl o ail don.[87]

18 Mehefin

  • Caewyd ffatri brosesu cyw iâr 2 Sisters ar Ynys Môn yn dilyn 75 achos o goronafirws.[88]

20 Mehefin

  • Ail agorwyd siopau nad ydynt yn hanfodol gyda mesurau diogelwch ychwanegol yng Nghymru.[89]

29 Mehefin

  • Cyhoeddwyd y byddai dau gartref yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio cartref estynedig o 6 Gorffennaf ymlaen.[90]

30 Mehefin

  • Cytunodd Pwyllgor Busnes Senedd Cymru i symud at fodel cymysg ar gyfer cyfarfodydd llawn lle gall Aelodau ymuno yn rhithiol neu gall 20 ymuno yn y Siambr.[91]

Gorffennaf[golygu | golygu cod y dudalen]

3 Gorffennaf

  • Cadarnhau diwedd y cyfyngiadau teithio yng Nghymru yn ogystal a chaniateir aelwydydd ‘estynedig'. [92]

9 Gorffennaf

  • Gweinidog addysg yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer mynd yn ôl i’r ysgol yng Nghymru ym mis Medi. Bydd ysgolion yn dychwelyd i’w capasiti llawn, gydag elfen gyfyngedig yn unig o gadw pellter cymdeithasol oddi mewn i grwpiau cyswllt. [93]

10 Gorffennaf

  • Y Prif Weinidog yn dweud o'r 11 Gorffennaf 2020, gall llety gwyliau hunangynhwysol ailagor. O 13 Gorffennaf 2020, gall nifer o wasanaethau/busnesau ailagor mewn ffordd ddiogel fel siopau trin gwallt, tafarndai a bwytai tu allan. Meysydd chwarae a champfeydd awyr agored (o 20 Gorffennaf 2020), llety arall i dwristiaid (o 25 Gorffennaf 2020), gwasanaethau lle mae angen dod i ‘gysylltiad agos’ fel salonau harddwch, ac ailagor y farchnad dai yn llawn (o 27 Gorffennaf 2020).[94]

13 Gorffennaf

  • Cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd gwisgo gorchuddion wyneb tair haen yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, o 27 Gorffennaf 2020. [95]

15 Gorffennaf

  • Llywodraeth Cymru yn rhyddhau ei strategaeth profi coronafeirws newydd i Gymru, lle mae’n nodi ei blaenoriaethau profi ar gyfer y cyfnod nesaf.[96]

16 Gorffennaf

  • Prif Swyddog Meddygol Cymru yn cadarnhau na fydd angen i bobl sy’n gwarchod eu hunain wneud hynny am y tro yng Nghmru ar ôl 16 Awst.[97]

17 Gorffennaf

  • Grŵp Cyngor Technegol yn cyhoeddi adroddiad cyntaf ar farwolaethau cysyllitedig â’r coronafeirws yng Nghymru. Yng Nghymru, roedd cyfraddau marwolaeth cysylltiedig â’r coronafeirws ar eu huchaf yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, lle roedd y cyfraddau marwolaeth ar eu huchaf ymhlith pobl hŷn, pobl o gymunedau BAME, a phobl o gymunedau difreintiedig.[98]

22 Gorffennaf

  • Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi y bydd £50 miliwn yn ychwanegol o gyllid ar gyfer prifysgolion a cholegau.[99]

25 Gorffennaf

  • Gweinidogion o bedair gwlad y DU yn cytuno i ailgyflwyno mesurau cwarantin ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o Sbaen, mewn ymateb i fwy o achosion o’r Coronafeirws mewn rhannau o’r wlad honno.[100]

30 Gorffennaf

  • Swyddogion Meddygol y DU yn gwneud datganiad ar y cyd ynghylch ymestyn y cyfnod hunan-ynysu o 7 diwrnod i 10 diwrnod ar gyfer pobl sy’n symptomatig neu sy’n cael canlyniad prawf positif.[101]

31 Gorffennaf

  • Y Prif Weinidog yn dweud o'r 3 Awst ymlaen, caiff tafarndai a bwytai ailagor dan do. Caiff y cyfyngiadau ar gwrdd yn yr awyr agored eu llacio hefyd o 3 Awst ymlaen, a hynny er mwyn caniatáu i hyd at 30 o bobl gwrdd yn yr awyr agored gyda pellter cymdeithasol. O 10 Awst ymlaen, bydd canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do i blant yn cael ailagor. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gochelgar a fydd yn gallu canitau i bobl cyfarfod dan do o 17 Awst ymlaen.[102]

Awst[golygu | golygu cod y dudalen]

5 Awst

  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn sefydlogi o £800 miliwn i helpu GIG Cymru ‘i baratoi ar gyfer yr heriau a ragwelir yn ystod y gaeaf’. [103]

7 Awst

  • Cymwysterau Cymru'n dweud bod graddau amcan athrawon lefel A a TGAU y flwyddyn yma wedi bod yn rhai 'hael', a bydd rhaid gostwng graddau drwy broses safonni er mwyn cynnal safonnau gorffennol.[104]

14 Awst

  • Prif Weinidog Cymru yn caniatáu i fwy o deuluoedd gwrdd yng Nghymru. Y bwriad yw, o ddydd Sadwrn 22 Awst ymlaen: y bydd hyd at bedwar cartref creu aelwyd estynedig.[105]

17 Awst

  • Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi Pecyn cymorth o £260 miliwn i awdurdodau lleol yng Nghymru.[106]
  • Dim yn bosib llacio rheolau cwrdd dan do gyda unrhyw un yn ol Mark Drakeford.

18 Awst

  • Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cyllid o £32 miliwn i wella perfformiad profion Coronafeirws.[107]
  • Y Gweinidog Addysg yn ymddiheuro i ddisgyblion ar ôl tro pedol syfrdanol i'r broses o ddyfarnu graddau Lefel A a TGAU. Roedd y broses yn ôl nifer wedi tynnu graddau disgyblion yn annheg i lawr drwy ddefnyddio algorithm. Dilynwyd Kirsty Williams y gweinidogion Addysg arall y DU drwy ddefnyddio graddau gwreiddiol athrawon.[108]

26 Awst

  • Llywodraeth Cymru yn argymell gwisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion, ond bydd i fyny i'r ysgolion wneud yn orfodol wedi iddynt asesu'r risg.[109]

27 Awst

  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dirwyon llymach i bobl sy’n trefnu digwyddiadau cerddoriaeth heb drwydded lle mae mwy na 30 o bobl yn bresennol. [110]

28 Awst

  • Llywodraeth Cymru'n annog bobl i ddilyn y rheolau ar ôl i nifer o achosion positif ddigwydd o ganlyniad i bobl sy’n dychwelyd o’u gwyliau heb hunanynysu.[111]

Ystadegau[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Mae ystadegau am achosion a marwolaethau yng Nghymru yn cael eu casglu gan y byrddau iechyd lleol a'i cyhoeddi yn ddyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn casglu gwybodaeth am farwolaethau sy'n cael ei cyhoeddi ar wahan.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Pandemig COVID-19

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodyn:Cyfeiriadau