Undeb Amaethwyr Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn undeb yn cynrychioli buddianau ffermwyr ac yn ddiogelu a hyrwyddo buddiannau’r rheiny sy’n ennill incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru.  Cafodd ei sefydlu yng Nghaerfyrddin yn 1955.


Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd UAC ym 1955 oherwydd pryderon y byddai buddiannau ffermwyr Cymru bob amser yn dod yn ail i'r rhai oedd yn ffermio mewn ardaloedd âr mwy ffrwythlon yn Lloegr.

Roedd nifer o ddigwyddiadau wedi cyfrannau at y teimlad hwn, gan gynnwys cost pencadlys newydd yr NFU yn Knightsbridge[1] ond roedd cynllun i goedwigo ardal mawr yn Sir Gaerfyrddin, gan Lywodraeth y DU oedd wedi achosi i gadeirydd yr NFU yn Sir Gaerfyrddin gyhoeddi i aelodau mewn cyfarfod ar 8 Rhagfyr 1955 ei fod yn ymddiswyddo. Dywedodd Ivor T Davies ei fod yn teimlo bod polisiau’r NFU yn groes i fuddiannau ffermwyr Cymru. Siaradodd Mr Davies am sefydlu undeb amaethwyr newydd i Gymru a cherddodd llawer o’r aelodau allan, ond arhosodd 12 ar ol. Penderfynnwyd y 12 i ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru ac i ethol Ivor T Davies yn gadeirydd a D. T Davies yn is-gadeirydd[2].

Daeth J. B. Evans yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb[2], ac yn dilyn cyfarfod yn Aberystwyth, daeth John Morris yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a swyddog cyfreithiol yr undeb. Agorodd Morris swyddfa yng Nghaernarfon er mwyn recriwtio aelodau yn Sir Gaernarfon a Sir Fon ac erbyn iddo adael yr undeb yn 1957, roedd swyddfeydd hefyd yn Nolgellau, Llangefni ac Aberystwyth[1]. Roedd yr undeb yn weithgar yn yr ymdrech i atal y cynllun i foddi Capel Celyn[1].

Erbyn 1959 roedd ur Undeb yn fudiad sylweddol “The FUW is a force to be reckoned with... Its roots go down into deep soil, invigorated as it may be by past frustrations and controversies , but fed principally from the conviction that the Welsh voice can do more for Welsh agriculture solo than in chorus” (Financial Times)[2]

Deg diwrnod cyn trosglwyddo cyfrifoldeb am amaeth yn llawn i’r Swyddfa Gymreig yn 1978, cyhoeddodd Fred Peart, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd bod Llywodraeth y DU yn cydnabod Undeb Amaethwyr Cymru i siarad ar ran ffermwyr Cymru. Roedd hyn yn foment tyngedfennol i’r Undeb[2]. Ysgrifennodd Gwladol Cymru ar y pryd oedd John Morris, oedd wedi gweithio i’r Undeb yn ei


Gwasanaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae UAC yn cynnig cyngor arbenigol, gostyngiadau a chynigion i aelodau, cyngor ar y datblygiadau polisi diweddaraf, rhwydwaith o swyddfeydd lleol, lobïo llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau, a rhoi llais i ffermwyr Cymru[3].

Strwythur[golygu | golygu cod y dudalen]

Tim Llywyddol

Mae aelodau UAC yn ethol Tîm Polisi Llywyddol ar lefel gendlaethol sy’n siarad ar ran ffermwyr Cymru ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn cynrychioli’r Undeb mewn cyfarfodydd gweinidogol, gweithdai rhanddeiliad a chyfarfodydd canghenau leol.


Canghennau

Mae 12 cangen sirol sy’n ethol pwyllgor y sir gan gynnwys Llywydd a Chadeirydd ac mae swyddfa ar gyfer pob cangen sir. Lleolir y swyddfeydd lleol yn:


Pwyllgorau Sector

Mae 11 pwyllgor sector, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ffermwyr a etholwyd yn ddemocrataidd o 12 cangen sir yr Undeb ar gyfer:

  • Iechyd a lles anifeiliad
  • Tir Comin
  • Addysg a hyfforddiant
  • Arallgyfeirio
  • Ffermio tir uchel a thir dan anfantais
  • Defnydd tir a chysylltiadau seneddol
  • Marchnadoedd, gwlan a da byw
  • Llaeth a chynnyrch llaeth
  • Tenantiaid
  • Llais ifanc

Mae aelodau pwyllgorau sector, swyddogion y siroedd, swyddogion a staff yr undeb yn cwrdd yn y Brif Gyngor pob dwy fis, sef prif corf etholedig yr Undeb.

Lleolir pencadlys yr undeb yn Aberystwyth, Ceredigion[3].

Swyddogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Swyddogion presennol yr UAC yn 2020 yw:

  • Glyn Roberts – Llywydd
  • Ian Rickman, Dirprwy Lywydd FUW
  • Eifion Huws, Is lywydd Gogledd Cymru
  • Brian Bowen, Is lywydd Canolbarth Cymru
  • Dai Miles, Is lywydd De Cymru[3]


Cyn Lywyddion

  • 1955-1958 Ivor T Davies
  • 1958-1961 D T Lewis
  • 1961-1966 Glyngwyn Roberts
  • 1966-1984 T. Myrddin Evans
  • 1984-1991 H. R. M. Hughes
  • 1991- 2003 Bob Parry
  • 2003- 2011 Gareth Vaughan
  • 2011 – 2015 Emyr Jones
  • 2015- Glyn Roberts[2][3]


Dolenni Allannol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]


  1. 1.0 1.1 1.2 Morris, John, 1931 November 5- (2011). Fifty years in politics and the law. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2418-9. OCLC 711051008.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Jones, Handel. (1994). Teulu'r tir : hanes Undeb Amaethwyr Cymru 1955-1992. Vittle, Arwel. Talybont, Dyfed: Y Lolfa. ISBN 0-86243-338-X. OCLC 32013747.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 "Undeb Amaethwyr Cymru". Farmers Union of Wales. Cyrchwyd 2020-05-15.