Cyfnod clo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
COVID-19 arwydd Achub Bywyd adeg y Cyfnod Clo

Cyfnod Clo oedd y term Cymraeg a ddefnyddiwyd yn ystod Y Gofid Mawr, COVID-19 yng Nghymru yn 2020 i ddisgrifio'r cyfnod a'r weithred o rheoli symudiadau pobl rhag lledu'r haint.[1] Y term a ddefnyddiwyd yn y Saesneg, ac yn aml mewn Cymraeg llafar, oedd 'lock down'. Daeth y term yn ganolog i unrhyw drafodaeth ar dŵf, rheoli, a bywyd a busnes yn ystod y Gofid Mawr.[2] Defnyddia Llywodraeth Cymru Cyfyngiadau symud i ddisgrifio'r weithred.[3]

Esblygiad y term[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ddechrau'r pandemig COVID-19 doedd ddim yn glir a doedd dim consensws ar beth ddyliau'r gair Cymraeg am "lock down" fod. Tueddwyd i ddefnyddio'r term Saesneg, hyd yn oed yn y cyfryngau safonnol megis BBC Cymru, 'Lockdown llwyr' i ferch o Aberystwyth yn Ecwador (8 Ebrill)[4] "Bywyd ar 'lockdown' yn Fietnam" (9 Ebrill)[5]. Cafwyd defnydd o Clofa hefyd, er, bod hynny, erbyn diwedd y pandemig, i'w weld fel term mwy generic ar gyfer "lockdown" a allai ddigwydd mewn carchar neu sefydliad arall neu cyd-destun wleidyddol.

Esgorodd hyn ar drafodaeth ar y term am "lock down" a hefyd termau cymharol dieithr eraill, megis "furlogh", "Beth yw 'lockdown' a 'furlough' yn Gymraeg?" ar 1 Mai.[6] Bu i'r BBC arddel, bod dan gyfyngiadau, awgrymodd y prifardd, Aneirin Karadog, Y Meudwyo Mawr, ac Eifion Lloyd Jones, caethiwo.[7] Cafwyd hefyd trafodaeth ar Twitter Dafydd Trystan, ar 23 Mehefin, dri mis fewn i'r Cyfnod Clo, am ba derm roedd pobl yn ei ddefnyddio, gan nodi, mewn ffordd diffyg consensws llafar ar derm Cymraeg.[8]

Erbyn canol mis Mehefin roedd Cyfnod Clo yn gyffredin.[9][10]

Effaith Cyfnod Clo[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â'r effaith ar yr economi a'r gwasanaethau iechyd, gwelwyd effaith ar iechyd meddwl pobl gyda nifer yn trafod yr angen am gwmni, yn enwedig pobl oedd yn byw yn sengl. Un o'r bobl a siaradodd yn agored am yr unigrwydd yma oedd Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru.[11]

Ystyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Bwriad gweithredu'r Cyfnod Clo oedd lleihau gallu y Coronafirws i ymledu rhwng pobl ac ar draws cymunedau. Dechreuwyd ei weithredu ym Mhyrdain ar 23 Mawrth.[12] Dadleuwyd bod hyn o leiaf wythnos yn rhy hwyr gan achosi rhagor o farwolaethau a dirwasgiad i'r economi na phetai wedi ei alw wythnos neu fwy yn gynt. Roedd lleihau cyfleuoedd i bobl, ac felly y Coronafirws i gysylltu gyda'i gilydd yn holl bwysig ar gyfer cadw Cyfradd Rhif R yn isel ac osgoi'r pandemig rhag lledaenu.[13]

Ar 10 Mai cafwyd rhaniad amlwg rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig o dan Boris Johnson a'r tair senedd ddatganoledig Celtaidd: Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon (Llywodraeth Gogledd Iwerddon) wrth i San Steffan - Lloegr i bob pwrpas - gyhoeddi eu bod am lacio peth o amodau'r Cyfnod Clo gan ei wneud yn haws i deithio.[14]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Clofa
Pandemig COVID-19

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]