Eifion Lloyd Jones

Oddi ar Wicipedia
Eifion Lloyd Jones
Ganwyd13 Hydref 1948 Edit this on Wikidata
Felinfach, Ceredigion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlledwr, academydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata
PriodLeah Owen Edit this on Wikidata

Darlledwr a darlithydd yw Eifion Lloyd Jones (ganwyd 13 Hydref 1948). Mae'n Lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ers 2017.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Eifion yn Felinfach ac fe'i magwyd ym Mhorthmadog. Bu'n gweithio i HTV Cymru fel cyflwynydd a chynhyrchydd teledu ac roedd yn gyfrifol am ddarllediadau allanol o eisteddfodau a gwyliau Cymru. Bu hefyd yn gweithio fel uwch-ddarlithydd yn Adran Gyfathrebu'r Coleg Normal, Bangor. Bu'n ymgeisydd gwleidyddol dros Blaid Cymru.[1]

Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr yn cynnwys Byd y Teledu a dwy nofel, Lleucu a Blas yr Afal.

Mae'n lefarydd i fudiad Dyfodol yr Iaith.[2]

Sylwadau dadleuol[golygu | golygu cod]

Roedd yn gadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001. Yn ei araith fel Llywydd y Dydd gwnaeth sylwadau dadleuol ynglŷn â'r syniad o gyfyngu nifer y plant o aelwydydd di-Gymraeg a dderbynir i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Beirniadwyd y sylwadau gan Heini Gruffudd, cadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg a ddywedodd fod "dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar rieni di-Gymraeg i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg"[3]

Yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, cafodd ei feirniadu am sylw a wnaeth yn ystod Y Gymanfa Ganu ar y nos Sul wrth gyflwyno Iori Roberts, llywydd Cymru a'r Byd, i'r gynulleidfa, gan ddweud ei fod wedi "gweithio'n Uganda ac Ysgol Emrys ab Iwan, Abergele - a dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf", cyn gwneud sylw tebyg am ogledd Lloegr. Fe'i feirniadwyd gan nifer am y sylw ond dywedodd fod "rhai pobl wedi methu deall y cyd-destun". Dywedodd mai "jôc" oedd y sylw i fod ac nid oedd yn derbyn unrhyw awgrym ei fod yn sylw hiliol.[4] Fe'i ail-etholwyd fel Llywydd ar y dydd Gwener canlynol er y cafwyd cynnig gan Marc Phillips i'w atal.[5] Daeth datganiad arall ar y dydd Sul gan ddweud ei fod "ymddiheuro am unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol gan sylwadau o'm eiddo"[6]. Ar ddydd Mawrth, 14 Awst cyhoeddodd Dylan Foster Evans ei fod wedi dileu ei aelodaeth o Lys yr Eisteddfod am nad oedd yr ymddiheuriad yn un diamod.[7] Daeth trydydd datganiad ganddo ar ddydd Mercher, 15 Awst gan ddweud ei fod yn "ymddiheuro'n llawn a diamod am y gair a ddefnyddiais yn seremoni Cymru a'r Byd, a gallaf sicrhau pawb fy mod yn gyfangwbl yn erbyn hiliaeth o unrhyw fath."[8]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n byw yn Prion, Dinbych, yn briod â'r gantores Leah Owen ac mae ganddynt bedwar o blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Y Lolfa - Eifion Lloyd Jones. Y Lolfa. Adalwyd ar 13 Awst 2018.
  2. Mudiad yn galw am drafod blaenoriaethau ieithyddol S4C , BBC Cymru, 26 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
  3. Rhybudd Llywydd ynglŷn â derbyn y di-Gymraeg , BBC Cymru, 11 Awst 2001. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
  4. Pobl wedi 'camddeall' sylwadau yn ôl Eifion Lloyd Jones , BBC Cymru Fyw, 10 Awst 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
  5. Ail-ethol Eifion Lloyd Jones , Golwg360, 10 Awst 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
  6. Llywydd Llys yr Eisteddfod yn ymddiheuro am ei sylwadau , BBC Cymru Fyw, 12 Awst 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
  7. Dileu aelodaeth wedi sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 14 Awst 2018. Cyrchwyd ar 16 Awst 2018.
  8. Trydydd ymddiheuriad Llywydd y Llys , Golwg360, 15 Awst 2018. Cyrchwyd ar 16 Awst 2018.