Rhieni Dros Addysg Gymraeg

Oddi ar Wicipedia

Cymdeithas sy'n gwarchod buddianau rhieni sydd â phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu sy'n dymuno i'w plant gael addysg Gymraeg yw Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG).

Ar hyn o bryd dim ond tua 20% o blant Cymru sy'n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Amcan RhAG yw cynyddu'r canran hwnnw a gwneud addysg Gymraeg yn norm yn hytrach nag eithriad. Daw'r aelodau o gefndir amrywiol, rhai yn Gymry Cymraeg, eraill yn deuluoedd dwyieithog neu ddi-Gymraeg. Ceir canghennau ar draws Cymru, o Fôn i Fynwy.

Mae RhAG yn rhoi pwysau ar Awdurdodau Addysg a Llywodraeth Cymru i'w hargyhoeddu fod galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac i geisio eu perswadio i'w chyflenwi i'r plant. Yn ôl RhAG, "mae ymchwil wedi dangos y byddai hyd at 50% o rieni yng Nghymru am anfon eu plant i ysgolion Cymraeg pebaent yr un mor hygyrch ag ysgolion Saesneg eu cyfrwng".

Dolen allanol[golygu | golygu cod]