Sgwrs:Eifion Lloyd Jones

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gogledd Lloegr[golygu cod]

@Llywelyn2000:. Rydych chi wedi ychwanegu "angen ffynhonnell" ar ôl y frawddeg "cyn gwneud sylw tebyg am Ogledd Lloegr". Mae un o'r erthyglau BBC a gyfeirir atynt yn barod (cyfeiriad 4) yn sôn am ddatganiad hwyrach ganddo fo sy'n cyfeirio at Abergele, Uganda a Gogledd Lloegr. Yn fwy penodol, mae un o'r erthyglau Golwg360 (cyfeiriad 8) yn dweud y cyfeiriodd y sylwadau gwreiddiol at “anwariaid” Uganda, Rhyl a gogledd Lloegr. Methais i ddod o hyd i ffynhonnell sy'n cadarnhau'r drefn union o sylwadau yn ei sgwrs, er mod i'n cofio y daeth ei sylw am Uganda ac Abergele (yr un a ddyfynnir yn yr erthygl) yn gyntaf, cyn iddo fo ychwanegu, wrth siarad am Ogledd Lloegr fymryn nes ymlaen, rhywbeth fel "maen nhw'n anwariaid hefyd". Ond manwl bychan ydy hwn - y peth pwysig ydy'r ffaith bod y ffynonellau'n cadarnhau y cynhwyswyd pob un o'r tri lle yn ei sylwadau. --Money money tickle parsnip (sgwrs) 05:50, 12 Awst 2019 (UTC)[ateb]

Ydyn, ti'n hollol gywir - a diolch am dy gyfraniadau! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:14, 12 Awst 2019 (UTC)[ateb]