Sgwrs Defnyddiwr:Dani di Neudo

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Diolch a chroeso. Deb (sgwrs) 08:24, 1 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

Symbolau dirgel[golygu cod]

Diolch am olygu Y Treigladur. O ran diddordeb, ydych chi'n gweld y symbolau dirgel wrth ddarllen yr erthygl yn y ffordd arferol? Rwy'n eu gweld fel dotiau coch yn y panel golygu ond maen nhw'n anweledig yn y panel darllen arferol. Mae'r dotiau coch yn digwydd ar gryn nifer o dudalennau. Rwy'n eu dileu pan fyddaf yn sylwi arnynt tra byddaf yn golygu tudalen, ond ar wahân i hynny dw i ddim yn poeni amdanynt. Ond os ydyn nhw'n arddangos, bydd angen i mi roi mwy o feddwl iddo. --Craigysgafn (sgwrs) 12:50, 13 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]

@Craigysgafn: Roedden nhw'n edrych fel sgwariau, sydd sut mae fy mhorwr yn dangos symbolau anhysbys. Dyna'r cyfan dw i'n ei wybod. --Dani di Neudo (sgwrs) 17:28, 20 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Mae'n debyg mai 'smart quotes' o MS Word neu rhywbeth tebyg oedden nhw - yn benodol y nod hwn. Doedden nhw ddim yn ymddangos i mi ar Firefox/Chrome ond mae nhw i weld ar Edge. --Dafyddt (sgwrs) 19:12, 20 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]