Iechyd meddwl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio


Iechyd meddwl
Data cyffredinol
Dynodwyr
Freebase /M/03x69g edit this on wikidata
Quora Mental-health edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae iechyd meddwl yn lefel o les seicolegol, neu absenoldeb salwch meddwl.

Gallwn feddwl am iechyd meddwl yn nhermau y ffordd a deimlwn am ein hunain a’r pobl o’n cwmpas, ein gallu i wneud a chadw ffrindiau a pherthnasau, ein gallu i ddysgu gan eraill ac ein gallu i ddatblygu’n seicolegol ac yn emosiynol

Mae’n rywbeth sy’n newid ar adegau gwahanol o’n bywydau a bydd rhai pobl yn meddwl amdano fel ‘iechyd emosiynol’ neu ‘lles’, ond yr un peth ydyn nhw’n y bôn. Gall effeithio ar y ffordd fydden ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn a dylanwadu ar y ffordd fydden ni’n delio â straen, yn uniaethu ag eraill ac yn gwneud penderfyniadau.

Mae bod yn feddyliol iach hefyd yn ymwneud â’r cryfder i oresgyn yr anawsterau a’r heriau a fydd yn ein wynebu ni i gyd ar adegau’n ystod ein bywydau – i fod â hyder ac hunan-barch ac i allu credu’n ein hunain.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Beth yw iechyd meddwl' ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall