SARS-CoV-2

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
SARS-CoV-2
2019-nCoV-CDC-23312.png
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Fungi
Dosbarth: Basidiomycota
Urdd: Agaricales
Teulu: Hygrophoraceae
Genws: Betacoronavirus
Rhywogaeth: SARS-CoV-2
Enw deuenwol
Severe acute respiratory syndrome coronavirus 2
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r straen o firws sy'n achosi clefyd a elwir yn "COVID-19".
Am yr erthygl ar y pandemig a achoswyd gan y firws, gweler yma.
Am yr erthygl ar yr haint, geweler COVID-19.

Coronafirws RNA un-edefyn (single stranded) yw SARS-CoV-2, sy'n fathiad o'r Saesneg Severe acute respiratory syndrome coronavirus 2. Yr enw gwreiddiol (a dros dro) arno oedd ' 2019 novel coronafirws (2019-nCoV)'.[1] Oherwydd bod y feirws yma'n heintus i bobl, mae'n achosi'r hyn a elwir yn "afiechyd COVID-19" a ymledodd, yn fydeang, yn epidemig Coronafirws 19-20.[2] WHO a fathodd y term SARS-CoV-2 a nhw hefyd, ar 30 Ionawr 2020, a gyhoeddodd fod yr epidemig yn 'Argyfwng Iechyd Cyhoeddus Rhyngwladol o Bryder Mawr'.[3]

Oherwydd bod Sefydliad Iechyd y Byd yn annog pobl i beidio â defnyddio enwau sy'n seiliedig ar lefydd, ac er mwyn osgoi dryswch â'r clefyd SARS, mae "SARS-CoV-2" yn aml yn cyfeirio at y firws sy'n gyfrifol am COVID-19 neu "y Firws COVID-19" o fewn iechyd cyhoeddus.[4] Mae'r cyhoedd yn aml yn galw'r firws a'r afiechyd yn "coronafirws", ond mae gwyddonwyr a'r mwyafrif o newyddiadurwyr fel arfer yn defnyddio termau mwy manwl gywir.[5] Mae'r cyhoedd yn gyffredinol, fodd bynnag, yn galw'r firws yma a'r haint yn "coronafirws".[6]

Ym Mawrth 2020, nid oedd brechlyn ar gael i ymladd yn erbyn y firws, nid oedd unrhyw fath o imiwnedd ar gael i atal heintio pellach. Gan mai firws ydyw ac nid bacteria, nid yw meddyginiaethau gwrthfeiotig yn ei goncro. Mae'r dulliau mwyaf effeithiol i'w atal rhag ymledu yn cynnwys ynysu (a hunan-ynysu) a golchi dwylo.[7]

Mae gan SARS-CoV-2 debygrwydd genetig agos i coronafirysau ystlumod, ac mae'n debygol i'r firws hwn darddu ohonynt. Mae'n debygol hefyd i'r mamal Pangolin fod yn rhan o drosglwyddo'r firws i fodau dynol, hy yn ddolen rhwng yr ystlum a'r person.[8][9]

O ran tacsonomeg, dynodwyd SARS-CoV-2 yn fath o rywogaeth (neu'n 'isrywogaeth') o'r coronofirws SARSr-CoV.[10]

Heintio[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod Pandemig coronafirws 2019–20 profwyd fod y firws SARS-CoV-2 yn ymledu, ac yn trosglwyddo o berson i berson drwy ddiferion bychan o ddŵr, drwy beswch neu dishan, a hynny dros bellter o tua dwy fetr.[11][12] Gall hefyd drosgwyddo mewn modd anuniongyrchol, drwy gyffwrdd a metal, plastig a deunyddiau caled eraill, lle gall y firws fyw am gyfnod o dri diwrnod. Ar ddefnydd meddal neu gardfwrdd, gall fyw am ddiwrnod. Ar gopr nid yw'n para mwy na 4 awr. Dywedir fod unrhyw sebon sy'n creu ewyn yn effeithiol.[13][14]

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • "The Novel Coronavirus – A Snapshot of Current Knowledge". Microbial Biotechnology 2020: 1–6. March 2020. doi:10.1111/1751-7915.13557. PMID 32144890.
  • "The Novel Coronavirus: A Bird's Eye View". The International Journal of Occupational and Environmental Medicine 11 (2): 65–71. February 2020. doi:10.15171/ijoem.2020.1921. PMID 32020915.
  • Laboratory testing for coronavirus disease 2019 (COVID-19) in suspected human cases: interim guidance, 2 March 2020 (Adroddiad). World Health Organization. 2 March 2020. WHO/COVID-19/laboratory/2020.4. License: CC BY-NC-SA 3.0.
  • WHO R&D Blueprint: informal consultation on prioritization of candidate therapeutic agents for use in novel coronavirus 2019 infection, Geneva, Switzerland, 24 January 2020 (Adroddiad). World Health Organization. 2020. WHO/HEO/R&D Blueprint (nCoV)/2020.1.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Surveillance case definitions for human infection with novel coronavirus (nCoV): interim guidance v1, January 2020 (Adroddiad). World Health Organization. 2020. WHO/2019-nCoV/Surveillance/v2020.1.
  2. Mansoor, Sanya (11 Chwefror 2020). "What's in a Name? Why WHO's Formal Name for the New Coronavirus Disease Matters". Time. Cyrchwyd 4 Mawrth 2020.
  3. Wee SL, McNeil Jr. DG, Hernández JC (30 Ionawr 2020). "W.H.O. Declares Global Emergency as Wuhan Coronavirus Spreads". The New York Times. Archifwyd o y gwreiddiol ar 30 Ionawr 2020. Cyrchwyd 30 Ionawr 2020. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
  4. World Health Organization best practices for the naming of new human infectious diseases (Adroddiad). World Health Organization. 2015. WHO/HSE/FOS/15.1.
  5. "Naming the coronavirus disease (COVID-2019) and the virus that causes it". World Health Organization. Archifwyd o y gwreiddiol ar 28 Chwefror 2020. Cyrchwyd 24 Chwefror 2020. From a risk communications perspective, using the name SARS can have unintended consequences in terms of creating unnecessary fear for some populations.... For that reason and others, WHO has begun referring to the virus as "the virus responsible for COVID-19" or "the COVID-19 virus" when communicating with the public. Neither of these designations are [sic] intended as replacements for the official name of the virus as agreed by the ICTV. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
  6. Harmon A (4 Mawrth 2020). "We Spoke to Six Americans with Coronavirus". The New York Times. Archifwyd o y gwreiddiol ar 13 Mawrth 2020. Cyrchwyd 16 Mawrth 2020. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
  7. rcn.org.uk; adalwyd 18 Mawrth 2020.
  8. Another Decade, Another Coronavirus; Ionawr 2020; New England Journal of Medicine; cyfrol 382; rhif 8; tud. 760–762
  9. "A pneumonia outbreak associated with a new coronavirus of probable bat origin". Nature 579 (7798): 270–273. February 2020. doi:10.1038/s41586-020-2012-7. PMID 32015507.
  10. "The species Severe acute respiratory syndrome-related coronavirus: classifying 2019-nCoV and naming it SARS-CoV-2". Nature Microbiology: 1–9. Mawrth 2020. doi:10.1038/s41564-020-0695-z. PMID 32123347. https://www.nature.com/articles/s41564-020-0695-z.
  11. "A familial cluster of pneumonia associated with the 2019 novel coronavirus indicating person-to-person transmission: a study of a family cluster". The Lancet 395 (10223): 514–523. Chwefror 2020. doi:10.1016/S0140-6736(20)30154-9. PMID 31986261.
  12. Edwards E (25 January 2020). "How does coronavirus spread?". NBC News. Archifwyd o y gwreiddiol ar 28 Ionawr 2020. Cyrchwyd 13 Mawrth 2020. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
  13. "Correspondence: Aerosol and Surface Stability of SARS-CoV-2 as Compared with SARS-CoV-1". The New England Journal of Medicine. 17 Mawrth 2020. doi:10.1056/NEJMc2004973. PMID 32182409.
  14. Yong E (20 Mawrth 2020). "Why the Coronavirus Has Been So Successful". The Atlantic (yn Saesneg). Archifwyd o y gwreiddiol ar 20 Mawrth 2020. Cyrchwyd 20 March 2020. Unknown parameter |url-status= ignored (help)
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: