Brechlyn

Oddi ar Wicipedia
Brechlyn
Enghraifft o'r canlynolgwella Edit this on Wikidata
Mathbiofferyllol, meddyginiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brechlyn
Brechlyn COVID-19
Enghraifft o'r canlynolgwella Edit this on Wikidata
Mathbiofferyllol, meddyginiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae brechlyn yn baratoad biolegol y corff i ddarparu imiwnedd gweithredol i glefyd heintus penodol. Mae brechlyn yn feddyginiaeth a roddir gan feddyg neu nyrs ac mae'n gwneud person yn llai tebygol o gael clefyd. Mae'n rhoi imiwnedd i glefyd heintus a achosir gan germ penodol (bacteria neu firws). Er enghraifft, mae'r brechlyn ffliw yn ei gwneud hi'n llai tebygol y bydd person yn cael y ffliw.

Gwneir brechlynnau fel arfer o rywbeth sy'n fyw, neu oedd arfer fod yn fyw.

Ym 1796, defnyddiodd Edward Jenner fuchod a oedd wedi'u heintio â'r frech wen (variolae vacinae) i amddiffyn pobl rhag y frech wen.[1] Gelwir y driniaeth o frechlynnau yn brechu, frechiad neu yn bigiad.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf i'r gair brechlyn am vaccine yng nghyhoeddiad Gwyddor Gwlad, ii 59 yn 1955.[2] Mae brechlyn yn air cyfansawdd o ddau air: brech + llyn.

Mae brech yn golygu "smotiau neu gochni ar y croen a achosir fel arfer gan afiechyd". Arddelwyd y gair 'brech' o leiaf cyn-belled yn ôl â'r 15g, ac fe'i defnyddir wrth gyfeirio at wahanol afiechydon e.e. y Frech Ieir, y Frech Goch, y Frech Wen ayyb. Ceir y cofnod cynharaf o'r gair mewn cyd-destun; "y defnydd er dodiad y frech (innoculation) a dylid ei gymmeryd ynghylch y seithfed dydd o'r tarddiad a fflaim neu nodwydd" a hefyd yn yr un cyhoeddiad ceir, "brech y fuwch" (cow pox) a'i alluoedd tybiedig i attal haint y frech wen", yn 1816 yn 'Yr Hyfforddwr Meddygol'. Yn 'Y Gwyddonydd' 1963, cofnodir "oni bai am y brechau modern ni fyddai llawer ohonom yn fyw heddiw". Mae dywediadau megis "mynd â'r babi i gael ei frechu" yn gyffredin.[3]

Mae'r gair llyn, wrth gwrs, yn golygu lake, ond mae hefyd yn "dynodi diod, diodfeddwol, gwirod, cordial, sudd, hylif, gwlybr" - h.y. natur hylifog y brechlyn. Ceir cofnod o 1651 yn llawysgrif Siôn Treredyn o'r gair llyn mwewn cyd-destun meddygol: "... neu'r llynn y mae Physigwyr yn ei cyfarwyddo [sic.] i'r dyn claf".[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Brechlyn y frech wen a'r offer ar gyfer ei weinyddu.

Creodd Edward Jenner y brechlyn cyntaf yn y 1770au. Ar yr adeg hon, roedd y frech wen yn glefyd marwol. Sylwodd Jenner nad oedd morwynion llaeth lleol, a phobl eraill oedd yn gweithio â gwartheg, oedd wedi cael brech y fuwch (clefyd sy'n gysylltiedig â'r frech wen) fel arfer yn cael y frech wen. Roedd yn credu bod cael y frech y fuwch yn amddiffyn pobl rhag y frech wen.[5]

I brofi'r syniad hwn, rhoddodd Jenner frech y fuwch i fachgen o'r enw James Phipps. Yna heintiodd y bachgen â'r frech wen. Ni aeth y bachgen yn sâl oherwydd ei fod eisoes wedi cael brech y fuwch. Roedd Jenner yn iawn: roedd cael y frech y fuwch yn amddiffyn pobl rhag y frech wen.

Oherwydd bod brechiad y frech y fuwch wedi gwneud llai o bobl yn sâl na brechiad y frech wen, gwnaeth Lloegr frechiad y frech wen yn anghyfreithlon ym 1840. Ym 1853, gwnaethant gyfraith arall a ddywedodd fod yn rhaid i bob plentyn gael ei frechu rhag y frech wen gan ddefnyddio brechlyn Jenifer.

Yn y 19eg ganrif, gwnaeth Louis Pasteur frechlyn y gynddaredd.

Yn yr 20g, creodd gwyddonwyr frechlynnau i amddiffyn pobl rhag difftheria, y frech goch, clwy'r pennau, thetanws a rwbela. Yn y 1950au, creodd Jonas Salk y brechlyn polio.

Fodd bynnag, nid yw brechlynnau'n bodoli o hyd ar gyfer llawer o afiechydon pwysig, fel malaria a HIV.[6][7]

Effeithiau andwyol[golygu | golygu cod]

Yn gyffredinol, mae brechiadau a roddir i blant, pobl ifanc neu oedolion yng Nghymru'n ddiogel.[8][9] Mae unrhyw effeithiau andwyol, os o gwbl, yn ysgafn ar y cyfan.[10] Mae cyfradd y sgîl-effeithiau yn dibynnu ar y brechlyn dan sylw.[10] Mae rhai sgîl-effeithiau cyffredin yn cynnwys twymyn, poen o amgylch lleoliad y pigiad ar y corff, a phoenau yn y cyhyrau.[10] Yn ogystal, gall rhai unigolion fod ag alergedd i gynhwysion yn y brechlyn.[11] Anaml y cysylltir brechlyn MMR â ffitiau twymyn.[12]

Ymhlith yr hyn sy'n gwneud person yn fwy agored i haint mae geneteg, statws iechyd (clefydau gwaelodol, maeth, beichiogrwydd, sensitifrwydd neu alergeddau), imiwnedd, oedran, ac effaith economaidd neu amgylchedd diwylliannol yr unigolyn: rhain yw'r ffactorau sylfaenol neu eilaidd sy'n effeithio ar ddifrifoldeb yr haint a'r sgil-effeithiau i'r brechlyn.[13] Mae pobl oedrannus (dros 60 oed), pobl sy'n orsensitif i alergenau, a phobl ordew yn fwy tueddol o fod mewn peryg, gan fod y rhain yn atal effeithiolrwydd y brechlyn. Yn aml, ceir technolegau ar wahân ar gyfer y poblogaethau penodol hyn neu frechiadau atgyfnerthu ailadroddus i gyfyngu ymlediad y firws.[13]

Mae sgîl-effeithiau difrifol yn hynod o brin.[12] Anaml y cysylltir brechlyn varicella â chymhlethdodau mewn unigolion diffyg imiwnedd, ac mae brechlynnau rotafeirws yn gysylltiedigag intussusception, ond yn eithriad a geir yn bur anaml.[12]

Mae gan o leiaf 19 o wledydd raglenni iawndal dim-bai i ddarparu iawndal i'r rhai sy'n dioddef effeithiau andwyol difrifol yn sgil brechu.[14] Gelwir rhaglen yr Unol Daleithiau yn Ddeddf Genedlaethol Anafiadau Brechlyn Plentyndod, ac mae gwledydd Prydain yn cyflogi'r Taliad am Niwed trwy Frechiad (Vaccine Damage Payment).

Mathau o frechlynau[golygu | golygu cod]

Mae yna nifer o fathau o frechlynnau ar gael ar hyn o bryd.

Un math cyffredin o frechlyn yw'r "frechlyn byw." Mae'r math hwn o frechlyn yn cynnwys ychydig bach o firws byw neu facteria. Cyn i'r brechlyn gael ei roi, mae gwyddonwyr yn gwanhau'r firws neu'r bacteria fel na all wneud person yn sâl. Pan fydd person yn cael brechlyn byw, mae ei system imiwnedd yn dysgu, adnabod ac ymladd yn erbyn y firws neu'r bacteria hynny. Yna, os yw'r person yn cael y firws neu'r bacteria yn y dyfodol, bydd ei system imiwnedd eisoes yn "gwybod" sut i frwydro yn erbyn. Mae enghreifftiau o frechlynnau byw yn cynnwys brechlynnau ar gyfer y frech goch, clwy'r pennau a brech yr ieir.[15]

Math cyffredin arall o frechlyn yw'r "frechlyn anactif." Mae'r brechlynnau hyn yn cynnwys firysau neu facteria marw. Nid yw'r rhain yn achosi i'r system imiwnedd ymateb mor gryf â brechlynnau byw. Oherwydd hyn, efallai y bydd angen "pigiad atgyfnerthu" ar bobl - dosau ychwanegol o'r brechlyn, a roddir ar adegau penodol, fel y gall eu system imiwnedd "ddysgu" sut i ymladd yn erbyn yr haint. Mae enghreifftiau o frechlynnau anactif yn cynnwys brechlynnau ar gyfer y Pâs, y gynddaredd a hepatitis B.[15]

Mewn brechlynnau eraill, dim ond moleciwl protein o'r firws neu'r bacteriwm sy'n cael ei chwistrellu i'r claf. Mae'r protein yn ddigon i system imiwnedd y claf gydnabod y germ cyfan.[15]

Gyda brechlynnau RNA negesydd, dim ond yr RNA negesydd (mRNA), sy'n gweithredu fel glasbrint neu rysáit ar gyfer y protein, sy'n cael ei chwistrellu i'r claf. Gwnaed y brechlynnau mRNA cyntaf yn y 1990au, ond ni wnaeth gwyddonwyr nifer fawr ohonynt tan y 2010au. Mae rhai brechlynnau mRNA yn gweithio yn erbyn canser a gallant wneud tiwmorau yn llai.[16] Cafodd brechlyn mRNA COVID-19 Pfizer-BioNTech dod i'r amlwg ar ddiwedd 2020 ar ôl i'r awdurdodau yn y Deyrnas Unedig cymeradwyo fel y brechlyn cyntaf i'w ddefnyddio er mwyn ceisio gwaredu COVID-19 o'r gymdeithas.[17]

Mae brechlynnau fel arfer yn cynnwys organebau gwan, anactif neu farw neu gynhyrchion wedi'u puro sy'n deillio ohonynt. Mae sawl math o frechlynnau'n cael eu defnyddio.[18] Ar y naill law mae nhw'n cynrychioli gwahanol strategaethau a ddefnyddir i geisio lleihau'r risg o salwch tra, ar y llaw arall, mae nhw'n cadw'r gallu i ysgogi ymateb imiwn buddiol yn y corff. Dyma'r tri prif fath:

Gwanhau[golygu | golygu cod]

Mae rhai brechlynnau'n cynnwys micro-organebau byw, gwan. Mae llawer o'r rhain yn firysau gweithredol sydd wedi'u tyfu o dan amodau sy'n gwanhau eu ffyrnigrwydd, neu sy'n defnyddio organebau sy'n perthyn yn agos, ond yn llai peryglus, i gynhyrchu ymateb imiwn eang. Er bod y rhan fwyaf o frechlynnau gwan yn firaol, mae rhai yn facteriol eu natur. Ymhlith yr enghreifftiau'r clefydau firaol mae'r dwymyn felen, y gofid mawr (COVID-19), y frech goch, clwy'r pennau, a rwbela, a'r clefyd bacteriol teiffoid. Nid yw'r brechlyn twbercwlosis Mycobacterium byw a ddatblygwyd gan Calmette a Guérin wedi'i wneud o straen heintus ond mae'n cynnwys straen wedi'i addasu'n ffyrnig o'r enw " BCG " a ddefnyddir i ennyn ymateb imiwn i'r brechlyn yn y corff. Mae'r brechlyn gwan, byw sy'n cynnwys y straen Yersinia pestis EV yn cael ei ddefnyddio ar gyfer imiwneiddio pla. Mae gan frechlynnau gwan fanteision ac anfanteision: maent ar y naill law yn frechlynnau byw, gwan, fel arfer yn ysgogi ymateb imiwnolegol mwy parhaol. Ond efallai na fyddant yn ddiogel i'w defnyddio mewn unigolion ag imiwn-gyfaddawd, ac ar yr adegau prin hyn, maent yn mwtadu'n ffurf ffyrnig ac yn achosi afiechyd.[19]

Anweithredol[golygu | golygu cod]

Mae rhai brechlynnau'n cynnwys micro-organebau anweithredol, ond a fu gynt yn ffyrnig, sydd wedi'u dinistrio â chemegau, gwres neu ymbelydredd[20] – fe'u gelwir yn "ysbrydion", ac mae ganddynt amlenni celloedd bacteriol cyfan, ond gwag. Fe'u hystyrir yn gyfnod canolradd rhwng y brechlynnau anweithredol a'r rhai gwan (neu wanedig).[21] Ymhlith yr enghreifftiau mae IPV (y brechlyn polio), brechlyn hepatitis A, brechlyn y gynddaredd a'r rhan fwyaf o frechlynnau ffliw.[22]

Toxoid[golygu | golygu cod]

Gwneir brechlynnau toxoid o gyfansoddion gwenwynig anweithredol sy'n achosi salwch yn hytrach na'r micro-organeb.[23] Mae enghreifftiau o frechlynnau sy'n seiliedig ar docsoid yn cynnwys tetanws a difftheria.[24] Nid yw pob toxoid ar gyfer micro-organebau; er enghraifft, mae tocsoid atrox Crotalus yn cael ei ddefnyddio i frechu cŵn rhag brathiadau y neidr ruglo (rattlesnake).[25]

Enghraifft: Brechlyn COVID-19[golygu | golygu cod]

Samplau ymchwil brechlyn COVID-19 mewn rhewgell labordy. (30 Ionawr 2020)

Rhoddwyd gwaith aruthrol mewn i ddatblygu brechlyn COVID-19 o’r newyddion cyntaf bod yna feirws angheuol newydd yn Wuhan yn datblygu mewn i pandemig ar ddechrau Ionawr 2020.Cyhoeddwyd ddilyniant genetig y feirws ar 11 Ionawr 2020, gan sbarduno ymateb rhyngwladol brys i baratoi ar gyfer achosion a chyflymu datblygiad brechlyn yn erbyn COVID-19.[26]

Ers dechrau 2020, mae datblygu brechlyn wedi cael ei gyflymu trwy gydweithrediad digynsail yn y diwydiant fferyllol rhyngwladol a rhwng llywodraethau.[27] Erbyn Mehefin 2020, roedd corfforaethau, llywodraethau, sefydliadau iechyd rhyngwladol, a grwpiau ymchwil prifysgolion wedi buddsoddi degau o biliynau o ddoleri i ddatblygu dwsinau o ymgeiswyr brechlyn a pharatoi ar gyfer rhaglenni brechu byd-eang i imiwneiddio rhag haint COVID-19.[28]

Gan ddefnyddio technolegau newydd a gwneud nifer o gamau ar yr un pryd roedd yn bosib cael y brechlyn yn barod erbyn diwedd 2020 i gwledydd cyfoethog y byd. Brechlyn Pfizer (yn math mRNA o frechlyn) oedd y frechlyn cyntaf i'w ddefnyddio yn y byd gorllewinol. Ar 8 Rhagfyr 2020, derbyniodd Margaret Keenan, 90 oed, y brechlyn yn Ysbyty Athrofaol Coventry, gan ddod y person cyntaf i gael ei frechu y tu allan i dreial, wrth i raglen frechu'r DU ddechrau.[29]

Cafodd ail frechlyn ei gymerdwyo i gael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ar y 30 Rhagfyr 2020 sef brechlyn Prifysgol Rhydychen ac AstraZeneca.[30] Un oedd yn bwysig wrth ddatblygu'r brechlyn oedd Emma Bolam sy'n wyddonydd a Phennaeth Cynhyrchu yn Sefydliad Jenner (sefydliad sy'n ymchwilio brechlynnau newydd). Tyfwyd i fyny ym Mhen-y-bont, Sir Gaerfyrddin, a chafwyd ei addysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Mae'n rhugl yn y Gymraeg.[31][32]

Yn y misoedd ar ôl hynny roedd yna anogaeth gan lywodraethau ac awdurdodau yn y byd i bobl gael eu brechu, er mwyn ceisio adeiladu imiwnedd torfol a gwaredu COVID-19 o'r byd. Er hyn gwelwyd ofn mewn rhai cymunedau fel cymuned BAME oherwydd enw gwael y brechlyn.[33] Yn ogystal roedd nifer o wledydd tlawd trydydd byd heb frechu llawer ar y dechrau gan arwain at y Cenhedloedd Unedig yn ymbil ar wledydd cyfoethog i ddosbarthu'n deg, neu bydden nhw'n arwain at amrywiolion yn datblygu mewn gwledydd tlawd, gydag imiwnedd i'r brechlyn neu'r posibilrwydd y byddai'n datblygu'n gryfach ac yn fwy peryglus.[34] Felly fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd, y gynghrair brechlynnau GAVI a chlymblaid ar gyfer arloesiadau epidemig o'r enw CEPI sefydlu COVAX. Nod COVAX yw dosbarthu brechlynnau i ardaloedd tlawd y byd.[35]

Trwyddedu[golygu | golygu cod]

Mae trwydded brechlyn yn digwydd ar ôl i'r cylch datblygu ddod i ben yn llwyddiannus ac yn hyrwyddo'r treialon clinigol a rhaglenni eraill gyda chamau I–III yn dangos diogelwch, imiwnactifedd, diogelwch imiwnogenetig ar ddogn penodol, effeithiolrwydd profedig o ran atal haint ar gyfer poblogaethau targed, ac effaith ataliol barhaus (rhaid amcangyfrif dygnwch amser neu'r angen i ail-frechu).[36] Oherwydd bod brechlynnau ataliol yn cael eu gwerthuso'n bennaf mewn carfannau poblogaeth iach a'u dosbarthu ymhlith y boblogaeth gyffredinol, mae angen safon uchel o ddiogelwch.[37] Fel rhan o drwyddedu brechlyn rhyngwladol, datblygodd Pwyllgor Arbenigol Sefydliad Iechyd y Byd ar Safoni Biolegol ganllawiau safonau rhyngwladol ar gyfer gweithgynhyrchu a rheoli ansawdd brechlynnau, proses a fwriadwyd fel llwyfan i asiantaethau rheoleiddio cenedlaethol wneud cais am eu trwyddedu eu hunain.[36] Nid yw gweithgynhyrchwyr brechlyn yn cael eu trwyddedu nes bod cylch datblygu clinigol cyflawn a threialon llwyddiannus yn profi bod y brechlyn yn ddiogel a bod ganddo effeithiolrwydd hirdymor, yn dilyn adolygiad gwyddonol gan sefydliad rheoleiddio rhyngwladol neu genedlaethol, fel yr Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd (EMA) neu'r Unol Daleithiau neu Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA).[38][39]

Gweli'r hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Stern, Alexandra Minna; Markel, Howard (2005-05-01). "The History Of Vaccines And Immunization: Familiar Patterns, New Challenges". Health Affairs 24 (3): 611–621. doi:10.1377/hlthaff.24.3.611. ISSN 0278-2715. https://www.healthaffairs.org/doi/10.1377/hlthaff.24.3.611.
  2.  brechlyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2022.
  3. https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?brech [gw. brech²]
  4. geiriadur.ac.uk' [gw. llyn²]; gol. Andrew Hawke
  5. "Diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif - Ymdrechion i atal afiechydon a chlefydau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.
  6. February 01, Content Source: HIV govDate last updated:; 2021 (2021-02-01). "HIV Vaccines". HIV.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  7. Prevention, CDC-Centers for Disease Control and (2019-01-28). "CDC - Malaria - Malaria Worldwide - How Can Malaria Cases and Deaths Be Reduced? - Vaccines". www.cdc.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.
  8. Dudley, Matthew Z; Halsey, Neal A; Omer, Saad B; Orenstein, Walter A; O'Leary, Sean T; Limaye, Rupali J; Salmon, Daniel A (May 2020). "The state of vaccine safety science: systematic reviews of the evidence". The Lancet Infectious Diseases 20 (5): e80–e89. doi:10.1016/s1473-3099(20)30130-4. ISSN 1473-3099. PMID 32278359. https://doi.org/10.1016/S1473-3099(20)30130-4.
  9. "Safety of vaccines used for routine immunization of U.S. children: a systematic review". Pediatrics 134 (2): 325–337. August 2014. doi:10.1542/peds.2014-1079. PMID 25086160. http://www.escholarship.org/uc/item/2f93s53t.
  10. 10.0 10.1 10.2 "Possible Side-effects from Vaccines". Centers for Disease Control and Prevention. 2018-07-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2017. Cyrchwyd 24 February 2014.
  11. "Seasonal Flu Shot – Seasonal Influenza (Flu)". CDC. 2018-10-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-01. Cyrchwyd 2017-09-17.
  12. 12.0 12.1 12.2 "Safety of vaccines used for routine immunization of U.S. children: a systematic review". Pediatrics 134 (2): 325–337. August 2014. doi:10.1542/peds.2014-1079. PMID 25086160. http://www.escholarship.org/uc/item/2f93s53t.Maglione MA, Das L, Raaen L, Smith A, Chari R, Newberry S, Shanman R, Perry T, Goetz MB, Gidengil C (August 2014). "Safety of vaccines used for routine immunization of U.S. children: a systematic review". Pediatrics. 134 (2): 325–337. doi:10.1542/peds.2014-1079. PMID 25086160.
  13. 13.0 13.1 Wiedermann, Ursula; Garner-Spitzer, Erika; Wagner, Angelika (2016). "Primary vaccine failure to routine vaccines: Why and what to do?". Human Vaccines and Immunotherapeutics 12 (1): 239–243. doi:10.1080/21645515.2015.1093263. ISSN 2164-554X. PMC 4962729. PMID 26836329. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4962729.
  14. Looker, Clare; Heath, Kelly (2011). "No-fault compensation following adverse events attributed to vaccination: a review of international programmes". Bulletin of the World Health Organization (Word Health Organisation) 89 (5): 371–378. doi:10.2471/BLT.10.081901. PMC 3089384. PMID 21556305. https://www.who.int/bulletin/volumes/89/5/10-081901/en/.
  15. 15.0 15.1 15.2 "Vaccine Types | Vaccines". www.vaccines.gov. Cyrchwyd 2021-02-26.
  16. "Is the Covid vaccine safe?". BBC News (yn Saesneg). 2021-02-05. Cyrchwyd 2021-02-26.
  17. "Brechlyn Covid: "Bydd y gwaith o'i gyflwyno yn dechrau ymhen dyddiau"". Golwg360. 2020-12-02. Cyrchwyd 2021-02-26.
  18. "Vaccine Types". National Institute of Allergy and Infectious Diseases. 2012-04-03. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-05. Cyrchwyd 2015-01-27.
  19. A Text Book of Immunology (Google Books Preview). Academic Publishers. t. 318. ISBN 978-81-89781-09-5. Cyrchwyd 2014-01-09.
  20. "Types of Vaccines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd October 19, 2017.
  21. Batah, Aly; Ahmad, Tarek (2020-06-15). "The development of ghost vaccines trials" (yn en). Expert Review of Vaccines 19 (6): 549–562. doi:10.1080/14760584.2020.1777862. ISSN 1476-0584. PMID 32500816. https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/14760584.2020.1777862.
  22. "Different Types of Vaccines | History of Vaccines". www.historyofvaccines.org. Cyrchwyd 2019-06-14.
  23. "Different Types of Vaccines | History of Vaccines". www.historyofvaccines.org. Cyrchwyd 2019-05-03.
  24. "Different Types of Vaccines | History of Vaccines". www.historyofvaccines.org. Cyrchwyd 2019-06-14."Different Types of Vaccines | History of Vaccines". www.historyofvaccines.org. Retrieved 2019-06-14.
  25. "Types of Vaccines". coastalcarolinaresearch.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 2019-05-03.
  26. Fauci, Anthony S.; Lane, H. Clifford; Redfield, Robert R. (2020-03-26). "Covid-19 — Navigating the Uncharted". The New England Journal of Medicine 382 (13): 1268–1269. doi:10.1056/NEJMe2002387. ISSN 0028-4793. PMC 7121221. PMID 32109011. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC7121221/.
  27. Le, Tung Thanh; Cramer, Jakob P.; Chen, Robert; Mayhew, Stephen (2020-09-04). "Evolution of the COVID-19 vaccine development landscape" (yn en). Nature Reviews Drug Discovery 19 (10): 667–668. doi:10.1038/d41573-020-00151-8. https://www.nature.com/articles/d41573-020-00151-8.
  28. Gates, Bill (2020-02-28). "Responding to Covid-19 — A Once-in-a-Century Pandemic?" (yn en). New England Journal of Medicine. doi:10.1056/NEJMp2003762. https://www.nejm.org/doi/10.1056/NEJMp2003762.
  29. "Covid-19 vaccine: First person receives Pfizer jab in UK". BBC News (yn Saesneg). 2020-12-08. Cyrchwyd 2021-02-26.
  30. "Cymeradwyo brechlyn AstraZeneca". Golwg360. 2020-12-30. Cyrchwyd 2021-02-26.
  31. (yn cy) Diwrnod Menywod mewn Gwyddoniaeth, https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/diwrnod-menywod-mewn-gwyddoniaeth/260769395558754/, adalwyd 2021-02-26 Facebook Heno
  32. Youle, Richard (2021-01-25). "Interview with Welsh scientist running Oxford vaccine facility". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.
  33. "British Asian celebrities unite for video to dispel Covid vaccine myths". BBC News (yn Saesneg). 2021-01-26. Cyrchwyd 2021-02-26.
  34. Press, Associated (2021-02-18). "'Wildly unfair': UN says 130 countries have not received a single Covid vaccine dose". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.
  35. "EXPLAINER: UN vaccine plan is underway, but problems remain". AP NEWS. 2021-02-24. Cyrchwyd 2021-02-26.
  36. 36.0 36.1 "Principles and considerations for adding a vaccine to a national immunization programme" (PDF). World Health Organization. 1 April 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 29 September 2020. Cyrchwyd 17 August 2020.
  37. Bok, Karin; Sitar, Sandra; Graham, Barney S.; Mascola, John R. (August 2021). "Accelerated COVID-19 vaccine development: milestones, lessons, and prospects". Immunity 54 (8): 1636–1651. doi:10.1016/j.immuni.2021.07.017. PMC 8328682. PMID 34348117. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8328682.
  38. Wijnans, Leonoor; Voordouw, Bettie (11 December 2015). "A review of the changes to the licensing of influenza vaccines in Europe". Influenza and Other Respiratory Viruses 10 (1): 2–8. doi:10.1111/irv.12351. ISSN 1750-2640. PMC 4687503. PMID 26439108. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4687503.
  39. Offit, Paul A. (2020). "Making vaccines: Licensure, recommendations and requirements". Children's Hospital of Philadelphia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 September 2020. Cyrchwyd 20 August 2020.