Atafaeliad twymynol
Enghraifft o'r canlynol | clefyd prin, clefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | ffit, y dwymyn |
Mae atafaeliad twymynol, yn ffit neu atafaeliad epileptig sy'n gysylltiedig â thymheredd corff uchel [1].
Arwyddion a symptomau
[golygu | golygu cod]Mae atafaeliad twymynol, fel arfer, yn digwydd mewn plant rhwng 6 mis a 5 mlwydd oed [1]. Mae'r rhan fwyaf o atafaeliadau yn para am lai na phum munud a bydd y plentyn yn nol i'w gyflwr arferol o fewn chwedeg munud i'r digwyddiad [1][2].
Mae tueddiad at atafaeliadau twymynol yn rhedeg mewn teuluoedd [1].
Diagnosis
[golygu | golygu cod]Cyn gwneud diagnosis o atafaeliad twymynol bydd raid gwirio nad oes llid ar yr ymennydd, nad oes unrhyw broblemau metabolig, ac ni fu trawiadau blaenorol a ddigwyddodd heb dwymyn [1].
Fel arfer nid oes angen profion gwaed, delweddu'r ymennydd neu electroenceffalogramau (EEG) ar gyfer y diagnosis [1]. Argymhellir archwiliad i bennu ffynhonnell y dwymyn
Mathau
[golygu | golygu cod]Mae dau fath o atafaelu twymynol, trawiadau syml a thrawiadau cymhleth [1]. Mae trawiadau syml yn rai sydd yn effeithio ar blentyn iach fel arall sydd yn cael dim mwy nag un ffit tonig-clonig sy'n para llai na 15 munud mewn cyfnod o 24 awr.
Mae trawiadau cymhleth yn rhai lle mae'r ffit yn para am fwy na 15 munud neu fod nifer o episodau yn digwydd o fewn 24 awr.
Mae cyflwr epileptig twymynol yn ffit sy'n para am fwy na 30 munud. Mae cyflwr epileptig yn digwydd mewn tua 5% o achosion o atafaeliad twymynol.
Triniaeth
[golygu | golygu cod]Nid yw meddyginiaeth trin epilepsi na meddyginiaeth wrth dwymyn yn cael eu hargymell mewn ymdrech i atal ychwaneg o ffitiau. Yn yr ychydig achosion sy'n para fwy na phum munud, gellir defnyddio bensodiasepinau fel lorazepam neu midazolam [1][3].
Yn gyffredinol ni fydd plentyn sydd wedi gwella o ffit dwymynol yn dioddef unrhyw niwed parhaol. Mae cyflawniadau academaidd yn debyg i blant eraill a does dim newid yn y risg o farwolaeth ar gyfer y rheini sydd wedi cael ffitiau syml. Mae 'na rywfaint o dystiolaeth i awgrymu bydd blentyn sydd wedi cael ffit dwymynol tua 2% mwy tebygol o gael epilepsi.
Cyffredinoled
[golygu | golygu cod]Mae atafaeliadau twymynol yn effeithio ar ddau i ddeg y cant o blant [4] cyn eu bod yn bum mlwydd oed. Mae'n fwy cyffredin mewn bechgyn na merched. Ar ôl i blentyn cael un ffit mae yna siawns rhwng 15% i 70% o gael un arall.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Graves, RC with Oehler, K and Tingle, LE (Jan 15, 2012). "Febrile seizures: risks, evaluation, and prognosis". American family physician 85 (2): 149–53. PMID 22335215. https://archive.org/details/sim_american-family-physician_2012-01-15_85_2/page/149.
- ↑ "Symptoms of febrile seizures". www.nhs.uk. 01/10/2012. Cyrchwyd 13 October 2014. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Paritosh Prasad (2013). Pocket Pediatrics: The Massachusetts General Hospital for Children Handbook of Pediatrics. Lippincott Williams & Wilkins. t. 419. ISBN 9781469830094.
- ↑ Patterson, JL; Carapetian, SA; Hageman, JR; Kelley, KR (Dec 2013). "Febrile seizures.". Pediatric annals 42 (12): 249–54. doi:10.3928/00904481-20131122-09. PMID 24295158.