Brechlyn trifflyg MMR

Oddi ar Wicipedia
Brechlyn trifflyg MMR
Enghraifft o'r canlynolmath o frechlyn Edit this on Wikidata
Mathbrechlyn wedi'i wanhau, brechlyn cymysg Edit this on Wikidata
CrëwrMerck & Co., GlaxoSmithKline Biologicals Dresden, Serum Institute of India Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1971 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymysgedd o dri feirws gwahanol wedi ei roi mewn chwistrell meddygol ydy'r brechlyn trifflyg MMR (Saesneg: MMR vaccine) ac a roddir i fabanod tuag un oed rhag iddynt gael eu heintio gan frech goch, clwy'r pennau a Rwbela (y Frech Almaenig). Rhoddir ail ran y brechlyn i'r plentyn pan fo'n 4 i 5 oed. Nid "booster" ydy'r ail frechlyn yma ond yr un peth a'r cyntaf er mwyn creu imiwnedd yn y 2-5% o blant lle nad yw'r brechlyn cyntaf wedi gweithio.

Yn yr Unol Daleithiau dechreuwyd brechu yn 1971 gyda'r ail ddos yn dechrau cael ei roi yn 1982.[1]

Cwmni o'r enw Merck & Co sy'n ei greu ynghyd â GlaxoSmithKline Biologicals, Serum Institute of India a sanofi pasteur. Credir fod tua 500 miliwn dos ohono wedi ei roi i blant mewn 60 gwlad ledled y byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]