Yersinia pestis
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | tacson ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1894 ![]() |
Safle tacson | rhywogaeth ![]() |
Rhiant dacson | Yersinia ![]() |
![]() |
Bacteria o fath Gram-negydd, siâp rhoden ac o deulu'r Enterobacteriaceae ydy Yersinia pestis. Ei hen enw oedd Pasteurella pestis. Credir fod y Pla Du yn Ewrop yr Oesoedd Canol wedi ei achosi gan y bacteria yma, sy'n endemig yng nghanolbarth Asia.
Darganfuwyd Yersinia pestis ym 1894 gan Alexandre Yersin, meddyg a bacteriolegydd o Ffrainc o Sefydliad Pasteur, yn ystod epidemig o'r pla yn Hong Cong.