Brech wen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brech Wen)
Brech wen
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus firol, clefyd y croen, Poxviridae infectious disease, eradicated disease, clefyd Edit this on Wikidata
Daeth i ben1978 Edit this on Wikidata
SymptomauBlinder meddwl, brech, cur pen, poen yn yr abdomen, chwydu, pothell, pimple edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Haint a achosir gan ddau feirws, Variola major a Variola minor, yw'r frech wen (Saesneg: Smallpox). Variola major sy'n achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan Variola minor yn marw.[1]

Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y 18g, credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.[2] Erbyn yr 20g roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr 20g. Ar 9 Rhagfyr 1979, cyhoeddodd WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.

America[golygu | golygu cod]

Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewtopeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Aztec. Fel rheol cael ei drosglwyddo'n anfwriadol yr oedd, ond credir i'r Prydeinwyr ei ledu'n fwriadol ymhlith llwythau brodorol oedd mewn cynghrair a'r Ffrancwyr yng Ngogledd America yng nghanol y 18g, trwy roi blancedi pobl oedd wedi marw o'r frech wen iddynt.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ryan KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 525–8. ISBN 0-8385-8529-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  2. Barquet N, Domingo P (15 October 1997). "Smallpox: the triumph over the most terrible of the ministers of death". Ann. Intern. Med. 127 (8 Pt 1): 635–42. http://www.annals.org/cgi/content/full/127/8_Part_1/635.