Neidio i'r cynnwys

Yr Eryr (afiechyd)

Oddi ar Wicipedia
Yr Eryr
Enghraifft o:clefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus firol, haint ar y croen, varicella zoster infection, post-viral disorder, viral skin disease, anhwylder niwrolegol, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauChronic neuropathic pain, postherpetic neuralgia, y dwymyn, cur pen, oerni, pothell, paresthesia edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCIC71079 edit this on wikidata
Freebase/M/029577 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF24289 edit this on wikidata
MeSHD006562 edit this on wikidata
UMLS CUIC0019360 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am yr afiechyd yw hon. Am ystyron eraill gweler Eryr (gwahaniaethu).
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Afiechyd heintus ydy'r eryr (Lladin: Herpes zoster; Saesneg: Shingles) sef ymosodiad feirws ar y corff ble ceir rash coch gyda swigod, ar un ochr i'r corff, mewn llinell. Mae'r heintio cyntaf gan y feirws varicella zoster (VZV) yn achosi brech ieir, yn enwedig mewn plant a phobl ifanc. Ar ôl hyn, nid yw'r feirws yn diflannu o'r corff a gall droi'n eryr, gyda symptomau hollol wahanol i'r frech ieir gwreiddiol, weithiau flynyddoedd ar ôl yr heintiad cyntaf.

O fewn y nerfau mae'r varicella zoster yn byw neu weithiau o fewn celloedd eraill yn y dorsal root, y nerfau cranial neu ganglion, heb i'r un symtom ddod i'r amlwg. Flynyddoedd yn ddiweddarach, gall y feirws deithio i lawr acson i heintio'r croen yn ardal y nerf honno. Mi wellith y rash, fel arfer, o fewn pythefnos i bedair wythnos, ond gall y poenau yn y nerfau barhau am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Ni wyddir beth sy'n sbarduno hyn i gyd.

Yn fyd-eang, mae'r achosion o'r eryr rhwng 1.2 a 3.4 achos ym mhwob 1,000 unigolyn iach. Mae hyn yn cynyddu yn y boblogaeth hŷn gyda rhwng 3.9 a 11.8 pob blwyddyn ym mhob 1,000 person iach dros 65 oed yn ei ddioddef. Gellir defnyddio cyffur gwrth-feirws i leddfu'r symtomau a lleihau'r cyfnod o boen os gwneir hyn o fewn 72 awr i'r rash ymddangos. Fel arfer cymerir y cyffur am gyfnod o saith i ddeg diwrnod.

Meddygaeth amgen

[golygu | golygu cod]

Honir fod rhai llysiau yn gwella'r eryr, mae rhain yn cynnwys: bergamot, camri a lafant.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato