Rwbela

Oddi ar Wicipedia
Brech (neu rash) Rubella ar gefn person

Mae rwbela (neu'r Frech Almaenig) yn haint ysgafn ac mae’n cael ei hachosi gan feirws heintus. Mae'n parhau ar gyfartaledd o ddiwrnod i dridiau. Ystyr y gair Lladin Rwbela ydy "y peth bach coch" smotiau cochion a elwir yn exanthem gan y meddyg.

Fe'i cynhwysir yn y brechlyn trifflyg MMR (sef: brech goch, clwy pennau (y dwymyn doben) a rwbela). Cynghorir merched beichiog i beidio a chael brechiad rhag rwbela tra’u bod yn feichiog. Yn aml, mae'r claf yn ei ddal heb sylwi ar hynny. Ond os yw baban yn y groth yn ei ddal, gall fod yn ddifrifol. Gall rwbela achosi niwed difrifol i olwg, clyw, calon ac ymennydd y babi.

Drwy ddiferion pitw, bach o ddŵr y mae'n ymledu, fel arfer wrth i glaf besychu a thisian ond gall y feirws hefyd fyw ar y croen neu mewn iwrein.

Plant sy'n ei ddal fel arfer. Mae'n cysgu (neu'n "inciwbeiddio") yn y corff am gyfnod o bythefnos i dair wythnos cyn i'r symptomau cael eu gweld. Mae’n achosi brech a gall chwyddo'r chwarennau ac achosi llwnc tost (dolur gwddf) a chur pen.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]