Kirsty Williams

Oddi ar Wicipedia
Kirsty Williams
CBE
Williams yn 2016
Y Gweinidog Addysg
Yn ei swydd
19 Mai 2016 [1] – 13 Mai 2021
Prif WeinidogCarwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd ganHuw Lewis
Dilynwyd ganJeremy Miles
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru
Yn ei swydd
8 Rhagfyr 2008 – 6 Mai 2016
ArweinyddNick Clegg
Tim Farron
Rhagflaenwyd ganMike German
Dilynwyd ganMark Williams
Yn ei swydd
16 Mehefin 2017 – 3 Tachwedd 2017
Dros dro
Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru
Yn ei swydd
21 Awst 2019 – 6 Ionawr 2020
Serving with Jane Dodds
ArweinyddJo Swinson
Ed Davey & Sal Brinton/Mark Pack
Rhagflaenwyd ganChristine Humphreys
Dilynwyd ganWendy Chamberlain
Yn ei swydd
29 Gorffennaf 2015 – 6 Mai 2016
ArweinyddTim Farron
Rhagflaenwyd ganJenny Randerson
Dilynwyd ganMark Williams
Aelod o Senedd Cymru
dros Brycheiniog a Maesyfed
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Dilynwyd ganJames Evans
Mwyafrif8,170 (27.0%)
Manylion personol
Ganwyd (1971-03-19) 19 Mawrth 1971 (52 oed)
Taunton, Gwlad yr Haf
Plaid wleidyddolDemocratiaid Rhyddfrydol
PriodRichard Rees
Plant3
Alma materPrifysgol Manceinion
Gwefankirstywilliams.org.uk

Gwleidydd Cymreig yw Victoria Kirstyn Williams neu Kirsty Williams (ganwyd 19 Mawrth 1971). Roedd yn Aelod o Senedd Cymru dros Brycheiniog a Maesyfed rhwng 1999 a 2021. Ar 8 Rhagfyr 2008, cafodd ei hethol yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig gan ddod y ferch gyntaf erioed i arwain plaid wleidyddol yng Nghymru.[2]

Bywyd cynnar a bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganed Kirsty Williams yn Taunton, Gwlad yr Haf yn 1971 i rieni o Gymry. Dychwelodd y teulu i Gymru yn 1974 ac ymsefydlu ym mhentref Bynea yn Sir Gaerfyrddin, lle magwyd Kirsty.

Addysgwyd yn Ysgol annibynnol Mihangel Sant, Llanelli, yna graddiodd o Brifysgol Victoria ym Manceinion gyda gradd anrhydedd mewn astudiaethau Americanaidd, gan gynnwys cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Missouri. Yna dychwelodd i weithio i adran adnoddau dysgu Coleg Sir Gaerfyrddin yn Llanelli, cyn ymgymryd â swydd fel swyddog gweithredol marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer busnes bach yng Nghaerdydd.[3]

Erbyn hyn, mae Kirsty yn byw ar fferm y teulu ger Aberhonddu gyda’i gŵr a’u tair merch ifanc.[3]

Bywyd Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Ymunodd Williams â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 15 oed. Yn etholiad cyffredinol 1997, bu’n cystadlu yn etholaeth Ogmore, gan ddod yn drydydd. Am gyfnod hir bu’n eiriolwr brwd dros Gynulliad Cymru, a bu’n ymgyrchu’n galed yn refferendwm 1997 dros greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny, fe’i penodwyd i Grŵp Cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol gan Ysgrifennydd Cymru Ron Davies.[4]

Fe’i hetholwyd yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Mai 1999. Yn ei thymor cyntaf daeth yn llefarydd iechyd ei phlaid. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cymru rhwng 1999 a 2003.[4]

Mae Williams wedi bod yn rhan o ymgyrch hirsefydlog ‘Mwy o Nyrsys’ sy’n gofyn am gyfraith ar lefelau staffio diogel ar gyfer nyrsys mewn ysbytai Cymru. Llwyddodd Kirsty Williams i gael balot deddfwriaethol (mae bil a basiwyd gan aelod sengl yn brin) ar 11 Rhagfyr 2013, a chafodd ganiatâd i fwrw ymlaen â’i Bil yn 2014, Bil Lefelau Staff Nyrsio. Fe'i pasiwyd a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016.[5]

Kirsty Williams yn gwneud araith yng nghynadledd ei phlaid yn Lerpwl, 2010.

Ym Mai 2016, yn dilyn canlyniadau trychinebus ei phlaid (hi oedd yr unig aelod) yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ymddiswyddodd Williams fel Arweinydd. Ar ddiwrnod cyntaf y cyfarfod llawn, pleidleisiodd gyda'r Llywodraeth ar benodi'r Prif Weinidog pe bai wedi pleidleisio dros Leanne Wood, byddai wedi dod yn Brif Weinidog.[6] Penododd y Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones, Williams, i Gabinet Cymru fel Ysgrifennydd Addysg; Mae angen 31 sedd ar gyfer mwyafrif yng Nghynulliad Cymru, roedd gan Lafur 29, felly creodd Williams fwyafrif gweithredol.

Mae hi ar flaen y gad o ran diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru a chyflwynodd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i'r Senedd ar 6 Gorffennaf 2020.[7]

Cafodd ei beirniadu’n eang am y ddefnydd o algorithm i ddyfarnu graddau arholiad yn 2020 yn yr hyn a elwid yn fiasco arholiadau 2020. Roedd rhaid iddi gwneud tro pedol ac ymddiheuro o flaen pwyllgor Senedd am yr sefyllfa “Ond mae hi’n briodol fy mod i’n ymddiheuro’n uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw i’n pobol ifanc." [8]

Ar 27 Hydref 2020 cyhoeddodd na fyddai’n sefyll yn Etholiad Senedd 2021, gan ddweud ei bod hi'n "edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'm rôl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda fy olynydd i sicrhau bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dychwelyd llais Democratiaid Rhyddfrydol Cymru."[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Adwaenir fel Ysgrifennydd dros Addysg a Sgiliau hyd at 13 Rhag 2018
  2. Daily Post, 9 Rhagfyr 2008.
  3. 3.0 3.1 "Proffil Aelod". Senedd Cymru. Cyrchwyd 2020-11-01.
  4. 4.0 4.1 "BBC News | People in the Assembly". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-11-01.
  5. "Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016". busnes.senedd.cymru. 2014-12-01. Cyrchwyd 2020-11-01.
  6. "What does Kirsty Williams' exit mean for the Lib Dems and Welsh politics?". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-10-28. Cyrchwyd 2020-11-01.
  7. "Curriculum and Assessment (Wales) Bill". business.senedd.wales (yn Saesneg). 2020-07-03. Cyrchwyd 2020-11-01.
  8. "Kirsty Williams yn ymddiheuro'n "uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw" am helynt canlyniadau". Golwg360. 2020-08-18. Cyrchwyd 2020-11-01.
  9. "Kirsty Williams i sefyll lawr fel Aelod o'r Senedd yn 2021". BBC Cymru Fyw. 2020-10-27. Cyrchwyd 2020-11-01.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed
1999 – 2021
Olynydd:
James Evans
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg
2016
Olynydd:
gwag
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Mike German
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2008 – 2021
Olynydd:
Jane Dodds
Rhagflaenydd:
Mike German
Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
2008 – 2017
Olynydd:
Jane Dodds