Jenny Randerson
Barwnes Randerson | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2011 | |
Geni | |
---|---|
Plaid wleidyddol | Y Democratiaid Rhyddfrydol |
Gwleidydd Cymreig yw Jennifer Elizabeth Randerson, Barwnes Randerson (ganwyd 26 Mai 1948), sydd yn aelod Democratiaid Rhyddfrydol o Dŷ'r Arglwyddi.
Ganwyd Jennifer "Jenny" Randerson yn Llundain ac fe'i addysgwyd yng Ngholeg Bedford, Prifysgol Llundain. Roedd yn gynghorydd Caerdydd o 1983ńdash;2000 ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Trydyddol Caerdydd. Bu'n gynghorydd ar Gyngor Caerdydd a hi oedd arweinydd y gwrthblaid swyddogol ar Gyngor Caerdydd am bedair mlynedd. Yna cynrychiolodd sedd Canol Caerdydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 1999 a 2011. Cyflwynodd strategaeth diwylliant Cymru “Creative Future”, a'r strategaeth gyntaf ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef “Iaith Pawb”.
Gwasanaethodd dros dro fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn llywodraeth glymblaid y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol o 6 Gorffennaf 2001 hyd 13 Mehefin 2002, yn absenoldeb Mike German, arweinydd ei phlaid ar y pryd.
Hi fydd Canghellor Prifysgol Caerdydd o 30 Ionawr 2019.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Jenny Randerson yw Canghellor newydd Prifysgol Caerdydd , Golwg360, 16 Ionawr 2019.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Egin Cymry
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Llywodraeth Cymru
- Genedigaethau 1948
- Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Cymreig yr 21ain ganrif
- Gwleidyddion y Democratiaid Rhyddfrydol
- Pobl o Gaerdydd
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif