Profi, Olrhain a Diogelu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol system, ymgyrch Edit this on Wikidata
Rhan o Gwasanaeth Iechyd Gwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 13 Mai 2020 Edit this on Wikidata
Gwladwriaeth Cymru, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cyhoeddwyd y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu ar 13 Mai 2020, yng nghanol y pandemic COVID-19, er mwyn ceisio atal pobl wedi dal yr haint rhag heintio eraill. Mae'n system sy'n ymwneud â phrofi pobl â symptomau yn y gymuned, olrhain y rhai y maent wedi dod i gysylltiad agos â nhw ac amddiffyn teulu, ffrindiau a'n cymuned trwy hunan-ynysu.

Cyhoeddwyd strategaeth Profi newydd ar 15 Gorffennaf, sy'n nodi'n union sut y bydd profion yn gweithio a sut y gellid adeiladu capasiti ar gyfer y posibilrwydd o ail don.

Gweithredir y system Profi, Olrhain a Diogelu gan GIG Cymru ac mae'n cynnwys nifer o bartneriaid sy'yn gweithio gyda'i gilydd i helpu atal lledaeniad y firws: Iechyd Cyhoeddus Cymru, i'r Byrddau Iechyd lleol ac Awdurdodau Lleol, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac eraill. Dyma un o'r prosiectau iechyd cyhoeddus mwyaf mewn cenhedlaeth.[1]

Mae ap COVID-19 y GIG yn rhan o'r rhaglen Profi Olrhain Diogelu i reoli lledaeniad COVID-19.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Llywodraeth Cymru; adalwyd 11 Chwefror 2021.