Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Am y cerrig milltir pwysicaf, gweler: Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru.

Ar 28 Chwefror profwyd y person cyntaf yng Nghymru yn bositif o'r haint COVID-19 a elwir weithiau'n 'Ofid Mawr' ac ar 16 Mawrth 2020, bu farw'r person cyntaf yng Nghymru o'r haint.[1] Enw'r firws sy'n achosi'r haint hwn yw SARS-CoV-2, sef math o Goronafeirws RNA un-edefyn, ac fe'i gwelwyd am y tro cyntaf yn Wuhan, Tsieina yn Rhagfyr 2019.

Dyma grynodeb o'r ystadegau a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y misoedd cyntaf daeth y niferoedd o brofion/achosion yn bennaf o gleifion a gymerwyd i'r ysbyty, neu weithwyr iechyd a gafodd brawf. Ers 18 Mai 2020 caiff unrhyw berson dros 5 oed ofyn am brawf.[2] Mae'r nifer marwolaethau yn cynnwys achosion a adroddwyd i ICC mewn ysbyty neu gartref gofal lle cafwyd prawf positif mewn labordy a lle mae meddyg yn credu mai COVID-19 wnaeth achosi'r farwolaeth. Ffynhonnell y ffigyrau yma yw gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ystadegau am farwolaethau a gofrestrwyd yn y DU ac mae'n rhoi cyfanswm o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws.[3]

Ni fydd diweddaradau ystadegau cyson ar ôl 25 Mai 2022

Diweddarwyd diwethaf: 25 Mai 2022 Niferoedd Cymru
Nifer yr unigolion a brofwyd: 5,069,486
Nifer yr achosion: 874,425
Nifer y brechiadau (dos cyntaf / ail ddos / brechiad atgyfnerthol): 2,559,001 / 2,418,070 / 1,980,140
Nifer y marwolaethau (ffigyrau dyddiol ICC): 7,473
Nifer y marwolaethau (ONS): 9,051 (hyd at 3 Rhagfyr 2021)

Graffiau[golygu | golygu cod]

Mae'r graffiau yma yn defnyddio ystadegau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle mae'r ffigyrau yn cynnwys achosion a marwolaethau a adroddwyd ar y diwrnod hynny, a fydd efallai yn cynnwys sawl achos (prawf positif) neu farwolaeth a ddigwyddodd sawl diwrnod ynghynt. Fodd bynnag mae'r graff marwolaethau yn ôl dyddiad a ddigwyddodd, nid pryd ei adroddwyd.

Cyfanswm yr achosion a'r marwolaethau yn ôl dyddiad adroddwyd[golygu | golygu cod]

Achosion newydd yn ôl dyddiad adroddwyd[golygu | golygu cod]

Ffynhonnell: coronavirus.data.gov.uk.[4]

Achosion newydd yn ôl wythnos adroddwyd[golygu | golygu cod]

2020[golygu | golygu cod]

2021[golygu | golygu cod]

2022[golygu | golygu cod]

Nifer o farwolaethau yn ôl wythnos adroddwyd[golygu | golygu cod]

Marwolaethau ar draws Cymru[golygu | golygu cod]

Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru[5]. Dyma'r niferoedd o farwolaethau fesul bwrdd:

1. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - 102

2. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - 1,225

3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - 1,992

4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - 770

5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - 1017

6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 1,386

7. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 952

8. Tu allan i Gymru - 23

Nifer y marwolaethau drwy Gymru: 7,467[6]

  • Darperir y ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Mae'r data yn gywir hyd at 24 Mai 2022 09:00

Marwolaethau ychwanegol yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol[golygu | golygu cod]

Mae'r graff isod yn dangos y marwolaethau ychwanegol (Saesneg: excess deaths) yng Nghymru yn 2020/2021 uwchben y cyfartaledd dros y 5 mlynedd cynt. Defnyddir hyn fel ystadegyn awdurdodol i gymharu effaith y pandemig ar boblogaeth unrhyw wlad.

Niferoedd a heintiwyd[golygu | golygu cod]

Nifer a brofwyd yn bositif o'r COVID-19
Diweddarwyd diwethaf ar 18 Ebrill o'r ystadegau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r siart canlynol yn nodi'r nifer o achosion o COVID-19 allan o bob 10,000 person.
Y siroedd gyda
lleiaf
o achosion:
Y siroedd gyda'r
mwyaf
o achosion:
Sefyllfa ar 13 Chwefror 2021[7]
Bwrdd Iechyd Awdurdod Lleol Achosion Cyfanswm yr achosion
Aneurin Bevan Blaenau Gwent 5,919 39,235
Caerffili 12,674
Casnewydd 10,587
Sir Fynwy 3,943
Torfaen 6,144
Betsi Cadwaladr Conwy 3,310 31,544
Gwynedd 2,705
Sir Ddinbych 4,001
Sir y Fflint 8,811
Wrecsam 10,901
Ynys Môn 1,816
Cardydd a'r Fro Bro Morgannwg 7,033 31,590
Caerdydd 24,557
Cwm Taf Morgannwg Merthyr Tudful 6,316 39,267
Pen-y-bont ar Ogwr 12,254
Rhondda Cynon Taf 20,665
Hywel Dda Ceredigion 1,680 15,039
Sir Benfro 3,176
Sir Gaerfyrddin 10,183
Powys Powys 3,723 3,723
Bae Abertawe Abertawe 16,485 27,551
Castell-nedd Port Talbot 11,066
Lleoliad anhysbys 1,783
Preswylwyr tu allan i Gymru 9,029
Cyfanswm Cymru 189,732
Cyfanswm 198,761

Cymhariaeth gyda rhai gwledydd eraill[golygu | golygu cod]

Diweddarwyd diwethaf ar 13 Chwefror 2021.
Marwolaethau
Gwlad Nifer y marwolaethau Ffynhonnell Poblogaeth
(miliwn)
Nifer allan o
100,000
a fu farw
Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ 29 [8] 0.4 7.3
Baner Georgia Georgia 3,343 [8] 3.7 90.4
Baner Seland Newydd Seland Newydd 25 [8] 5.0 0.5
Baner Norwy Norwy 592 [8] 5.3 11.2
Baner Slofenia Slofenia 3,705 [8] 2.0 185.3
Baner Awstria Awstria 8,195 [8] 8.9 92.1
Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 3,931 [8] 4.8 81.9
Baner Yr Alban Yr Alban 6,711 (PHS)[9] 5.5 122.0
Baner Cymru Cymru 5,106 [10] 3.2 159.6
Baner Lloegr Lloegr 103,106 [11] 56.3 183.1

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Coronafeirws: Y claf cyntaf o Gymru wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2020-03-16. Cyrchwyd 2020-04-06.
  2. Coronafeirws: Edrych nôl ar ddydd Llun, 18 Mai , BBC Cymru Fyw, 18 Mai 2020. Cyrchwyd ar 19 Mai 2020.
  3. (Saesneg) Deaths registered weekly in England and Wales, provisional (26 Mai 2020).
  4. GOV.UK Coronavirus (COVID-19) in the UK Archifwyd 16 August 2020 yn y Peiriant Wayback. (adran: Daily cases by date reported) coronavirus.data.gov.uk, accessed 16 January 2020
  5. http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/45028
  6. Rapid COVID-19 surveillance
  7. "Cases and tests, by Local Authority of residence". Public Health Wales. 16 Mai 2020. Cyrchwyd 16 Mai 2020.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 8.6 (Saesneg) Number of novel coronavirus (COVID-19) deaths worldwide as of December 2, 2020, by country. statista.com. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2020.
  9. www.gov.scot; adalwyd 17 Tachwedd 2020.
  10. Iechyd Cyhoeddus Cymru; adalwyd 17 Tachwedd 2020.
  11.  The official UK Government website for data and insights on Coronavirus (COVID-19). Llywodraeth y DU. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2020.