Cenarth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Teifi ger Cenarth

Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Cenarth (neu Genarth Mawr fel y'i gelwid yn yr Oesoedd Canol), gyda rhan o'r pentref yng Ngheredigion. Saif yn agos i'r ffin a Sir Benfro hefyd, gyda naill ochr a llall y pentref ar ddwy lan Afon Teifi, 10 km i'r dwyrain o Aberteifi a 4 km i'r gorllewin o Gastell Newydd Emlyn.

Mae'r rhan fwyaf o’r ardal i'r de o Afon Teifi, yng nghantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch Cuch. Cenarth Mawr oedd canolfan cwmwd Emlyn Uwch-Cych erbyn y 1100au, a sefydlwyd castell mwnt a beili (Parc-y-domen erbyn heddiw) yma yn dilyn ymosodiadau a gwladychu rhan o'r ardal gan yr Eingl-Sacsoniaid. Parc-y-domen, a leolir ychydig i'r de o'r eglwys leol oedd y ganolfan weinyddol. Erbyn y 1130au roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry ac felly y bu trwy'r 12g a'r 13g.[1]

Mae Rhaeadr Cenarth yn fan adnabyddus ac yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr - sef un o'r prif resymau dros ddatblygiad y pentref yn ystod y cant a hanner o flynyddoedd diwethaf. Ychydig iawn o dai annedd oedd yma hyd at ddiwedd y 18g, fodd bynnag. Defnyddir cyryglau ar Afon Tefi hyd heddiw. Ceir disgrifiad gan Gerallt Gymro yn y 1180au fod Cenarth yn safle pysgota eogiaid ffyniannus' a nodir fod yno 'eglwys a gysegrwyd i Sant Llawddog, melin, pont a'i safle pysgota a gardd hynod ddeniadol i gyd ar ddarn bach o dir.

Eglwys Llawddog[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Llawddog, Cenarth, oedd canolfan eglwysig bwysicaf cantref Emlyn ac fe'i disgrifir mewn testun o Siarteri Llandaf, sy'n dyddio o'r 6 Cysegrwyd yr eglwys, fel yr awgryma'r enw, i Sant Llawddog. Fe'i hailadeiladwyd yn y 19g wrth i'r pentref dyfu. 140m i lawr yr allt o'r eglwys, ger yr afon, mae Ffynnon Llawddog (NPRN 418381).

Carreg Gellidywyll[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgythriad o 'Garreg Parc y Maen Llwyd' neu 'Garreg Gellidywyll' allan o Archaeologia Cambrensis fel ag yr oedd yn y 1890au.
Ffotograff a dynnwyd o'r garreg yn Awst 2017.

O flaen prif ddrws yr eglwys ceir carreg bwysig a safodd yn wreiddiol mewn cae gerllaw'r eglwys, cyn ei symud yma yn 1894.[2] Carreg Gellidywyll yw'r enw lleol arni, a cheir stori o 1776 yn y Gentlemen's Magazine i Arglwydd Cawdor ddod a hi yma, o Blasty Gellidywyll. Ond cred y trigolion lleol yw iddi unwaith sefyll ym Mharc y Maen Llwyd, ger yr eglwys. Yn ôl Lewis Morris yn 1743 safodd y garreg ym Maenclochog - ugain milltir i ffwrdd - "ar ochr y ffordd ger Bwlch y Clawdd". Morris a gofnododd yr ysgrif ar y garreg yn gyntaf.

Y geiriad Hen Wyddeleg yw:

CVRCAGN - FILI ANDAGELI

sef 'Curcagnus, mab Andagelli'. Yn Llandeilo Llwydiarth ger Maenclochog ceir carreg arall ac arni ysgrifen ogam i goffau Andagelli, ac mae'n gwbwl bosibl mai'r un person ydoedd.

Mae'r dyddiad ar fwa'r prif fynedfa i'r fynwent a'r eglwys yn nodi'r dyddiad 1855, ac yn coffau diwedd Rhyfel y Crimea.

Y fedyddfaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r fedyddfaen o'r 12g hwyr i'r 13g ac wedi'i chludo yma o Landysiliogogo (NPRN 400361) yn y 19g. Mae siap crwn i'r fasn (neu'r fowlen) a cheir pedwar pen person ar ochrau'r fedyddfaen, yn debyg iawn i'r rhai a geir yn Eglwysi Sant Sulien, Silian (NPRN 402554) a Sant Padrig, Pencarreg (NPRN 418382). Mae'n mesur 52 modfedd mewn cylchred, 14 modf y tu fewn i'r fowlen a dyfnder o 12 modfedd. Bu yma fedyddfaen cyn hon, un sgwar gydag ymylon fel ymyl cocos a ddyddiwyd i'r 13g ac a gludwyd oddi yma i Eglwys Sarnau ac yna i Eglwys Sant Mihangel, Penbryn (NPRN 105363) lle mae heddiw.

Hen ywen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir hen ywen oddi fewn i wal garreg ar siap cylch o flaen Carreg Gellidywyll. Yn 2005 roedd tair i'r boncyff, tair rhan o'r goeden wreiddiol. Ers hynny bu farw dwy ran, ond mae'r drydedd wedi tyfu'n goeden gref, ac yn 2014 roedd yn mesur 8.25 metr (27' 1") o amgylch ei chanol ac fe'i chofrestrwyd fel coeden 'hynafol'.[3]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cenarth (pob oed) (1,030)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cenarth) (434)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cenarth) (520)
  
50.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cenarth) (172)
  
37.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Archifau Dyfed; adalwyd 24 Awst 2017.
  2. gwefan coflein.com; adalwyd 24 Awst 2017.
  3. ancient-yew.org; adalwyd 24 Awst 2017.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]