David Davies (Dewi Emlyn)

Oddi ar Wicipedia
David Davies
FfugenwDewi Emlyn Edit this on Wikidata
Ganwyd9 Tachwedd 1817 Edit this on Wikidata
Cenarth Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 1888 Edit this on Wikidata
Pennsylvania Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bardd a llenor Cymraeg oedd David Davies (9 Tachwedd 18172 Awst 1888), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Dewi Emlyn.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Brodor o Genarth yn Sir Gaerfyrddin oedd Dewi Emrys. Fel nifer o'ir gydwladwyr yn y cyfnod hwnnw, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn ddyn ifanc i geisio byd gwell. Daeth yn adnabyddus yn y gymuned Gymreig yno fel bardd.

Nid oes llawer o werth llenyddol i waith barddol Dewi Emrys. Fe'i cofir yn bennaf heddiw am y gyfres o lythyrau honedig gan ferch ifanc o Gymru at ei chwaer yn America a gyhoeddwyd yn 1870 fel Llythyrau Anna Beynon. Ymddangosodd y rhain yn y cylchgrawn Yr Haul yn gyntaf ac roedd pobl yn meddwl bod Anna Beynon yn ferch gig a gwaed. Roedd yn dipyn o syndod pan gyhoeddodd Dewi Emlyn mai ef oedd yr awdur. Fel llenyddiaeth mae'r llythyrau dychymgol hyn yn cael eu gwerthfarwogi heddiw, ond codwyd ffrae am y "twyll" a ystyrid yn dipyn o sgandal gan rai.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)