Llanddarog

Oddi ar Wicipedia
Llanddarog
Tafarn yr Hydd Gwyn, Llanddarog
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,198 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,655.9 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.828°N 4.174°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000510 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanddarog. Saif y pentref fymryn i'r de o'r briffordd A48, tua hanner y ffordd rhwng Caerfyrddin a Rhydaman. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o 1856, i Sant Twrog. Mae tafarn yr Hydd Gwyn yn nodedig o fod a tho gwellt. Llifa Afon Gwendraeth Fach ychydig i'r de o'r pentref.

Heblaw pentref Llanddarog, mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Porth-y-rhyd. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,095, gyda 73.51% yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddarog (pob oed) (1,198)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddarog) (688)
  
59.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddarog) (932)
  
77.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanddarog) (207)
  
38.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]