Dre-fach Felindre

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dre-fach Felindre.

Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Dre-fach Felindre. Saif bedair milltir i'r de-ddwyrain o Gastell Newydd Emlyn.

Ar un adeg roedd yn ganolfan bwysig iawn i'r diwydiant gwlân, a cheir Amgueddfa Wlân Cymru yma.

Yma y ganed y bardd ac awdur Aneirin Talfan Davies.

Prosiect Hanes Lleol

Yn 2013 penderfynwyd paratoi ‘Prosiect Hanes Cymdeithasol Dre-fach Felindre’ a’i alw yn Stori Fawr Dre-fach Felindre.  Casglwyd pob agwedd o hanes yr ardal yn ystod yr 20fed ganrif a’i gyhoeddi ar y wefan Casgliad y Werin Cymru. Penderfynwyd pwyllgor Stori Fawr Dre-fach Felindre i gomisiynu’r artistiaid enwog Meirion ac Aneurin Jones, Aberteifi, i baentio murlun o faint sylweddol, a fyddai’n adlewyrchu hanes y ddau bentref. Mae'r murlun gwreiddiol, yn cael ei arddangos yn barhaol yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol. Trefnodd y pwyllgor ddigwyddiad yn y pentref ar Sadwrn, 4 Gorffennaf 2015 i gofio am Ellen Jones, Graigwen, Allt-pen-rhiw a ddychwelodd gyda’i thad o Batagonia i fyw yng Nghamwy yng nghanol pentref Felindre yn 1901. Gosodwyd plac glas ar fur Camwy i nodi hynny. Mae holl hanes rhamantus a dirdynnol Nel Fach y Bwcs wedi ei gofnodi yn y llyfr O Drelew i Dre-fach ac ar raglenni teledu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]