Neidio i'r cynnwys

Capel Isaac

Oddi ar Wicipedia
Capel Isaac
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaenordeilo a Salem Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.922182°N 4.061683°W Edit this on Wikidata
Map
Capel Isaac

Pentref bychan yng nghanol Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru yw Capel Isaac.

Gorwedd y pentref tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o Landeilo, ar lan ddwyreiniol Afon Dulas, un o ledneintiau llai Afon Tywi.

Yn y 1650au, fel canlyniad i gyflwyno Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru, sefydlwyd un o eglwysi cynharaf yr Annibynwyr yng Nghymru yno. Capel syml diaddurn ydyw. Bu yng ngofal y Piwritan cynnar ac addysgwr Stephen Hughes (1622-1688) pan sefydlwyd yr achos yno. Ailadeiladwyd y capel yn 1790 ac eto yn 1848. Ceir adeilad bychan lle cynhelid ysgol wrth ei ymyl.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Llandybie, 1970), tud. 266.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato