Ffaldybrenin

Oddi ar Wicipedia
Ffaldybrenin
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0825°N 3.9903°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Ffaldybrenin[1] (hefyd: Ffald-y-brenin). Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar ffordd wledig tua 2 milltir i'r gorllewin o Ffarmers, a thua 5 milltir i'r de-ddwyrain o dref Llanbedr Pont Steffan.

Codwyd capel Ffald-y-brenin yn 1833, capel sydd â'i le yn hanes Methodistiaeth Sir Gâr.[2]

Treuliodd y golygydd James Rhys Jones (1813-1889), a adnabyddir yn well fel 'Kilsby Jones' neu 'Kilsby', gyfnod fel ysgolfeistr yn Ffald-y-brenin.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Adroddiad Enwau Lleoedd Cyngor Sir Gaerfyrddin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-24. Cyrchwyd 2010-01-14.
  2. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail argraffiad 1977), tud. 159.
  3. Crwydro Sir Gár, tud. 158.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato