Llanllawddog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanllawddog
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.95°N 4.23°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000535 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Adam Price (Plaid Cymru)
AS/au Jonathan Edwards (Plaid Cymru)

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanllawddog. Gorwedd yng ngorllewin canolbarth y sir, tua 5 milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin ger y ffordd o'r dref honno i Llanbedr Pont Steffan ac ar yr hen ffordd sy'n cysylltu Llanpumsaint i'r gorllewin a Brechfa i'r dwyrain.

Cynrychiolir cymuned Llanllawddog yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Plaid Cymru).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Llanllawddog yn un o dri phlwyf yn Sir Gaerfyrddin a gysylltir â'r sant Llawddog (Llawddog ap Dingad, ?6g).

Claddwyd yr ysgolhaig a chasglwr llawysgrifau Cymreig Iaco ab Dewi ym mynwent eglwys y plwyf. Brodor o Landysul ydoedd.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanllawddog (pob oed) (703)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanllawddog) (370)
  
53.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanllawddog) (467)
  
66.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanllawddog) (98)
  
34.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%


Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y cyhoeddwr cynnar Dafydd Lewis, a gyhoeddodd y flodeugerdd Flores Poetarum Britannicorum yn 1710, yn frodor o Lanllawddog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato