Y Tymbl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Tymbl
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7832°N 4.1107°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN545115 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)

Y Tymbl (Saesneg: Tumble) yw un o bentrefi mwyaf Sir Gaerfyrddin ac fe'i lleolir yn ardal Cwm Gwendraeth. Credir bod yr enw anghyffredin hwn yn dod o enw ar hen dafarn y Tumble Down Dick a oedd wedi ei lleoli ar safle'r clwb rygbi presennol. Pentref glofaol oedd y Tymbl hyd at yn gymharol ddiweddar, ond erbyn hyn, mae'r diwydiant wedi diflannu, ac mae Parc Gwledig y Coetir erbyn hyn wedi ei sefydlu ar hen waith glo'r Tymbl.

Yn weinyddol, mae'r Tymbl yn rhan o Ward Llannon, sydd hefyd yn cynnwys pentrefi Cross Hands a Llannon ei hun.

Gerllaw ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Nia Griffith (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014