Bethlehem, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bethlehem
Sir Gaerfyrddin
CymruCaerfyrddin.png
Smotyn Coch.gif
Am enghreifftiau eraill o'r enw lle Bethlehem gweler Bethlehem (gwahaniaethu).

Pentref bychan rhwng tref Llandeilo a phentref Llangadog, nepell o bentref Gwynfe, yn sir Gaerfyrddin yw Bethlehem. Enwir y pentref ar ôl y capel sydd yno. Yr enw gwreiddiol ar y pentref oedd Dyffryn Ceidrych, ar ôl yr afon leol. Byddai'r trigolion lleol yn cyfeirio ati fel Bethlem, dyffryn Ceidrych, ond fe'i hadwaenir orau fel Bethlehem, dyffryn Tywi yn genedlaethol - Tywi yw'r afon fwyaf sydd nepell o'r pentref a'r afon fwyaf yn sir Gaerfyrddin. Tai, ffermydd, neuadd bentref a chapel sydd yn y pentref. Gwnaeth y swyddfa bost gau ac yna'r ysgol gynradd sydd bellach yn Neuadd Gymunedol. Mae dal modd i brynu stamp arbennig ar gyfer y Nadolig o'r neuadd, mae hyn yn boblogaidd yn ystod y cyfnod hwn er mwyn cael derbyn y nôd 'Bethlehem' ar yr amlen adeg y Nadolig.[1]

Yn gysgod uwchlaw'r pentref mae Heneb y Garn Goch - bryn ac arni gaer o'r oes efydd ar ei phen. Ceir golygfeydd godidog o ddyffryn Tywi o'r fan honno. Gellir gyrru car a'i barcio wrth droed y bryn. Yno ceir carreg goffa Gwynfor Evans a saernïwyd mewn caligraffeg Geltaidd gan yr artist Ieuan Rhys. Bu Gwynfor (fel y'i adnabuwyd) yn byw rhwng Bethlehem a Llangadog gan fagu teulu yn y Dalar Wen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Erthygl BBC - Pryder am bost Bethlehem]


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato