Bryngaerau Garn Goch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

51°54′N 3°55′W / 51.9°N 3.91°W / 51.9; -3.91 (Bryngaerau Garn Goch.)

Bryngaerau Garn Goch
Garn Goch
Bryngaerau Garn Goch, Llangadog
Y Gaer Fawr, Carn Goch
Carn Goch

Mae bryngaerau Garn Goch yn ddwy fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'u lleoli ger Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, Cymru; cyfeirnod OS: SN689243. Cyfeirir at y fwyaf o'r ddwy gaer hyn fel 'bryngaer Carn Goch' neu'r Gaer Fawr ac at y gaer lai fel y Gaer Fach.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gaer Fawr

Mae'r Gaer Fawr yn cael ei hamddiffyn gan fur amgylchynnol o waith cerrig sy'n amgau 10 hectar o dir ar ben y bryn. Gwelir olion pedair mynedfa postern bychain ac un fynedfa fawr ym mhen gogledd-ddwyreiniol y gaer. Mae slabiau o gerrig yn sefyll yn erbyn y wal. Yn y gornel dde-orllewinol mae trwch y muriau yn 20 meter neu fwy. Dim ond un platfform tai sydd yn y gaer.[1]

Gaer Fach

Mae'r Gaer Fach yn gaer lai ei maint o lawer, dim ond tua chweched rhan maint y Gaer Fawr, ac mae'n sefyll ar grib arall i'r gorllewin. Mae'r mur amddiffynnol yn wan. Does dim sicrwydd am ei pherthynas â'r Gaer Fawr.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y bryngaerau hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM037.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. Gwefan y BBC
  5. Gwefan CPAT