Bwrdd Arthur

Oddi ar Wicipedia
Bwrdd Arthur
Mathbryngaer, caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3108°N 4.1229°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH5863581455, SH58638146 Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOes yr Haearn, Britannia Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN024 Edit this on Wikidata
Erthygl am y fryngaer yn Ynys Môn yw hon; ceir hefyd gromlech yn Sir Gaerfyrddin o'r enw Bwrdd Arthur

Bryn a bryngaer yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Bwrdd Arthur, hefyd Din Silwy. Mae ei bwynt uchaf 164 m uwch lefel y môr. Saif ger yr arfordir, i'r gogledd o bentref Llanddona. Cedwir yr enw hynafol Din Silwy yn enw plwyf canoloesol Llanfihangel Dinsilwy. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 29 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf, cyfeirnod OS: SH5863581455.

Mae'n un o sawl lle yng Nghymru a Phrydain a gysylltir ag enw y Brenin Arthur, ond does dim cysylltiad uniongyrchol, nac yn hanesyddol nac yn chwedlonol, hyd y gwyddys. Uchder y copa o lefel y môr ydy 164m (538tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 8 Mehefin 2009.

Y fryngaer[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd mur o feini calchfaen yn ystod Oes yr Haearn i greu'r fryngaer, gydag arwynebedd o tua 6.8ha tu mewn i'r mur. Mae tystiolaeth iddi gael ei defnyddio yng nghyfnod y Rhufeiniaid hefyd, gan i gasgliad o arian gael ei ddarganfod yma, yn cynnwys darnau wedi eu bathu yn ystod teyrnasiad Nero, Vespasian a Cystennin Fawr. Ceir olion nifer o dai crwn ac un hirsgwar. Mae'r safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fel enghraifft o laswelltir ar dir calchog. Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN024.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]