Castell Dinbod

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Castell Tinboeth)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Castell Dinbod
Tinboeth Castle, Aerial View.jpg
Mathcaer lefal, castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3694°N 3.3371°W, 52.369785°N 3.337717°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO0900675449 Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwRD038 Edit this on Wikidata

Castell canoloesol rhwng y Drenewydd a Llandrindod ym Mhowys yw Castell Dinbod[1] neu Castell Tinbod[2] (cyfeiriad grid SO090754). Saif ar lan Afon Ieithon tua milltir i'r gogledd o eglwys hynafol Llananno, ar fryn i'r dwyrain o ffordd yr A483. Lleoliad map OS: SO 0901 7544.

Castell Dinbod

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Codwyd y castell oddi mewn i fryngaer gron o Oes yr Haearn. Mae ganddo wrthglawdd o bridd a cherrig a mynedfa i'r de-ddwyrain. Defnyddid rhai o gerrig y fryngaer ar gyfer adeiladu clawdd o amgylch y castell. Mae'n enghraifft ddiweddar iawn o'r castell mwnt a beili traddodiadol. Addaswyd muriau'r fryngaer i lunio'r ward allanol (y beili). Diogelid y mwnt â llenfur o gerrif gyda phorthdy mawr yn y gornel gogledd-orllewinol trwy gatws oedd tua 8 medr sgwâr. Dim ond pentyrrau o gerrig sy'n aros o'r muriau heddiw.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n bosibl fod yr enw Dinbod yn tarddu o din (caer) a'r enw personol Bawd. Mae traddodiad diweddarach yn ei gysylltu â Mawd neu Maud, gwraig Roger Mortimer (m.1282), aelod o'r teulu Mortimer, un o deuluoedd Normanaidd grymusaf y Mers.[3] Mae'n debyg fod y castell canoloesol yn dyddio i tua'r cyfnod hwnnw.

Enw arall a gofnodwyd yw Crugyn Hywel ('Kriggin Howell', 1639). Y sillafiad Tinboeth sy'n arferol mewn cyd-destun Saesneg, er mai eithriadol yw'r ffurf honno mewn cofnodion cynnar.[4]

Cofnododd Siôn Dafydd Rhys (1534 – c. 1609) draddodiad mai Urien Rheged a gododd Gastell Dinbod: C[astell] Tinbod a wnaeth Vryen Rheged.[5]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Melville Richards, 'Some Welsh place-names containing elements which are found in Continental Celtic', Études celtiques, 13 (1972), 367.
  2. F. G. Payne, Crwydro Sir Faesyfed, cyf. 2 (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1968), t. 69.
  3. Melville Richards, 'Some Welsh place-names containing elements which are found in Continental Celtic', Études celtiques, 13 (1972), 367.
  4. Melville Richards, 'Some Welsh place-names containing elements which are found in Continental Celtic', Études celtiques, 13 (1972), 367.
  5. P. C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary, people in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993), t. 728.