Dinas Emrys
![]() | |
Math | castell, caer lefal, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.022°N 4.079°W ![]() |
Cod OS | SH60604920 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN018 ![]() |
Mae Dinas Emrys yn safle hen gastell a bryngaer yn ne Eryri, Gwynedd. Mae'n un o'r cynharaf o'r cestyll Cymreig. Saif i'r gorllewin o'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert, tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref olaf.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.


Enw[golygu | golygu cod]
Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Dinlle, Dinas Cerdin, Dinas Powys; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw). Ystyr yr enw felly yw "Caer Emrys" (gweler isod am yr hanes).
Lleoliad[golygu | golygu cod]
Mae'r hen amddiffynfa ar ben bryn syrth a choediog, sy'n mwynhau golygfa eang i lawr i gyfeiriad Beddgelert ac i fyny i Lyn Dinas a Nant Gwynant. I'r dwyrain mae ucheldir creigiog y Moelwynion, rhwng Croesor a Blaenau Ffestiniog, ac yn gefn iddi dros gwm unig Afon y Cwm mae llethrau gwyllt yr Aran (2451'), sy'n rhan o gadwyn yr Wyddfa.
Y tŵr[golygu | golygu cod]
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgwar i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan Llywelyn Fawr yn gynnar yn y 13g neu, yn fwy tebygol, gan Owain Gwynedd tua diwedd y 12g. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel Castell Deudraeth. Mae adfeilion mur amddiffynnol i'w gweld hefyd.
-
Yr olygfa o'r tŵr: Llyn Dinas
-
-
-
-
-
Y dreigiau[golygu | golygu cod]
Mae gwaith yr archaeolegwyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Canol cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy ddraig, un yn goch a'r llall yn wyn, yn chwedl Lludd a Llefelys. Mae Sieffre o Fynwy yn adrodd sut y bu i Fyrddin eu dangos i'r brenin Gwrtheyrn gan esbonio eu bod yn cynrychioli y Brythoniaid a'r Saeson yn eu gornest am sofraniaeth Ynys Prydain. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius, yr Historia Brittonum (9g). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.
-
Safle Dinas Emrys o Afon Glaslyn
-
-
-
Y fynedfa i fewn i'r castell
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Cylchoedd cerrig
- Rhestr copaon Cymru
- Llwythau Celtaidd Cymru
- Gŵr Blewog, un o chwedlau gwerin yr ardal.
- Owain fab Macsen Wledig
- Y Ddraig Goch
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)