Craig Rhiwarth
![]() | |
Math | bryngaer ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.83°N 3.4°W ![]() |
Cod OS | SJ0548627121 ![]() |
![]() | |
Copa mynydd a bryngaer 16.2 ha (40 acer) ym Maldwyn, Powys, yw Craig Rhiwarth. Tu ôl i'r gaer mae'r clogwyni'n codi 500 troedfedd tra bod llethr serth yn disgyn 1200 troedfedd i bentref Llangynog islaw. Mae'n gorwedd y tu ôl i bentref Llangynog, ar lethrau Y Clogydd (1954 troedfedd), sy'n rhan o gadwyn Y Berwyn. Rhed Afon Tanat wrth droed y graig. Mae'n safle naturiol cryf iawn gyda golygfeydd eang dros Ddyffryn Tanat islaw; cyfeiriad grid SJ054271. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 464metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Y fryngaer[golygu | golygu cod y dudalen]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG004.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
I'r gogledd mae hen fur adfeiliedig iawn yn dilyn rhediad naturiol y tir i fwlch tua 1500 troedfedd i fyny. Ymddengys fod yr unig fynedfa yn defnyddio hollt naturiol yn y graig ar yr ochr orllewinol. Mae wyneb y safle'n anwastad iawn, a cheir olion cytiau crwn yma ac acw yng nghanol y gaer, yn wynebu'r de. Ceid felly digon o le i gadw anifeiliad ac ymddengys fod y gaer wedi'i chodi fel amddiffynfa i gadw'r preiddiau'n ddiogel pan fyddai rhaid yn hytrach na fel trigfan barhaol (ni fyddai'n addas i fyw ynddo yn y gaeaf).[2]
Cloddiwyd rhannau o'r safle yn 1933, ond heb canfod unrhyw wrthrych o waith dyn. Ond mae'r ffaith fod hafotai canoloesol ar ran o'r safle yn dangos fod hanes hir i'r gaer.[2]
Y copa[golygu | golygu cod y dudalen]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 532m (1745tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 30 Mehefin 2007.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bryngaerau Cymru
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback.
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ 2.0 2.1 A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn I. Ll. Foster a Glyn Daniel (gol.), Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
- ↑ “Database of British and Irish hills”