Bryn Myrddin
Math |
caer lefal ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.8707°N 4.246°W ![]() |
Cod OS |
SN45502150 ![]() |
![]() | |
Dynodwr Cadw |
CM231 ![]() |
Bryn yn Sir Gaerfyrddin yw Bryn Myrddin. Ceir bryngaer gynhanesyddol ar ei gopa. Fe'i lleolir ger y Felin-wen, rhwng Abergwili a Nantgaredig tua 2.5 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ac i'r gogledd o'r briffordd A40 yn Nyffryn Tywi; cyfeirnod OS: SN454215.
Bryngaer[golygu | golygu cod y dudalen]
Gorchuddir llawer o lethrau Bryn Myrddin gan goed. Ni ddarganfuwyd y gaer Geltaidd yno gan archaeolegwyr tan yn bur ddiweddar. Mae'n amgau 4 hectar o dir ac mae'n cael ei amddiffyn gan glawdd trwchus enfawr. Ceir mynedfa yng nghornel y gogledd-ddwyrain a amddiffynir gan droad i mewn tyn a gwaith amddiffynnol allanol sylweddol.[1]
Myrddin[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymddengys fod y cysylltiad ag enw Myrddin, y bardd a dewin o'r cyfnod ôl-Rufeinig sydd â rhan amlwg yn chwedlau cylch Arthur, yn hen. Cyfeirir y bardd Seisnig Edmund Spenser (c.1522-1599) ato fel "Merlin's Hill" yn ei gerdd hir The Faerie Queene. Mae'n cofnodi traddodiad lleol fod gan Fyrddin efail danddaearol dan y bryn, a bod trwst y gofion wrth eu gwaith i'w clywed pe rhoddir clust ar y ddaear.[2]
Cadw[golygu | golygu cod y dudalen]
Cofrestrwyd bryngaer Bryn Myrddin gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM231.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 169.
- ↑ Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Cyfres Crwydro Cymru, Llandybie, ail argraffiad 1970), tud. 268-69.
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ Gwefan CPAT