Castell Henllys
![]() | |
Math | safle archaeolegol, bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig, caer bentir ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro, Nanhyfer ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0178°N 4.7453°W ![]() |
Cod OS | SN11723905 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE175 ![]() |
Mae Castell Henllys yn fryngaer o Oes yr Haearn yng ngogledd Sir Benfro, de-orllewin Cymru, rhwng Trefdraeth ac Aberteifi (cyfeiriad grid SN117390). Fe'i lleolir ar fryn isel ar lan Afon Duad, ffrwd fechan sy'n llifo i Afon Nyfer gerllaw, rhwng Nyfer ac Eglwyswrw.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae safle Castell Henllys wedi cael ei gloddio yn barhaol ers ugain mlynedd, ac mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer arbrofion archaeolegol i geisio ail-greu dulliau ffermio cynhanesyddol a'r ffordd o fyw yn y cyfnod. Ar y safle ceir pedwar cwt crwn a storfa grawnfwyd sydd wedi cael eu codi ar y sylfeini Oes yr Haearn gwreiddiol.
Ni fu Castell Henllys yn fryngaer fawr. Mae'n perthyn i ddosbarth o fryngaerau bychain sy'n arbennig o niferus yn ne-orllewin Cymru.
Yn ystod yr haf mae'r safle yn fan ymarfer i archaeolegwyr ifainc.
Mae'r safle yn atyniad twristaidd poblogaidd erbyn hyn ac yn cael ei redeg gan awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Castell Henllys
- (Saesneg) Cytiau crynion yng Nghastell Henllys