Ffridd Faldwyn

Oddi ar Wicipedia
Ffridd Faldwyn
Mathcaer lefal, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5647°N 3.1568°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO216969 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMG015 Edit this on Wikidata

Bryngaer 5.2 hectar yng ngogledd Powys yw Ffridd Faldwyn.[1] Saif ar fryn amlwg i'r gorllewin o Drefaldwyn. Mae'n un o'r bryngaerau mwyaf yng Nghymru a'i maint yn 503m wrth 254m.[2] cyfeiriad grid SO217969

Disgrifiad a hanes[golygu | golygu cod]

Safle caer Ffridd Faldwyn

Mae gan safle Ffridd Faldwyn hanes hir ac mae'r preswyliad cyntaf ar y safle yn dyddio i Oes Newydd y Cerrig,[3] er nad yw'r gaer ei hyn yn dyddio o'r cyfnod cynnar hwnnw. Mae'n safle cymhleth a phwysig ac erys llawer o gwestiynau heb eu hateb. Ceir tystiolaeth archaeolegol fod Ffridd Faldwyn yn drigfan yn y cyfnod Neolithig. Codwyd yr amddiffynfa gynharaf yn y 3 CC pan adeiladwyd palisâd dwbl yno yn amgau o leiaf 1.2 hectar o dir ar siap ofal ar y copa. Cafwyd cyfres o ffosydd a muriau amddiffynnol ar ôl hynny, ar bedwar o gyfnodau gwahanol yn Oes yr Haearn.[4]

Codwyd mur pridd gyda wyneb pren i gymryd lle'r palisâd cyntaf. Roedd ganddo ddwy ffos a mynedfa gyda phont o'i flaen. Cafodd yr amddiffynwaith hwn ei losgi'n ulw. Ar ddechrau'r ganrif gyntaf CC codwyd amddiffynfa uchelgeisiol gyda mur â wyneb o gerrig a ffos 6 medr o led yn amgau tua 4 hectar o dir. Atgyweiriwyd hyn eto yn ddiweddarach. Yn olaf ceir olion o atgyfnerthu'r gaer yn y ganrif gyntaf OC, efallai mewn ymateb i ddyfodiad y Rhufeiniaid i'r cyffiniau tua'r flwyddyn 50. Ymddengys fod hanes y gaer fel amddiffynfa yn dod i ben yn fuan ar ôl hynny.[4]

Ar ei mwyaf roedd y gaer yn mesur tua 1200 troedfedd (o'r de i'r gogledd) gyda lled o tua 500 troedfedd. Mae'n anodd gwybod os yw'r fryngaer i gael ei phriodoli i'r Ordovices neu eu cymdogion y Cornovii i'r dwyrain. Fel yn achos amddiffynfeydd eraill yn Y Mers efallai ei bod wedi newid dwylo o leiaf unwaith.[4]

Mae maint a lleoliad bryngaer Ffridd Faldwyn yn dangos pwysigrwydd strategol ardal Trefaldwyn ers gwawr hanes Cymru. I'r dwyrain ceir tref Trefaldwyn a'i chastell Normanaidd gyda chwrs Clawdd Offa ar y ffin â Lloegr gerllaw. I'r gogledd ceir Caer Ffordun, caer Rufeinig ger Afon Hafren a thua 2 filltir i'r gorllewin cododd Llywelyn ap Gruffudd Gastell Dolforwyn.

The Fridd Faldwyn Iron Age Hillfort on the skyline, as viewed from Llandyssil

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG015.[5] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain), 1974).
  2. "Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-04. Cyrchwyd 2010-09-08.
  3. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-05. Cyrchwyd 2010-09-09.
  4. 4.0 4.1 4.2 A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
  5. Cofrestr Cadw.